Nyrs wnaeth ffugio ei chymwysterau am swydd uwch yn gorfod talu £278

- Cyhoeddwyd
Bydd menyw a gafodd ddedfryd o garchar am ddweud celwydd ynghylch ei chymwysterau, a chael swydd uwch nyrs mewn uned ar gyfer babanod wedi eu geni'n gynnar, ond yn gorfod talu cyfran fach o'r cyflog a enillodd trwy dwyll.
Roedd Tanya Nasir, 47, yn rheoli uned enedigol Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr am bum mis cyn i'w chelwydd ddod i'r amlwg, ac fe weithiodd hefyd mewn ysbyty yn Llundain.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei bod wedi cael £51,397.58 o gyflog nyrs Band 7 pan roedd mewn gwirionedd ond â chymhwyster nyrs Band 5.
Fe gafodd orchymyn i ad-dalu £278.13 yn unig wedi i'r llys glywed na allai roi mwy, am ei bod ganddi bron ddim arian ac yn byw ar fudd-daliadau ers cael ei rhyddhau o'r carchar ym mis Ionawr.
Clywodd y gwrandawiad taw dyna oedd oll sydd yn ei chyfrif banc.
Gwahardd nyrs wnaeth ffugio cymwysterau o'r proffesiwn
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2025
Carcharu dynes am ffugio ei chymwysterau nyrsio
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
Nyrs mewn uned babanod yn euog o ffugio cymwysterau
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2024
Bydd £13.91 yn cael ei dalu i Hillingdon NHS Trust, tra bydd £264.22 yn cael ei dalu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae ganddi tan 6 Awst i dalu'r arian.
Os na fydd yn talu'r swm erbyn hynny bydd yn treulio mis yn y carchar.
Dywedodd ymchwilwyr twyll y GIG y byddant yn ceisio adennill mwy o arian pe bai Nasir yn derbyn arian yn y dyfodol.