Gareth Evans-Jones o Fôn yn ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod

- Cyhoeddwyd
Gareth Evans-Jones o Ynys Môn yw enillydd Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mae eisoes wedi ennill y Fedal Ddrama ddwywaith o'r blaen, yn 2019 a 2021.
Roedd 28 o ymgeiswyr eleni mewn cystadleuaeth "o safon uchel iawn", ond dywedodd y beirniaid bod y gwaith yn haeddu ennill "am ei chynfas eang, ei chwareustra, a'i dyfeisgarwch".
Cafodd y fedal ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Mur' neu 'Muriau'. Y beirniaid oedd Meleri Wyn James, Iwan Rhys ac Angharad Price.
Mae ennill y Fedal Ryddiaith y "tu-hwnt i eiriau"
Roedd pedwar yn haeddu cyrraedd y dosbarth cyntaf o'r rhai a wnaeth ymgeisio, ac fe wnaeth y beirniaid longyfarch Cadno, Isha, O Bach a Pibydd.
"Llongyfarchiadau twymgalon i'r pedwar awdur: mae'n gysur i ni fel beirniaid, y gallwn edrych ymlaen yn awchus at weld gwaith pob un yn cael ei gyhoeddi, i bawb allu rhyfeddu at eich dawn."
Dywedodd hefyd bod "nifer fawr yn haeddu cael eu cyhoeddi", yn cynnwys Alba, Jo Bach, Morlo, Panad, Siriol ac Y Mynyddwr.
Dywedodd bod y gystadleuaeth eleni yn arwydd o ddyfodol "disglair iawn" rhyddiaith Gymraeg.

Dywedodd yr Archdderwydd Mererid Hopwood fod y llenor ei hun yn disgrifio'r gyfrol fel un sydd "fymryn bach yn anarferol"
Ond ar ôl trafod yn frwd, dywedodd Meleri Wyn James bod gwaith Isha yn dod i'r brig.
Mae'n "nofel hynod" sy'n "dechrau yn y dechreuad" gyda chymeriad Beiblaidd, Efa, meddai.
"Mae'r ieithwedd yn llafar, bron yn blentynnaidd wrth i Efa ddechrau synhwyro gweld, arogli a phrofi'r byd mae'n byw ynddo.
"Mae'r arddull yn aeddfedu'n naturiol wrth iddi ddysgu am y byd o'i chwmpas gan adrodd stori dynoliaeth o enau'r ddynes gyntaf a hynny nes ein hoes ni heddiw, AI a'i holl heriau."
Dywedodd mai geiriau'r beirniad Angharad Price oedd bod y llenor wedi "cyflwyno testament amwys i ddynoliaeth i ni, ynghyd ag ymateb creadigol trawiadol i rai o heriau mawr ein hoes".
"Dywed Iwan mai dyma gampwaith y bydd rhywun am ddychwelyd ato i chwilio am fwy a'i ganfod dro ar ôl tro."

Roedd y pafiliwn yn orlawn ar gyfer y seremoni ddydd Mercher
Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn.
Mae'n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.
Mae'n parhau i lenydda, wedi cyhoeddi dwy nofel i oedolion, Eira Llwyd ac Y Cylch, cyfrol o len micro a ffotograffau, Cylchu Cymru: Llun a Llen wrth Gerdded (a enillodd Wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023), a chyfrol o straeon byrion i blant, Llanddafad (a enillodd wobr Dewis y Darllenwyr yng Ngwobrau Tir na-nOg 2025).
Mae hefyd wedi golygu a chyd-olygu cyfrolau academaidd a chreadigol, gan gynnwys Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+ ac Ar Amrantiad.
Enillodd Fedal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn 2019 a 2021, gyda rhai o'r gweithiau iddo'u sgriptio gael eu cynhyrchu, gan gynnwys Adar Papur (cynhyrchiad digidol ar YouTube), Ynys Alys (Fran Wen), a Dilyn Sgwarnog (Sioe Gynradd Eisteddfod yr Urdd Ynys Mon eleni). Mae hefyd yn barddoni ac fe luniodd cerdd groeso Eisteddfod yr Urdd 2026.
Bydd y gyfrol ar werth ar ddiwedd y seremoni mewn siopau llyfrau ar y Maes ac ar draws Cymru.
Mae'r fedal eleni yn rhoddedig gan Hazel, Geralyn, ac Eirlys Non er cof am eu rhieni, Gwynfi a Megan Williams, Blaenmorw, Capel Newydd i ddiolch am fagwraeth hyfryd a'u trwytho yn y "pethe".
Mae'r wobr ariannol o £750 yn rhoddedig gan John a Bethan Davies, Cwmbetws - John Davies yw cadeirydd y pwyllgor gwaith.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2025

