Ysgolion wedi cau a threnau wedi eu canslo yn sgil y gwres eithafol

Rhybudd cochFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  • Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o ysgolion wedi bod ynghau, a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru wedi newid trefniadau, wrth i'r rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol ddod i rym mewn rhannau o'r wlad.

Daeth y rhybudd coch i rym am 09:00 ddydd Mercher ar gyfer nifer o siroedd yn ne a chanolbarth Cymru, ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi ei ymestyn tan 23:59 nos Iau.

Mae rhybudd oren mewn grym ar gyfer pob sir yng Nghymru trwy gydol dydd Mercher a dydd Iau.

Mae nifer o wasanaethau trenau wedi cael eu canslo ddydd Mercher oherwydd effeithiau'r gwres.

Cafodd tymheredd o 33.3C ei gofnodi ym Mharc Bute yng Nghaerdydd ddydd Mercher, y diwrnod cynhesaf hyd yma eleni.

Dywedodd y prif weinidog Rhun ap Iorwerth fod y rhybudd yn un "difrifol i fywyd" a'i bod yn bwysig bod pobl yn ei gymryd o ddifrif.

"Mae'n debygol iawn y byddwn ni'n gweld y tymheredd uchaf erioed yng Nghymru dros y dyddiau nesaf," meddai.

Plant yn cerdded o'r ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd o ysgolion ynghau ddydd Mercher, gyda rhai disgyblion yn cael eu hanfon adref ddiwedd y bore oherwydd y gwres eithafol

Mae dros 600 o ysgolion mewn o leiaf 14 sir wedi bod ynghau'n llwyr neu'n rhannol ddydd Mercher, gyda channoedd i gau eto ddydd Iau oherwydd y tywydd eithafol.

Mae'r rheiny'n cynnwys ysgolion yn Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae mwy o wybodaeth ar wefannau'r awdurdodau lleol.

Awyr las yn Llangedwyn, Powys, fore MercherFfynhonnell y llun, Elin/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Awyr las oedd yn Llangedwyn, Powys, fore Mercher

Mae cynghorau'n dweud eu bod yn monitro'r sefyllfa ac yn gweithio gydag ysgolion i asesu'r risgiau.

Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful fod diwrnodau chwaraeon a theithiau ysgol yn cael eu gohirio neu eu canslo lle bo' modd, gyda llai o weithgarwch corfforol a mwy o egwyliau dŵr yn cael eu trefnu.

Mae'r cyngor hefyd wedi gofyn i ysgolion ystyried lleihau'r amser y mae disgyblion yn ei dreulio yn yr haul a darparu prydau ysgafnach yn ystod y cyfnod poeth.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dweud y dylai ysgolion roi "ystyriaeth ddifrifol" i addasu, gohirio neu ganslo digwyddiadau os nad oes modd lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwres.

Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg mai penderfyniad pob ysgol unigol fydd trefnu unrhyw newidiadau i weithgareddau neu oriau agor.

Niwl ar y prom yn AberystwythFfynhonnell y llun, WendyHouse/BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Er y tymereddau uchel roedd hi'n niwlog yn Aberystwyth fore Mercher

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi canslo nifer o wasanaethau trenau ddydd Mercher yn sgil y tywydd eithafol a phrinder trenau.

Mae llai o drenau yn teithio rhwng Manceinion a Chaerdydd drwy Crewe ac Amwythig.

Mae llai o drenau hefyd rhwng Wrecsam a Chaer.

Mae trenau rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi cael eu canslo i'r ddau gyfeiriad tan nos Fercher, gyda Thrafnidiaeth Cymru yn trefnu trafnidiaeth arall i deithwyr.

Yn y de mae llai o drenau rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy.

Does yna ddim gwasanaeth rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg, na rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd.

Mae Great Western Railway wedi dweud y bydd yn rhedeg amserlen ddiwygiedig yn ystod y cyfnod o wres eithafol, gan annog pobl i deithio dim ond os yw'n hanfodol ddydd Mercher ac Iau oherwydd y risg y gallai'r gwres effeithio ar y traciau a rhai trenau.

Afon ElwyFfynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Afon Elwy yn sych iawn yn y gogledd ddwyrain fore Mercher

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi annog pobl i "weithredu ar unwaith" yn sgil y rhybudd coch.

"Gall gwres eithafol gael effeithiau difrifol ar iechyd," meddai'r corff.

"Yng Nghymru, lle nad yw cartrefi a threfnau dyddiol wedi'u cynllunio ar gyfer tymereddau uchel parhaus, gall pobl fynd yn sâl yn gyflymach nag y gallent ei ddisgwyl.

"Gall salwch sy'n gysylltiedig â gwres effeithio ar unrhyw un, ond mae pobl hŷn, babanod a phlant bach, a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol yn wynebu'r risg fwyaf.

"Gall pobl sy'n gweithio yn yr awyr agored, yn byw mewn fflatiau ar y llawr uchaf, neu sy'n agored i'r gwres am gyfnodau hir fod yn arbennig o agored i niwed hefyd."

Maen nhw'n annog pobl i yfed dŵr yn rheolaidd ac osgoi alcohol, caffein a diodydd llawn siwgr, ac aros allan o'r haul ac yn y cysgod cymaint â phosibl.

Mirgathod Sw Mynydd Cymru yn torheulo yn yr haulFfynhonnell y llun, Sw Mynydd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mirgathod Sw Mynydd Cymru yn torheulo yn yr haul - mae'r sw yn cymryd mesurau i ddiogelu eu hanifeiliaid yn y tywydd poeth

Mae nifer o gynghorau hefyd wedi newid trefniadau gwasanaethau er mwyn diogelu staff sy'n gweithio yn yr awyr agored.

Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn dechrau'n gynharach na'r arfer yng Nghaerdydd, Torfaen a Merthyr Tudful yn ystod y cyfnod o wres eithafol.

Mae Cyngor Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd Amgueddfa Casnewydd, yr Oriel Gelf a'r Llyfrgell Ganolog yn cau ddydd Mercher a dydd Iau oherwydd y tymheredd uchel sy'n cael ei ragweld.

Arwydd rhybudd am dywydd eithafol, gyda Phont Hafren yn y cefndir Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na gamau sy'n gallu cael eu cymryd er mwyn ein diogelu ni gyd - mae hwn yn rybudd difrifol i fywyd," meddai Rhun ap Iorwerth

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp lefel uchel sy'n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau eraill i gydlynu'r ymateb.

Ychwanegodd fod llythyr wedi'i anfon at gyfarwyddwyr addysg ledled Cymru yn pwysleisio bod plant ymhlith y rhai a all fod yn fregus yn ystod y gwres eithafol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod cymunedau'n chwarae rhan bwysig wrth edrych ar ôl pobl fregus, gan annog pobl i "gadw llygad ar ein gilydd" yn ystod y cyfnod poeth.

"Mae 'na gamau sy'n gallu cael eu cymryd er mwyn ein diogelu ni gyd - mae hwn yn rybudd difrifol i fywyd," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig