Canfod degau o ysgerbydau ar hen safle ysbyty yn y gorllewin

Hen ysbyty Aberteifi
  • Cyhoeddwyd

Mae canfyddiad bron i ddeugain o ysgerbydau gan archaeolegwyr ar hen safle ysbyty yn Aberteifi yn "sylweddol" ac "annisgwyl", yn ôl hanesydd.

Cafodd esgyrn dynion, menywod a phlant eu canfod ar dir hen safle'r Ysbyty Coffa yn Aberteifi, Ceredigion, sy'n cael ei ailddatblygu gan gymdeithas Tai Wales & West (WWHA).

Yn ôl adroddiad archaeolegol gan WWHA, fe gafodd 38 o ysgerbydau eu cloddio a'r gred ydy eu bod yn dyddio'n ôl i'r 12fed Ganrif.

Dywedodd yr hanesydd, Glen Johnson, fod y safle'n "ddigon mawr ac yn ddigon hen fel bod yna botensial y bydd mwy o weddillion archaeolegol yno".

GweddillionFfynhonnell y llun, WWHA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pum bedd yn cynnwys gweddillion eirch

Cafodd yr ysgerbydau eu disgrifio fel "mewn cyflwr gwael... ac wedi'u dad-gymalu", ond fe ddaethon nhw o hyd i bum bedd oedd yn cynnwys gweddillion eirch.

Mae eu trefn yn arwyddocaol hefyd yn ôl yr adroddiad, a gan eu bod wedi'u trefnu o'r dwyrain i'r gorllewin mae hynny'n nodweddiadol o gladdedigaethau Cristnogol ôl-Rufeinig.

Dywedon nhw hefyd bod modd dyddio'r gweddillion i'r 12fed Ganrif, ac o bosibl o fynwent ar gyfer pobl dlawd ychydig i'r gogledd o eglwys oedd arfer bod ar y safle.

Barel prenFfynhonnell y llun, WWHA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sawl eitem arall eu canfod, yn eu plith roedd y barel pren yma sydd o gyfnod cyn yr oesoedd canol

Cafodd esgyrn a dannedd anifeiliaid eu canfod hefyd, a theils llawr, darnau o fric a darnau o aradr haearn, gwydr, cregyn llymarch (oyster), crochenwaith a llechi to.

Dywedodd Glen Johnson, sy'n hanesydd o'r ardal mai siŵr o fod "beddi pobl y dref o wahanol ddosbarthiadau oedd y rhain yn dyddio yn ôl i'r cyfnod cyn diddymu'r mynachlogydd yn y 1500au".

GweddillionFfynhonnell y llun, WWHA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hanesydd Glen Johnson yn disgrifio'r canfyddiadau fel rhai "cyffrous" a "sylweddol"

"Mae'r canfyddiadau reit gyffrous a sylweddol," meddai.

"Er eu bod wedi nodi lefel gweddill y safle o ran sensitifrwydd archaeolegol fel un rhwng isel a chanolig, mae'r safle'n ddigon mawr ac yn ddigon hen fel bod yna botensial y bydd mwy o weddillion archaeolegol yno."

Tynnodd sylw at eitemau eraill fel crochenwaith sy'n cael eu nodi yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2023, ond a ddaeth i'r amlwg mewn cyfarfod o Gyngor Tref Aberteifi yn gynharach y mis yma.

Darn o arfFfynhonnell y llun, WWHA
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r canfyddiadau mwyaf annisgwyl oedd darnau o offer o'r Oes Efydd neu ddiwedd y cyfnod Neolithig, meddai Glen Johnson

"Yn ogystal â'r claddedigaethau, mae llawer o grochenwaith canoloesol wedi cael ei ddarganfod, ynghyd â phyllau a ffosydd o wahanol gyfnodau cyn oes yr Ysbyty Coffa," meddai Johnson.

"Efallai mai'r [canfyddiad] mwyaf annisgwyl yw sawl offeryn fflint o'r Oes Efydd neu ddiwedd y cyfnod Neolithig, sy'n awgrymu bod y safle yma wedi'i feddiannu neu ei ddefnyddio yn y cyfnod cyn-hanesyddol."

Caeodd Ysbyty Aberteifi yn 2019 a chymerodd WWHA drosodd. Mae cynlluniau i godi fflatiau, swyddfeydd, caffi a llwybrau cerdded yno.

Roedd rhai yn poeni am ddyfodol yr adeilad gan ddadlau bod ganddo bwysigrwydd pensaernïol - gan fod rhan ohono wedi cael ei ddylunio gan y pensaer enwog John Nash.

Ond yn rhan o'r cytundeb ar y cyd â chwmni adeiladu Jamson Estates o Geredigion, mi fydd yn rhaid cadw ac uwchraddio adeilad gwreiddiol y Priordy.

Mewn cyfarfod gan gyngor y dref ym mis Mai, dywedodd WWHA fod disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Mehefin.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig