Cludiant ysbyty 'ddim yn deg' i gleifion yn y canolbarth

Llun o ddyn oedrannus yn edrych yn syth at y camera. Mae ganddo wallt llwyd a sbectol ac mae'n gwisgo crys T llwyd ac yn eistedd ar soffa gwyn.
Disgrifiad o’r llun,

Gyrrodd Charles Swift, sy'n 83 oed, ei hun o'i gartref yn y Borth i Hwlffordd ac yn ôl ar gyfer profion ar ei galon

GanCraig Duggan
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae galwadau am wella'r system cludiant ysbyty yn y canolbarth wrth i ormod o deithiau gael eu canslo ar y funud olaf, yn ôl cynghorwyr sir.

Mae canslo teithiau yn rhoi pwysau cynyddol ar gleifion i gyrraedd apwyntiadau eu hunain - nifer yn bell iawn o'u cartrefi.

Gyrrodd un dyn 83 oed, sydd â chyflwr ar ei galon, am dros bedair awr o'r Borth i Hwlffordd ac yn ôl ar gyfer profion ysbyty.

Cwympodd i gysgu mewn cadair yn syth ar ôl cyrraedd gartref.

Mae grŵp o gynghorwyr o ogledd Ceredigion yn galw am drefnu uwch-gynhadledd trafnidiaeth, ac am system drafnidiaeth ysbyty well ar gyfer ardaloedd gwledig.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru fod galw am gludiant wedi cynyddu a bod newidiadau ar y gweill i geisio gwella'r gwasanaeth.

'Pam bod yn rhaid i bensiynwr yrru mor bell?'

Mae Charles Swift, sy'n 83 oed, yn byw yn y Borth, saith milltir i'r gogledd o Aberystwyth. Mae e wedi cael triniaeth ar gyfer tri math o ganser ac wedi cael dau drawiad ar y galon.

Ym mis Awst, cafodd ei gyfeirio i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ar gyfer profion.

Gofynnodd a oedd modd cael trafnidiaeth ar gyfer y daith 70 milltir o'i gartref i'r ysbyty. Cafodd y cais ei wrthod pan ddywedodd fod ganddo gar.

"Ffoniais y gwasanaeth tacsis ysbyty a siarad â nhw," meddai Mr Swift. "Gofynnon nhw, 'I ble chi'n mynd?' Dywedais i Lwynhelyg.

"Gofynnodd y dyn: 'Ydych chi'n gallu cerdded?' Atebais: 'Ydw.' Yna gofynnodd, 'Ydych chi'n gallu dringo grisiau?' AtebaisL 'Ydw.' Yna, yn sydyn, gofynnodd: 'Oes gennych chi gar?' Atebais: 'Oes.' 'Bydd rhaid i chi ddefnyddio hwnnw, felly,' meddai.

"Beth yw'r gwahaniaeth os oes gennych chi gar ai peidio? Dwi'n bensiynwr 83 oed. Roedd hi'n daith flinderus. Pam mae'n rhaid i bensiynwyr yrru mor bell yn eu ceir eu hunain?"

Llun o ddyn yn ei sithdegau yn sefyll o flaen ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Mae car yn pasio ar y ffordd tu ol iddo. Mae'n gwisgo tei coch, cot law lliw llwyd a siaced werdd oddi tani. Mae ganddo sbectol.
Disgrifiad o’r llun,

Yn ol y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans mae cleifion yn rhannau gogleddol o'r canolbarth yn teimlo bod apwyntiadau yn digwydd yn bellach o'u cartrefi

Mae'r cynghorydd sir Hugh Hughes o'r Borth yn cofio cwrdd â Mr Swift yn fuan ar ôl ei apwyntiad.

"Daeth ataf ar ôl ei apwyntiad cyntaf, pan roedd angen iddo fynd yn ôl am ail apwyntiad. Fe dorrodd e lawr - doedd e ddim yn gwybod sut roedd e'n mynd i ymdopi â hynny. Roedd wedi blino'n lân ar ôl y profiad cyntaf," meddai.

Yn ôl Gwyn Wigley Evans, aelod arall o'r grwp o gynghorwyr, mae'n ymddangos bod gwasanaethau yn symud yn bellach oddi wrth bobl y canolbarth.

"Y broblem ydy i ni yn y gogledd, ac yn uwch i fyny ym Machynlleth, Tywyn, Aberdyfi ac yn y blaen, ni'n gorfod mynd i lefydd fel Llwynhelyg neu Glangwili – mae'n dipyn o ffordd ac maen nhw'n dweud 'Defnyddiwch y bws'. Ond mae'n gynt i fynd i Euston yn Llundain na mynd ar y bws i Lwynhelyg!

"A'r pwynt ydy, pan 'da chi ar eich gwanaf, pan 'da chi'n sâl, chi ddim eisiau mynd ar y bws am bedair awr a hanner. Chi eisiau mynd mewn car, a dy'n nhw ddim yn paratoi car.

"Felly beth maen nhw'n gorfod gwneud yw cael rhywun i fynd â nhw neu mynd mewn tacsi, ac mae hynny'n costio £200 i fynd i lawr i Withybush ac yn ôl.

"Dyw hynny ddim yn deg."

Newid prosesau a rhoi hyfforddiant

Ar achlysur arall, dywedwyd wrth Mr Swift, ar brynhawn Gwener, bod y cludiant ysbyty yr oedd wedi'i archebu ar gyfer apwyntiad yn Hwlffordd y dydd Llun canlynol wedi'i ganslo. Ar ôl clywed hyn fe ganslodd yr apwyntiad.

Fe gafodd Mr Swift gludiant ysbyty ar gyfer apwyntiad diweddarach; dywedodd ei fod yn "ddymunol iawn, dim problem o gwbl."

Yn dilyn cais cychwynnol Mr Swift am gludiant, fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans adolygu ei alwad ffôn.

Yn ôl Mark Harris – un o'r cyfarwyddwyr cynorthwyol – fyddai'r cludiant ddim wedi cael ei wrthod pe bai mwy o wybodaeth wedi'i chasglu yn ystod yr alwad.

"Fe sylweddolon ni fod gwybodaeth ychwanegol y gallem ni fod wedi'i chasglu, a fyddai wedi arwain at benderfyniad gwahanol.

"Felly, ry'n ni wedi newid ein prosesau ac wedi darparu hyfforddiant i'r tîm sy'n ateb galwadau. Felly, os bydd Mr Swift yn ffonio eto, bydd yr ymateb yn wahanol."

Yn Mark Harris mae'r galw am gludiant a'r pellteroedd teithio i apwyntiadau yn cynyddu, gan roi straen ar adnoddau sy'n gallu arwain at ganslo trafnidiaeth.

"Ry'n ni'n gweld cynnydd yn nifer y teithiau mae'n rhaid i ni eu canslo, lle mae'r galw yn fwy na'r adnoddau sydd gennym ni.

"Felly, bydd achlysuron lle mae mwy o waith nag y gallwn ei gynnwys gyda'n cerbydau mewn diwrnod.

"Oherwydd hyn, ry'n ni ar hyn o bryd yng nghanol rhaglen wella sylweddol i fynd i'r afael â'r mater."

Ar wefan Bwrdd Iechyd Hywel Dda, nodir y bydd disgwyl fel arfer i gleifion sy'n teithio i ac o'r ysbyty drefnu eu cludiant eu hunain – boed hynny drwy yrru ei hunain, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu gael help gan deulu a ffrindiau.

Pan nad yw hynny'n bosibl, gall rhai cleifion fod yn gymwys ar gyfer cludiant ysbyty am ddim, sy'n cael ei ddarparu gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (YGAC).

Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n gofyn am gludiant fodloni meini prawf penodol – sy'n cynnwys derbyn triniaeth dialysis neu driniaeth canser yn rheolaidd, yr angen am stretsier neu ocsigen ar gyfer y daith, neu'r angen i deithio mewn cadair olwyn.

Mae cynghorwyr o ogledd Ceredigion a sefydliadau gwirfoddol sy'n ymwneud â chludiant cleifion yn dweud, hyd yn oed pan fydd claf yn llwyddo i drefnu cludiant, bod hyn yn aml yn cael ei ganslo ddiwrnod cyn yr apwyntiad.

Mae'r cynghorwyr yn honni nad yw'r system yn gweithio i gleifion yn eu hardal, sy'n wynebu teithiau hirach i gyrraedd apwyntiadau.

Cludiant cymunedol yn gallu 'llenwi bwlch'

Gwasanaeth cludiant cymunedol yw Dolen Teifi a gafodd ei sefydlu yn 2006 gydag un bws mini. Bellach mae wedi tyfu o'i bencadlys yn Llandysul ac mae ganddo 42 o gerbydau a 160 o yrwyr gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin.

Dywed rheolwr Dolen Teifi, Rod Bowen, fod eu gyrwyr yn gwneud tua 50 o deithiau i apwyntiadau ysbyty bob wythnos.

"Mae'r galw am apwyntiadau ysbyty wedi cynyddu," meddai Mr Bowen. "Ac mae gallu'r gwasanaeth ambiwlans i gwrdd â'r galw wedi dod o dan bwysau mawr. Byddwn i'n dweud bod hynny wedi newid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf."

Tra bod y cludiant ysbyty gan y gwasanaeth ambiwlans yn rhad ac am ddim, dywed Rod Bowen fod Dolen Teifi yn codi tâl o "57c y filltir ar gyfartaledd" i dalu am ran o'r costau.

Llun o adeilad gwyn deulawr gyda dwy ffenest ar y llawr cyntaf. Mae tair fan drydan lliw arian wedi parcio tu fas i'r adeilad.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dolen Teifi yn gweithredu o swyddfa yn Llandysul - mae gan yr elusen 42 o gerbydau ac mae'r galw am yrwyr gwirfoddol i gludo pobl i apwyntiadau wedi cynyddu

Dywed Rod Bowen ei fod yn aml yn derbyn galwadau gan gleifion ar ôl i'r cludiant ysbyty gael ei ganslo ddiwrnod cyn yr apwyntiad.

Yn ôl Mr Bowen, cafwyd 145 o alwadau o'r fath yn ystod y ddau fis diwethaf, a llwyddodd Dolen Teifi i ddarparu cludiant mewn 35% o achosion.

"Ry'n ni wedi gallu llenwi'r bwlch, ac mae'n fwlch pwysig i'w lenwi, oherwydd mae'n golygu bod yr unigolyn yn gallu cyrraedd yr ysbyty ar gyfer yr apwyntiad."

Dywed Mr Bowen hefyd fod y pellteroedd teithio i gyrraedd apwyntiadau yn cynyddu.

"Ry'n ni wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n gorfod teithio heibio drws eu prif ysbyty lleol i ysbyty arall a allai fod hyd at 40 i 50 milltir i ffwrdd.

"Mae (pobl hŷn) efallai yn teimlo'n hyderus wrth yrru yn eu hardal leol, ond dy'n nhw ddim yn teimlo'n gyfforddus yn teithio cyn belled ag Ysbyty Tywysog Philip (yn Llanelli) neu Gaerfyrddin, gan fod yr ardal yn anghyfarwydd."

Llun o ddyn mewn swyddfa - mae ganddo fwstash ac mae'n gwisgo crys a tei glas o dan siaced heb freichiau. Mae'n eistedd gyda'i gefn at ddesg lle mae sgrin cyfrifiadur a chluniadur.
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnydd yn nifer y bobl "sy'n gorfod teithio ryw 40 i 50 milltir" ar gyfer apwyntiad ysbyty yn ol Rod Bowen, rheolwr Dolen Teifi

Mae'r cynghorwyr o ogledd Ceredigion yn awyddus i drefnu uwch-gynhadledd cludiant er mwyn trafod ffyrdd o wella'r gwasanaeth.

Dywedodd Gwyn Wigley Evans fod angen cynnal cyfarfod sy'n cynnwys Bwrdd Iechyd Hywel Dda a'r gwasanaeth ambiwlans "ar fyr rybudd, achos mae'r sefyllfa yn gwaethygu".

"Y pwynt mawr ydy bod angen y bobl yna sydd efo'r arian, efo'r awydd ac yn medru gwneud y penderfyniadau."

Ychwanegodd y cynghorydd Evans hefyd y byddai cynnal mwy o apwyntiadau yn y canolbarth yn arbed llawer o deithio i gleifion sy'n byw yn yr ardal.

"Mae'n llawer hawddach i ddod yma (Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth).

"Pe bai'r arbenigwyr yn dod i fan hyn un diwrnod yr wythnos, fe allai weld ugain o bobl, yn lle ugain o bobl yn gorfod mynd lawr i Glangwili.

"Mae'n safio arian, ac mae'n safio trwbwl a poen pen."

Dywedodd Andrew Carruthers, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, fod y bwrdd yn "ymwybodol o'r heriau y mae rhai o'n cleifion yn eu hwynebu, yn enwedig pan fydd rhaid iddyn nhw deithio pellteroedd hirach i gael triniaeth arbenigol".

Ychwanegodd ei fod yn ddiolchgar am y gwasanaeth y mae'r YGAC yn ei ddarparu, ac y byddai'r bwrdd yn "codi'r pryderon gyda nhw i weld sut y gallwn wella'r opsiynau cludiant sydd ar gael i'n cleifion".

Pynciau cysylltiedig