Crynodeb

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 16:56 GMT+1

    EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod

    Diolch am ddilyn ein llif byw heddiw.

    Dyma oriel o rai o'n hoff luniau o'r dydd.

    Fe fydd criw Cymru Fyw yn crwydro'r maes eto yfory, welwn ni chi yn Llantwd!

  2. Pwy sy'n cystadlu ym Mrwydr y Bandiau eleni?wedi ei gyhoeddi 16:44 GMT+1

    Draw ar sianel YouTube, dolen allanol BBC Radio Cymru gallwch wylio perfformiadau gan y tri band fydd yn ymddangos yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Yn perfformio yn y rownd derfynol eleni mae Lucy Borja, Pry ar y Wal a Heledd a Mared.

    Mae Brwydr y Bandiau yn bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Radio Cymru. Bydd y band buddugol yn ennill y cyfle i berfformio ar lwyfan Maes B nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod a £1000.

    Os ydych chi ar faes yr Eisteddfod, cewch wylio'r bandiau'n fyw ar Lwyfan y Maes am 17:00.

  3. Llongyfarchiadau i Gareth Evans-Jones!wedi ei gyhoeddi 16:35 GMT+1

    Gareth Evans-Jones

    Gareth Evans-Jones o Ynys Môn yw enillydd Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

    Mwy yma.

    BBC
  4. Pwy fydd yn sefyll yn y Pafiliwn?wedi ei gyhoeddi 16:32 GMT+1

    Mae ffugenw enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod y Garreg Las wedi ei ddatgelu ar y llwyfan, ond pwy yw 'Isha'?

    Dyma oedd gan un o'r beirniaid, Iwan Rhys i'w ddweud am y gwaith buddugol: "Dyma gampwaith y bydd rhywun am ddychwelyd ato i chwilio am fwy, a'i ganfod, dro ar ôl tro".

    Rydym ar fin darganfod pwy sydd wedi ennill...

  5. Perfformio yn y Pafilwin yn "teimlo fel rhywbeth mawr" i Elis Jameswedi ei gyhoeddi 16:27 GMT+1

    Cafodd Cymru Fyw sgwrs sydyn ar y maes gydag Elis James, wrth iddo baratoi i berfformio yn y Pafiliwn heno.

  6. 28 wedi cystadlu eleniwedi ei gyhoeddi 16:18 GMT+1

    Mae'r beirniad Meleri Wyn James wedi datgelu ar y llwyfan fod 28 o geisiadau wedi eu derbyn am y Fedal Ryddiaith eleni.

    "Yn sicr roedden ni fel beirniaid yn teimlo fel ei fod yn fater o falchder. Os yw Medal Ryddiaith Eisteddfod y Garreg Las yn arwydd, yna mae dyfodol rhyddiaith Gymraeg yn ddisglair iawn."

    Seremoni y Fedal Ryddiaith
  7. Mae seremoni wobrwyo'r Prif Lenor Rhyddiaith wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 16:11 GMT+1

    BBC

    Gwrandewch ar BBC Radio Cymru ar frig y dudalen hon, neu gwyliwch yn fyw ar wasanaeth Sedd yn y Pafiliwn ar iPlayer.

  8. Daniel yn arwain unwaith etowedi ei gyhoeddi 15:59 GMT+1

    Fe gafodd Daniel Rees hwyl ar arwain y Gymanfa Ganu nos Sul, ac roedd yn ôl ar y maes heddiw yn arwain Côr Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn.

    corFfynhonnell y llun, bbc
    torf
    Disgrifiad o’r llun,

    Daeth torf fawr i Lwyfan y Maes i wrando ar y côr

  9. Barod am y seremoni?wedi ei gyhoeddi 15:45 GMT+1

    Mae ciw yn tyfu ar gyfer gwylio seremoni wobrwyo'r Prif Lenor Rhyddiaith yn y Pafiliwn am 16:00.

    Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Meleri Wyn James, Iwan Rhys ac Angharad Price.

    Ciw Pafiliwn
  10. Elis James yn barod i ddiddanuwedi ei gyhoeddi 15:41 GMT+1

    Mae'r comediwr Elis James wedi cyrraedd y Maes yn barod am ei berfformiad stand yp yn y pafiliwn heno.

    elis james
  11. Ennill Dysgwr y Flwyddyn 2026 yn 'boncyrs' - Jonathan Davieswedi ei gyhoeddi 15:32 GMT+1

    Dywedodd Jonathan Davies bod ennill Dysgwr y Flwyddyn 2026 yn "boncyrs".

    Yn siarad gydag Aled Hughes, dywedodd fod y tri arall a gyrhaeddodd y rhestr fer yn "bobl hyfryd" ac yn "siaradwyr ffantastig ac ysbrydoledig eu hunain".

    Gwrandewch yn llawn isod.

  12. Cyn-enillwyr Tlws Sbardun yn dathlu 10 mlynedd o'r gystadleuaethwedi ei gyhoeddi 15:22 GMT+1

    Mae'r Tŷ Gwerin yn llawn ar hyn o bryd ar gyfer perfformiadau i ddathlu 10 mlynedd o Dlws Sbardun.

    Roedd y cerddor Alun 'Sbardun' Huws yn un o'r rhai a sefydlodd Y Tebot Piws a bu hefyd yn aelod o sawl band arall - yn eu plith Ac Eraill a Mynediad am Ddim.

    Yn dilyn ei farwolaeth yn 2014, fe benderfynodd ei weddw, Gwenno, sefydlu cystadleuaeth er mwyn denu cerddorion ifanc i gyfansoddi.

    Yn perfformio heddiw mae cyn-enillwyr y tlws, gan gynnwys Elidyr Glyn, Gwilym Bowen Rhys ac Alis Glyn.

    Elidyr Glyn yn canu Curiad y Dydd yn y Tŷ Gwerin, ei gân fuddugol ddegawd yn ôl
    Disgrifiad o’r llun,

    Elidyr Glyn yn canu Curiad y Dydd yn y Tŷ Gwerin, ei gân fuddugol ddegawd yn ôl

  13. Canlyniadau'r dydd hyd yma o'r Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 15:15 GMT+1

    Llongyfarchiadau i Eiriana Jones-Campbell, enillydd cystadleuaeth yr unawd mezzo | contralto | gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed.

    Byddwn yn diweddaru'r dudalen yma trwy gydol y prynhawn wrth i fwy o ganlyniadau cystadlaethau'r Pafiliwn gael eu cyhoeddi.

    Gwyliwch ran o berfformiad Eiriana isod.

  14. Dysgwr y flwyddyn: 'Cerwch amdani - wnewch chi ddim difaru'wedi ei gyhoeddi 15:03 GMT+1

    Wrth ddatgan mai Jonathan Davies yw enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2026, dywedodd un o'r beirniaid, Karl Davies y gallai unrhyw un o'r pedwar fod wedi ennill, gan fod y safon mor uchel.

    Dywedodd Jonathan, sydd o Lwchwr ger Abertawe, bod ei Dad hefyd bellach yn dysgu Cymraeg.

    Wrth siarad yn ystod y seremoni roedd gan Jonathan neges glir i unrhywun arall sy'n ystyried dysgu'r iaith: "Ewch amdani, wnewch chi ddi difaru".

    Gwyliwch fwy o'r seremoni isod.

  15. Llwyfan fywiog Theatr Stryd yn denu torfeyddwedi ei gyhoeddi 14:54 GMT+1

    Mae Llwyfan Theatr Stryd wedi bod yn brysur heddiw gyda perfformiadau o raglen Dawns Gynhwysol Gofal Celf, ac hefyd Curiad y Clocsiau.

    theatr
    dawns
  16. Christine James yn Ateb y Galwwedi ei gyhoeddi 14:47 GMT+1

    Christine James sy'n Ateb y Galw ar Cymru Fyw yr wythnos hon.

    Hi oedd y ddynes gyntaf i fod yn archdderwydd, a hynny yn Eisteddfodau 2013-15. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 a gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2014.

    Hi bellach yw Cofiadur yr Orsedd ac mae'n rhan o seremonïau'r Pafiliwn yr wythnos hon.

    Darllenwch yn llawn yma.

  17. O Ganada i Gymruwedi ei gyhoeddi 14:37 GMT+1

    Ceri Owen-Jones

    Ceri Owen-Jones, o Ganada yn wreiddiol, ond yn byw yng Nghei Newydd ers 15 mlynedd ar ei ffordd i gyfeilio i Ddawnswyr Talog.

    "Dwi'n hoff iawn o'r Lle Celf, ac mi ro'n i'n chwarae yno ddoe yn yr ardd," meddai.

  18. Ceisio cael 'lineup mwy beiddgar ym Maes B' eleni - Fflur Jameswedi ei gyhoeddi 14:27 GMT+1

    Mae Fflur James, Cadeirydd Maes B a rhoces o Lantwd, wedi bod yn sgwrsio gyda Carwyn Blayney ar Radio Cymru am weithgareddau Maes B a hefyd tafodiaith yr ardal.

    Dywedodd Fflur ei bod yn fraint bod yn gadeirydd mewn Steddfod leol a'i bod yn "rili edrych mlaen" at noson gyntaf Maes B ar ôl wythnos brysur yn cystadlu.

    Gwrandewch yn llawn isod.

  19. Manteisio ar gyfnod tawelwedi ei gyhoeddi 14:07 GMT+1

    Margaret Nock

    Margaret Nock yn stiwardio tu cefn i'r llwyfan yn y Pafiliwn ac yn gweu pan mae'n dawel.

    Mae hi wedi mwynhau ambell i ddarlith ar y Maes. Meddai: "Nes i wrando ar ddarlith difyr am weinidog yn yr UDA oedd yn erbyn caethwasiaeth.

    "Dwi hefyd wedi mwynhau gwrando ar gerddoriaeth traddodiadol yr ardal yn y Tŷ Gwerin. "

  20. Ydi'ch enw chi yma?wedi ei gyhoeddi 13:54 GMT+1

    Arwydd Steddfod

    Mae'n arferiad i gystadleuwyr lofnodi eu henwau ar yr arwydd Eisteddfod sydd gefn llwyfan, ac mae'r bylchau yn llenwi wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen.

    Arwydd Steddfod
    Arwydd Steddfod