Cyhoeddi rhagor o brif artistiaid Eisteddfod y Garreg Las

Maes yr Eisteddfod
  • Cyhoeddwyd

Mae rhagor o artistiaid wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las eleni ac mae'r rhestr gychwynnol yn cynnwys dros gant o berfformwyr.

Yn ogystal â'r llu o fandiau fydd yn ymddangos ar y gwahanol lwyfannau, mae'r cyhoeddiad fore Sadwrn yn cynnwys perfformwyr y celfyddydau gweledol a chomedi.

Mae prif artistiaid Maes B eisoes wedi'u cyhoeddi, gan gynnwys rhai enwau cyfarwydd fel y Super Furry Animals, Elis James a Candelas a fydd yn perfformio ar Lwyfan y Maes - ond ymhlith y perfformwyr eraill mae Aleighcia Scott, Pedair, Bwncath a Huw Chiswell.

Dywedodd yr Eisteddfod y bydd cyhoeddiad pellach a rhestr lawn o artistiaid a pherfformwyr ar gael o ganol fis Mehefin.

Rhestr artistiaidFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Super Furry Animals fydd yn cloi'r nos Sadwrn cyntaf, gydag Alaw a Blodeugerdd ymysg y rhai eraill fydd yn perfformio.

Ar ddydd Sul, mae Candelas, a fydd hefyd yn perfformio ar lwyfan Maes B, gyda Beirdd y Cilie, a Bois y Frenni i'w gweld hefyd.

Welsh of the West End x Y Band Mawr fydd yn cloi'r adloniant ar lwyfan y Maes ar ddydd Llun, gyda Cowbois Rhos Botwnnog a Caryl Lewis yn perfformio hefyd.

Ar ddydd Mawrth, mae Pedair yn dilyn Ar Log a Brwydr y Bandiau Gwerin.

Elis James fydd yn perfformio ddydd Mercher yn dilyn Brwydr y Bandiau, Buddug a Bwncath.

Ar ddydd Iau, Cordia fydd yn dod â'r noson i ben, gydag Aleighcia Scott a Morgan Elwy, Atgof o'r Ser a Catrin Feelings ymysg rhai o'r perfformwyr eraill.

Y Bandana fydd yn perfformio olaf ar lwyfan y Maes ddydd Gwener, yn dilyn Carwyn Elis & Rio 18, Cyn Cwsg a Daf James.

Yna ar ddiwrnod olaf y brifwyl, mi fydd modd gweld Fleur De Lys, Aled Gwyn Parc Nest, Aneirin Karadog & Eurig Salisbury, ac Ani Glass.

Rhestr artistiaidFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Mae'r llu o artistiaid a pherfformwyr rydyn ni'n eu cyhoeddi heddiw yn rhoi blas o'r hyn fydd ar gael ar y Maes yn Eisteddfod y Garreg Las eleni – ac, wrth gwrs, mae'r cyfan wedi'i gynnwys ym mhris tocyn dydd, fel arfer.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r pwyllgorau yn lleol am dros flwyddyn a hanner, ac mae pawb yn hynod o falch o allu datgelu heddiw pwy fydd yn ymddangos ar y Maes yn 2026."

Dywedodd yr Eisteddfod fod y cyfle i brynu tocynnau bargen gynnar yn dod i ben nos Sul am hanner nos.

Bydd Eisteddfod Y Garreg Las yn cael ei chynnal o 1-8 Awst.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.