Y newyddiadurwr a darlledwr Huw Edwards, sy'n un o gyflwynwyr newydd rhaglen Bore Sul ar Radio Cymru, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.


Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae gen i atgof cynta'. 1963 dw i'n meddwl. O'n i yn tŷ mam-gu yn dringo'r grisiau ac roedd hen fodryb i Mam yn berchen y tŷ ac oedd hi ar ben y grisiau. Mae gen i ryw gof o hynny'n digwydd a wy' wedi gofyn i Mam sawl gwaith a ydy hynny'n wir ac fe 'wedodd hi "ydy, dw i'n credu bod e'n wir." O'n i'n rhyw dair oed ar y mwyaf a dyna'r atgof sydd gen i.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Wel am gwestiwn anodd! Gen i sawl noson gofiadwy. Pan ges i ganlyniad gradd, ychydig yn annisgwyl o'n i wedi gwneud yn dda iawn a ges i barti enfawr yng Nghaerdydd. Oedd hynny'n grêt.
Ond falle y peth gorau yw bod fel teulu, y saith ohonon ni ar wyliau yn Tenerife neu rywle felly yn cael pryd o fwyd allan ar noson braf. Mae hynny i fi bob amser yn braf. Mae gen i sawl un o rheina. Dyna'r categori i fi, pryd bwyd gyda'r teulu.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Wy'n meddwl bydde'n ffrindiau i'n defnyddio geiriau falle sydd yn llai na charedig. Ond fydden i'n dweud cadarn, uchelgeisiol a pwdlyd.

O archif Ateb y Galw:

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl yn ôl?
Dw i'n meddwl yn aml am ddigwyddiad bach cymharol ddi-sut a bod yn onest. O'n i wedi benthyca lawn mower o'r boi drws nesa yn Llangennech ac o'n i wrthi yn gwneud y lawnt ac oedd y gwair ychydig yn hir. Ac wrth bo' fi'n gwthio'r lawn mower drwy'r gwair hir, dyma handle y lawn mower yn torri yn hanner.
A finne'n edrych o 'ngwmpas i weld a oedd rhywun wedi sylwi a gweld fy chwaer yn ffenest y gegin wedi dyblu â chwerthin ac methu stopio, ac wedi 'ngweld i'n edrych o gwmpas fel rhyw leidr wedi gwneud rhywbeth ofnadw'. Bob tro wy'n meddwl am 'na, wy'n chwerthin.
Bob tro dw i'n sôn amdano wrthi hi, mae hi'n chwerthin. Felly un o'r pethau annwyl 'na sy'n dod o blentyndod.
Y darlledwr Huw Edwards sy'n ateb cwestiynau Cymru Fyw
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O wel, wy' wedi cael sawl cywilydd yn fy amser! Yfed gormod ar adegau a dweud pethau twp neu falle bod yn llai na charedig wrth bobl.
Un o'r pethau gwaethaf i fi wneud, oedd rhyw fath o ofyn i rywun wneud rhywbeth i fi oedd yn annheg. Gall hwnna fod yn gyd-weithiwr, gall hwnna fod yn un o'r plant. Gofyn i rywun wneud rhywbeth allwn i wneud ond oherwydd 'mod i'n bwdr neu'n ddiog, yn gofyn i rywun arall ei wneud e. Mae hynny'n destun cywilydd, fi'n credu, yn reit aml.
Gwrandewch ar Huw Edwards yn cyflwyno raglen Bore Sul ar Radio Cymru.

Yr arfordir rhwng Aberarth, un o hoff lefydd Huw yng Nghymru, a Llannon yng Ngheredigion
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llangennech, lle ges i 'nghodi ar gyrion Llanelli. O'n mae gen i gyswllt clòs iawn â sawl lle arall. Cwmgarw, Blaengarw tu allan i Benybont ar Ogwr, Aberarth, sef pentre ar gyrion Aberaeron am resymau teuluol, ond o safbwynt bod yn gwbl gartrefol ac yn gwbl hapus, yn Llangennech fyddai hynny.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn angladd fy nhad fi'n credu. Er mae'n bosib 'mod i wedi llefen ers hynny achos yn aml iawn os 'yf i'n gwrando ar gerddoriaeth - cerddoriaeth piano - rhywbeth gan Beethoven neu Rachmaninoff neu rywun felly, mae hynny'n gallu cael effaith emosiynol arna' i. Ambell i gân bop hefyd os yw'n dod ag atgofion yn ôl. Ond y tro diwetha' i fi lefen go iawn oedd yn angladd fy nhad.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Wy'n dueddol i ddarllen dwsinau o lyfrau mewn blwyddyn a wy'n gwylio lot o ffilmiau hefyd, ond dydw i ddim yn ffan mawr o bodlediadau, rhaid i mi ddweud. Er dw i'n gwybod bod lot ohonyn nhw i gael, ond mae diffyg amser.
Fy hoff lyfr yn Gymraeg, heb os nac oni bai, yw Rhys Lewis gan Daniel Owen. Wy' wedi'i ddarllen e falle chwech o weithiau a dw i'n bostio chwerthin bob tro, gyda Wil Bryan ac yn y blaen yn gwneud sbort am bobl capel. Wy'n dwli arno fe.

Mae Huw wedi darllen Rhys Lewis tua chwech o weithiau!
O ran ffilm, Doctor Zhivago dw i'n credu o 1965, ffilm gan David Lean yn seiliedig ar nofel Pasternak, wedi'i leoli yn Rwsia yn ystod y chwyldro. Dw i'n dwli ar Julie Christie fel actor ac mae'r ffilm i mi yn rhywbeth epig iawn a dw i'n dwli ar y gerddoriaeth hefyd. Felly 'sen i'n gorfod dewis ffilm, hwnna fydde fe.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fe fydden i'n hoffi bod yn Brif Weinidog Cymru am ddiwrnod a fydden i'n hoffi newid cwpl o bethau yn weddol sylfaenol mewn diwrnod.
O safbwynt deddfwriaeth bydde hynny bron yn amhosib ond yn sicr o safbwynt ambell beth cymdeithasol, ambell beth o ran addysg ac ambell beth o ran polisi economaidd - wna i ddim dweud mwy na 'ny! Fydden i'n hoffi cael golwg ar rheiny. Felly Prif Weinidog Cymru am ddiwrnod - bydde hwnna'n fy siwtio i i'r dim.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Hoffai Huw gael cyfle i drafod gwleidyddiaeth gyda David Lloyd George
'Sen i'n gorfod dewis unigolyn, a mae hwnna bron a bod yn amhosib, o ran diddordeb gwleidyddol ac o ran diddordeb Llundeinig hefyd ac o ran Cymru, wy'n meddwl bydden i'n dewis Prif Weinidog David Lloyd George gan bod e wedi cyflawni gwyrthiau o safbwynt deddfwriaeth, a gan bod e wedi llwyddo mewn sefydliad Seisnig fel Cymro Cymraeg yn rhyfeddol. Ac er bod ganddo ei wendidau amlwg fe wnaeth e bethau arbennig o dda a fe fydden i'n hoffi trafod pethau gydag e.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Falle bod pobl ddim yn gwybod fy mod i wedi cael triniaeth laser ar fy llygaid.
O'n i'n gwisgo sbectol am ddeugain mlynedd a mwy, a defnyddio contact lenses hefyd. Fe wnaeth un meddyg yn Llundain ddwyn perswâd arna' i gael llawdriniaeth laser ar fy llygaid. A dyna'r peth gorau nes i.
Felly mae un llygad yn gwylio'n bell ac mae'r llygad arall yn gwylio'n agos. Chi'n meddwl bod hwnna'n mynd i greu bob math o broblemau ond 'dyw e ddim. Blended vision maen nhw'n galw fe'n Saesneg. Mae'r ymennydd yn cyfuno'r ddau beth ac 'ych chi'n darllen yn agos ac yn gweld yn bell. Mae'r peth yn wyrthiol.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
O, mae hwn yn hawdd!
Diwrnod olaf ar y blaned bydden i'n cael y teulu i gyd ynghyd. Y saith ohonon ni, gyda Mam hefyd gobeithio, wyth ohonon ni a gyda'r ci, Mot, hefyd os yw e dal gyda ni, yn bendant. Fydden ni'n cael pryd o fwyd anferth, steak a chips a fydden ni'n cael sawl botel o champagne. Ac wedyn ar ôl hynny, fyddai dim llawer o ots 'da fi beth oedd yn digwydd.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Mae gen i lot o luniau sy'n bwysig i fi. Wy'n dueddol i fod yn emosiynol iawn am luniau.
Mae 'na lun arbennig ohona i a Dad ar y traeth pan o'n i'n rhyw ddeunaw mis oed. Bochau enfawr a siwt nofio o wlân! Mae'r peth yn rhyfeddol. A mae gyda fi lun neis iawn hefyd ohona i gyda mam-gu sef mam Mam. Wy'n meddwl 'mod i falle 'mod i'n rhyw ddwy oed ar y pryd. Mae'r llun hwnnw yn llun annwyl iawn gen i.