Ymchwilio i lofruddiaeth yng Ngwynedd ar ôl canfod corff yn y môr

Y Bermo
Disgrifiad o’r llun,

Ymatebodd y gwasanaethau brys i alwadau am gorff yn y môr ger traeth Y Bermo ychydig ar ôl 15:00

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i lofruddiaeth yn Y Bermo yn dilyn marwolaeth dyn 34 oed ddydd Llun.

Fe wnaeth y gwasanaethau brys ymateb i alwadau am gorff yn y môr ger y traeth ychydig wedi 15:00.

Cafodd ei gadarnhau'n farw ar y safle, meddai'r llu.

Cafodd dyn 24 oed o ardal Birmingham ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae teulu'r dyn fu farw a'r Crwner wedi cael gwybod.

Y Bermo
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu y byddai rhagor o swyddogion o amgylch y dref dros y dyddiau nesaf

Mae'r heddlu bellach yn apelio ar unrhyw un oedd ar draeth Y Bermo ac sydd wedi tynnu lluniau neu ddeunydd fideo ar ôl 14:00 i'w hanfon atynt.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Chris Bell ei fod yn "annog unrhyw un oedd ar draeth Bermo ac wnaeth weld y digwyddiad i gysylltu â'r heddlu".

Dywedodd y ditectif ei fod hefyd yn hefyd yn "apelio ar unrhyw un oedd ar y traeth rhwng 14:00 a 16:00, wnaeth dynnu unrhyw luniau a fideos i'w hanfon atom cyn gynted â phosibl".

"Mae gennym ddiddordeb ym mhob llun neu fideo a gafodd eu tynnu ar unrhyw ran o'r traeth yn ystod y prynhawn.

"Gallai unrhyw ddelwedd fod yn berthnasol i'n hymchwiliad a bydd fy nhîm o ymchwilwyr yn eu hadolygu i ganfod os ydyn nhw o unrhyw werth tystiolaethol i'n hymholiadau."

Gobaith yr heddlu yw y bydd lluniau yn gallu helpu swyddogion i ddeall amgylchiadau'r digwyddiad.

Dywedodd hefyd nad yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig