Disgwyl i Rhun ap Iorwerth gael ei gadarnhau'n brif weinidog ddydd Mawrth

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Grŵp Plaid Cymru fydd y mwyaf yn y Senedd newydd, gyda 43 aelod

GanCatrin Haf Jones
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth gael ei gadarnhau'n brif weinidog nesaf Cymru yng nghyfarfod cyntaf y Senedd ddydd Mawrth, yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol ei blaid yn yr etholiad.

Daeth Plaid Cymru â chanrif o lwyddiant etholiadol Llafur yng Nghymru i ben yr wythnos diwethaf, ynghyd â 27 mlynedd wrth y llyw yng Nghaerdydd.

Mae'r llwybr nawr yn glir i Rhun ap Iorwerth gael ei gadarnhau yn brif weinidog gan fod disgwyl i Lafur a'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds ymatal, tra bod dau aelod newydd y Gwyrddion yn bwriadu cefnogi Plaid Cymru.

Rhun ap Iorwerth fydd arweinydd cyntaf Llywodraeth Cymru i beidio â bod o'r blaid Lafur.

Bydd angen i'r Senedd newydd, sydd â 96 aelod, hefyd benderfynu pwy fydd Llywydd nesa' Senedd Cymru - gydag enwau Huw Irranca-Davies o Lafur a Paul Davies o'r Ceidwadwyr yn y ras.

Bydd aelodau'r Senedd newydd yn enwebu eu dewis o brif weinidog ar lafar, un ar ôl y llall, a gyda chefnogaeth y Gwyrddion, a bwriad Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol i ymatal, mae'n golygu na fydd digon o bleidleisiau ar ôl gan unrhyw un arall - fel Dan Thomas o Reform - i herio Mr ap Iorwerth.

Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud wrth i'r rhestr aelodau gael eu galw i enwebu prif weinidog.

Ond hyd yn oed wrth gefnogi Dan Thomas, byddai bloc Plaid Cymru a'r Gwyrddion dal yn ennill o ran niferoedd.

Ar ôl i aelodau enwebu prif weinidog bydd angen i Rhun ap Iorwerth gael ei dyngu i mewn gan farnwr Uchel Lys, cyn iddo allu dod yn brif weinidog yn swyddogol.

Dan ThomasFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i aelodau Reform enwebu Dan Thomas i fod yn brif weinidog

Dydd Llun doedd hi ddim yn glir a fyddai'r bleidlais yn mynd yn ei blaen, oherwydd ansicrwydd ynghylch pwy fyddai'n cymryd swydd y dirprwy lywydd.

Ond yn unol â rheolau sefydlog y Senedd, mae llefarydd ar ran Plaid Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd y blaid yn enwebu rhywun ar gyfer y rôl.

Os yw'r llywydd yn aelod o wrthblaid - fel Huw Irranca-Davies o Lafur neu Paul Davies o'r Ceidwadwyr - yna mae rhaid i'r dirprwy lywydd fod yn aelod o'r llywodraeth.

Bydd Plaid Cymru yn cynnal cyfarfod o'u grŵp aelodau etholedig yn y Senedd fore Mawrth - y 43 ohonyn nhw.

Mae hyn chwe sedd yn brin o fwyafrif, ond yn ddigon i Rhun ap Iorwerth fwrw 'mlaen â'i nod o greu llywodraeth leiafrifol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn "barod i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru ac rydym yma fel cynrychiolwyr o Gymru gyfan, heb amheuaeth, pob cymuned".

"Byddwn yn gwneud popeth i ad-dalu'r ffydd y mae pobl wedi rhoi ynom ni, oherwydd mae gennym yr awch amlwg i wneud gwahaniaeth i'r hyn sy'n bwysig i fywydau pobl."

'Lefel uwch o graffu'

Ond mae'n golygu y bydd angen i Blaid Cymru gael cymorth pleidiau eraill ar gyfer pleidleisiau hollbwysig fel pasio cyllideb.

Enillodd Reform 34 sedd yn y Senedd yn dilyn yr etholiad ddydd Iau, sy'n golygu mai nhw nawr yw'r ail grŵp mwyaf Senedd Cymru - gyda disgwyl i'r blaid ffurfio rhan helaetha'r wrthblaid i lywodraeth Plaid Cymru.

Yn ôl aelod newydd Reform ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, Llŷr Powell, bydd ei blaid yn "ychwanegu lefel uwch o graffu" i'r hyn sy'n digwydd ym Mae Caerdydd.

"Mae wir angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael manylion yr hyn mae'r llywodraeth newydd yma am wneud.

"Bydd y gyllideb yn flaenoriaeth i ni er mwyn sicrhau bod arian yn mynd lle bod angen iddo fynd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.