Aled Davies yn cipio ail fedal aur i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad

Aled Sion DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ennilloedd Aled Davies fedal aur yng ngemau Birmingham yn 2022 ac arian yn Glasgow yn 2014

  • Cyhoeddwyd

Mae Aled Sion Davies wedi ennill medal aur arall i Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad ar ôl dod i'r brig yng nghystadleuaeth y ddisgen F42-44/61-64.

Dyma'r ail fedal aur i dîm Cymru ei hennill yn Glasgow, a hynny yn dilyn llwyddiant Ruby Evans yn y gymnasteg ddydd Mawrth.

Mae Davies yn un o'r athletwyr mwyaf llwyddiannus yn hanes Cymru ac roedd wedi awgrymu mai'r gemau yn Glasgow fyddai'r tro olaf iddo wisgo crys Cymru.

Wedi'r fuddugoliaeth dywedodd fod ennill medal aur arall i Gymru - fel iddo ei wneud yn y gemau yn Birmingham yn 2022 - yn brofiad "arbennig".

Disgrifiad,

Aled Sion Davies 'mor prowd' rhoi llwyfan i chwaraeon anabledd

"Dwi methu credu fy mod i wedi cyflawni hyn wedi blwyddyn mor anodd," meddai.

"Dyw fy mherfformiadau i heb fod cystal â gallen nhw fod ac roedd hynny'n anodd, ond dwi wedi gweithio'n galed a rhoi ffydd yn y broses.

"...Dwi mor falch fy mod i wedi cadw fy mherfformiad gorau eleni ar gyfer Gemau'r Gymanwlad."

Roedd nos Fercher yn noson lwyddiannus i daflwyr Cymru gyda Funmi Oduwaiye yn cipio'r arian a Bree Cronin yn sicrhau'r efydd yng nghystadleuaeth y ddisgen F42-44/F61-64 i fenywod.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig