Cyn-AS Ceidwadol o Gymru yn pledio'n euog i drosedd gamblo ar ddyddiad yr etholiad

- Cyhoeddwyd
Mae cyn-AS Ceidwadol wedi pledio'n euog i drosedd gamblo drwy roi betiau ar ddyddiad etholiad cyffredinol 2024.
Roedd Craig Williams, 41, yn AS dros Sir Drefaldwyn ac yn ysgrifennydd preifat seneddol i Rishi Sunak, Prif Weinidog y DU ar y pryd.
Fe wnaeth Williams, o Lanfair Caereinion, Powys, bledio'n euog mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Southwark ddydd Llun.
Betiodd £250, £100, a £22.50 ar ddyddiad yr etholiad, meddai erlynwyr.
Betio: Ceidwadwyr blaenllaw yn galw am wahardd Williams
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2024
Cyn-AS ac Aelod o'r Senedd i wynebu achos llys am honiadau gamblo
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2025
Pan ddaeth y sgandal i'r amlwg gyntaf, fe wnaeth Williams gyfaddef iddo wneud "camgymeriad enfawr" pan gafodd ei herio ynghylch bet o £100.
Ef oedd yr AS dros Ogledd Caerdydd rhwng 2015 a 2017 cyn iddo golli ei sedd i'r AS Llafur Anna McMorrin.
Yna cafodd ei ethol yn AS dros Sir Drefaldwyn yn etholiad cyffredinol 2019, a chollodd ei sedd yn etholiad 2024 yn sgil y sgandal betio, wrth i'r Ceidwadwyr wynebu cael eu trechu'n llwyr ar draws yr etholiadau ledled y DU.
Dywedodd yr erlynydd Zoe Johnson y bydd tri chyhuddiad arall o dwyllo, y mae Williams yn eu gwadu, yn cael eu gollwng pan gaiff ei ddedfrydu.
Dywedodd fod Williams wedi cael "safle breintiedig, roedd yn rhan o nifer o gyfarfodydd yn Downing Street a phencadlys y Ceidwadwyr pan drafodwyd dyddiad yr etholiad cyffredinol".
"Mae bellach wedi derbyn trwy ei ble ei fod wedi defnyddio gwybodaeth hynod sensitif a chyfrinachol i osod betiau ac i elwa," meddai.
Plediodd Amy Hind, 35, gwraig dirprwy gyfarwyddwr digidol y Ceidwadwyr Anthony Hind, yn euog hefyd i dwyllo ar ddyddiad yr etholiad.
Roedd hi wedi gosod betiau o £10, £5, a £20 ar ddyddiad yr etholiad, cyn ceisio betio £767 a £700 ar bleidlais ym mis Gorffennaf ar 13 Mai 2024.
Methodd yr ymdrechion hynny, clywodd y llys, a cheisiodd osod bet o £700 y diwrnod canlynol cyn llwyddo i osod bet o £100 ar etholiad ym mis Gorffennaf, gyda thebygolrwydd o 11-1.
Yna, cafodd cyhuddiad ar wahân yn erbyn ei gŵr, sy'n 37 oed – ei fod wedi twyllo wrth gamblo drwy drosglwyddo gwybodaeth i'w wraig – ei ollwng gan yr erlynwyr.
Ni fydd Williams yn cael ei ddedfrydu nes bod ei gyd-ddiffynyddion yn wynebu eu hachos.
Hefyd yn y gwrandawiad ddydd Llun, plediodd 12 o gyd-ddiffynyddion yn ddieuog i dwyllo wrth gamblo mewn perthynas â betiau ar etholiad 2024.
Mae achosion wedi'u trefnu ar gyfer mis Medi 2027 a mis Ionawr 2028.
Cafodd y cyhuddiadau troseddol eu dwyn gan y Comisiwn Gamblo ar ôl i Ymgyrch Scott gael ei lansio i ymchwilio i wleidyddion a gweithwyr y Blaid Geidwadol yn gamblo yn ystod y cyfnod cyn etholiad cyffredinol 2024.
Ymhlith y rhai sy'n gwadu'r cyhuddiadau mae Russell George, 52, a oedd yn aelod o'r Senedd dros Sir Drefaldwyn, a Thomas James, 39, a oedd yn gyfarwyddwr y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae 11 o swyddogion eraill wedi cael eu cyhuddo o droseddau hefyd gyda disgwyl i'r achosion yna ddechrau rhwng Medi 2027 a Ionawr 2028.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.