Gwrthwynebiad i wasanaeth trên newydd rhwng gorllewin Cymru a Bryste

Nod Trafnidiaeth Cymru yw i'r gwasanaethau ddechrau o Aberdaugleddau neu Abergwaun cyn diwedd y flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i ddechrau gwasanaethau trên newydd uniongyrchol rhwng gorllewin Cymru a Bryste yn cael eu gwrthwynebu.
Nod Trafnidiaeth Cymru yw i'r gwasanaethau ddechrau o Aberdaugleddau neu Abergwaun cyn diwedd y flwyddyn.
Ond mae Great Western Railway (GWR), sy'n rhedeg trenau yn barod rhwng Caerdydd a Bryste n dweud y byddai'r cynigion yn cael "effaith sylweddol" ar eu cyllid.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'n "hynod o siomedig" bod y cwmni yn ceisio "tarfu" ar y cynlluniau.
Galw am sicrwydd ffordd osgoi yng Ngwynedd wedi tagfeydd a chiwiau
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Prif weinidog yn addo dod o hyd i ddatrysiad i dagfeydd yr M4
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
'Angen cydweithio' i wella trafnidiaeth ar gyfer pobl ag anableddau
- Cyhoeddwyd22 Ebrill
Fe fyddai Trafnidiaeth Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn rhedeg naw gwasanaeth bob ffordd rhwng dydd Llun a Sadwrn, gydag un yn dechrau yng Nghaerdydd a'r gweddill yn y gorllewin.
Mae'n golygu y byddai teithwyr yn gallu teithio i orsaf Bristol Temple Meads heb orfod newid yng Nghaerdydd.
Mewn dogfen ymgynghori, mae Trafnidiaeth Cymru'n dweud mai'r bwriad yw "cysylltu cymunedau" tu hwnt i'r brifddinas gan ddarparu cyfleoedd newydd o ran gwaith a hamdden sy'n "afrealistig" drwy drafnidiaeth gyhoeddus arall neu gar.
Maen nhw'n gobeithio lansio'r gwasanaethau erbyn Rhagfyr 2026.
Bydd cwmni GWR yn cael ei wladoli yn ddiweddarach eleni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd mae'n rhedeg dau wasanaeth yr awr rhwng Caerdydd a Bryste, ac ar adegau tri.
Wrth ymateb yn y ddogfen, mae'r cwmni'n dweud bod ganddyn nhw bryderon ynghylch yr effaith ar wasanaethau trenau ym Mryste a'r "effaith sylweddol tebygol ar eu hincwm".
Maen nhw hefyd yn dweud y byddai'r gwasanaethau yn arwain at lai o arian i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
"Mae angen nodi oherwydd y statws datganoledig a'r ffordd mae'r arian yn cael ei ddosbarthu na fyddai'r rhan fwyaf o'r cynnydd ariannol i'r diwydiant yn dychwelyd i'r Trysorlys."
Y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y cais.

Mae Dwynwen Davies (chwith) a Cath Little yn croesawu cael mwy o drenau
Ar y trenau rhwng Caerfyrddin a Llanelli, dyma oedd ymateb rhai o'r teithwyr.
"Os mae 'na alw neu beidio mae o'n syniad da ac mae angen cefnogi syniadau da ar gyfer Cymru," meddai Steffan Tudor.
Roedd Cath Little o blaid y syniad gan y byddai'n gwella'r cysylltiadau i bobl sy'n defnyddio'r llong rhwng Cymru ac Iwerddon yn Abergwaun, meddai.
"Y mwya' o drenau sydd y gorau. Mae teithio ar drên y peth gorau yn y byd," meddai Phil Morris.
Dywedodd Dwynwen Davies: "Mae'n golygu bod pobl yn gallu teithio ar draws y wlad yn rhwyddach a chyrraedd Bryste yn rhwyddach."

Roedd yna groeso hefyd gan Phil Morris a Steffan Tudor
Dywedodd Mark Hooper, Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, eu bod yn "siomedig iawn" bod GWR yn ceisio "tarfu ar y cynlluniau hyn a fydd yn gwella pethau i deithwyr ar ddwy ochr yr Afon Hafren".
Ychwanegodd: "Os bydd gwrthwynebiad Great Western Railway yn llwyddo, byddai'n effeithio'n negyddol ar ddegau o filoedd a allai elwa o'r gwasanaeth hwn.
"Byddaf yn ysgrifennu at Weinidog Trafnidiaeth y DU i ofyn ar frys am eglurhad a galw am rywfaint o synnwyr cyffredin ar y mater hwn."
Dywedodd llefarydd ar ran GWR: "Ry'n ni'n croesawu unrhyw welliant i ddarparu rhagor o wasanaethau i gwsmeriaid ar linell allweddol, ond mae hynny angen ei wneud mewn modd sydd ddim yn niweidiol i wasanaethau presennol neu rai yn y dyfodol fydd yn gwasanaethu de Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.