Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 16:56 GMT+1
Ffynhonnell y llun, EisteddfodDiolch am ddilyn ein llif byw heddiw.
Dyma oriel o rai o'n hoff luniau o'r dydd.
Fe fydd criw Cymru Fyw yn crwydro'r maes eto yfory, welwn ni chi yn Llantwd!
Jonathan Davies yn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn
Anrhydeddu y Prif Lenor Rhyddiaith
Helen Prosser yn derbyn gwobr am gyfraniad eithriadol i'r sector dysgu Cymraeg
Tlws Sbardun sy'n ysbrydoli cerddorion ifanc yn ddeg oed eleni
Heno cyhoeddi enillydd Brwydr y Bandiau - 17 wedi cystadlu eleni
Ffynhonnell y llun, EisteddfodDiolch am ddilyn ein llif byw heddiw.
Dyma oriel o rai o'n hoff luniau o'r dydd.
Fe fydd criw Cymru Fyw yn crwydro'r maes eto yfory, welwn ni chi yn Llantwd!
Draw ar sianel YouTube, dolen allanol BBC Radio Cymru gallwch wylio perfformiadau gan y tri band fydd yn ymddangos yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni. Yn perfformio yn y rownd derfynol eleni mae Lucy Borja, Pry ar y Wal a Heledd a Mared.
Mae Brwydr y Bandiau yn bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Radio Cymru. Bydd y band buddugol yn ennill y cyfle i berfformio ar lwyfan Maes B nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod a £1000.
Os ydych chi ar faes yr Eisteddfod, cewch wylio'r bandiau'n fyw ar Lwyfan y Maes am 17:00.

Gareth Evans-Jones o Ynys Môn yw enillydd Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Mwy yma.

Mae ffugenw enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod y Garreg Las wedi ei ddatgelu ar y llwyfan, ond pwy yw 'Isha'?
Dyma oedd gan un o'r beirniaid, Iwan Rhys i'w ddweud am y gwaith buddugol: "Dyma gampwaith y bydd rhywun am ddychwelyd ato i chwilio am fwy, a'i ganfod, dro ar ôl tro".
Rydym ar fin darganfod pwy sydd wedi ennill...
Cafodd Cymru Fyw sgwrs sydyn ar y maes gydag Elis James, wrth iddo baratoi i berfformio yn y Pafiliwn heno.
Mae'r beirniad Meleri Wyn James wedi datgelu ar y llwyfan fod 28 o geisiadau wedi eu derbyn am y Fedal Ryddiaith eleni.
"Yn sicr roedden ni fel beirniaid yn teimlo fel ei fod yn fater o falchder. Os yw Medal Ryddiaith Eisteddfod y Garreg Las yn arwydd, yna mae dyfodol rhyddiaith Gymraeg yn ddisglair iawn."


Gwrandewch ar BBC Radio Cymru ar frig y dudalen hon, neu gwyliwch yn fyw ar wasanaeth Sedd yn y Pafiliwn ar iPlayer.
Fe gafodd Daniel Rees hwyl ar arwain y Gymanfa Ganu nos Sul, ac roedd yn ôl ar y maes heddiw yn arwain Côr Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn.
Ffynhonnell y llun, bbc
Daeth torf fawr i Lwyfan y Maes i wrando ar y côr
Mae ciw yn tyfu ar gyfer gwylio seremoni wobrwyo'r Prif Lenor Rhyddiaith yn y Pafiliwn am 16:00.
Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Meleri Wyn James, Iwan Rhys ac Angharad Price.

Mae'r comediwr Elis James wedi cyrraedd y Maes yn barod am ei berfformiad stand yp yn y pafiliwn heno.

Dywedodd Jonathan Davies bod ennill Dysgwr y Flwyddyn 2026 yn "boncyrs".
Yn siarad gydag Aled Hughes, dywedodd fod y tri arall a gyrhaeddodd y rhestr fer yn "bobl hyfryd" ac yn "siaradwyr ffantastig ac ysbrydoledig eu hunain".
Gwrandewch yn llawn isod.
Mae'r Tŷ Gwerin yn llawn ar hyn o bryd ar gyfer perfformiadau i ddathlu 10 mlynedd o Dlws Sbardun.
Roedd y cerddor Alun 'Sbardun' Huws yn un o'r rhai a sefydlodd Y Tebot Piws a bu hefyd yn aelod o sawl band arall - yn eu plith Ac Eraill a Mynediad am Ddim.
Yn dilyn ei farwolaeth yn 2014, fe benderfynodd ei weddw, Gwenno, sefydlu cystadleuaeth er mwyn denu cerddorion ifanc i gyfansoddi.
Yn perfformio heddiw mae cyn-enillwyr y tlws, gan gynnwys Elidyr Glyn, Gwilym Bowen Rhys ac Alis Glyn.

Elidyr Glyn yn canu Curiad y Dydd yn y Tŷ Gwerin, ei gân fuddugol ddegawd yn ôl
Llongyfarchiadau i Eiriana Jones-Campbell, enillydd cystadleuaeth yr unawd mezzo | contralto | gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen yma trwy gydol y prynhawn wrth i fwy o ganlyniadau cystadlaethau'r Pafiliwn gael eu cyhoeddi.
Gwyliwch ran o berfformiad Eiriana isod.
Wrth ddatgan mai Jonathan Davies yw enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2026, dywedodd un o'r beirniaid, Karl Davies y gallai unrhyw un o'r pedwar fod wedi ennill, gan fod y safon mor uchel.
Dywedodd Jonathan, sydd o Lwchwr ger Abertawe, bod ei Dad hefyd bellach yn dysgu Cymraeg.
Wrth siarad yn ystod y seremoni roedd gan Jonathan neges glir i unrhywun arall sy'n ystyried dysgu'r iaith: "Ewch amdani, wnewch chi ddi difaru".
Gwyliwch fwy o'r seremoni isod.
Mae Llwyfan Theatr Stryd wedi bod yn brysur heddiw gyda perfformiadau o raglen Dawns Gynhwysol Gofal Celf, ac hefyd Curiad y Clocsiau.


Christine James sy'n Ateb y Galw ar Cymru Fyw yr wythnos hon.
Hi oedd y ddynes gyntaf i fod yn archdderwydd, a hynny yn Eisteddfodau 2013-15. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 a gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2014.
Hi bellach yw Cofiadur yr Orsedd ac mae'n rhan o seremonïau'r Pafiliwn yr wythnos hon.
Darllenwch yn llawn yma.

Ceri Owen-Jones, o Ganada yn wreiddiol, ond yn byw yng Nghei Newydd ers 15 mlynedd ar ei ffordd i gyfeilio i Ddawnswyr Talog.
"Dwi'n hoff iawn o'r Lle Celf, ac mi ro'n i'n chwarae yno ddoe yn yr ardd," meddai.
Mae Fflur James, Cadeirydd Maes B a rhoces o Lantwd, wedi bod yn sgwrsio gyda Carwyn Blayney ar Radio Cymru am weithgareddau Maes B a hefyd tafodiaith yr ardal.
Dywedodd Fflur ei bod yn fraint bod yn gadeirydd mewn Steddfod leol a'i bod yn "rili edrych mlaen" at noson gyntaf Maes B ar ôl wythnos brysur yn cystadlu.
Gwrandewch yn llawn isod.

Margaret Nock yn stiwardio tu cefn i'r llwyfan yn y Pafiliwn ac yn gweu pan mae'n dawel.
Mae hi wedi mwynhau ambell i ddarlith ar y Maes. Meddai: "Nes i wrando ar ddarlith difyr am weinidog yn yr UDA oedd yn erbyn caethwasiaeth.
"Dwi hefyd wedi mwynhau gwrando ar gerddoriaeth traddodiadol yr ardal yn y Tŷ Gwerin. "

Mae'n arferiad i gystadleuwyr lofnodi eu henwau ar yr arwydd Eisteddfod sydd gefn llwyfan, ac mae'r bylchau yn llenwi wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen.


