Dyn 61 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn ardal Beddgelert

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar y ffordd rhwng Nantmor a Nantgwynant
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 61 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Beddgelert ddydd Iau.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod swyddogion wedi ymateb toc wedi 11:30 i wrthdrawiad oedd yn ymwneud â beic modur.
Y beic modur oedd yr unig gerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd ar y ffordd rhwng Nantmor a Nantgwynant.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.