Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn y de a'r canolbarth

Map o'r rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r rhybudd i rym am 00:00 fore Gwener

GanIfan Ywain
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer rhannau helaeth o ganolbarth a de Cymru.

Daw'r rhybudd i rym am 00:00 ddydd Gwener a bydd yn dod i ben am 12:00.

Mae disgwyl hyrddiadau o rhwng 50-60mya o fewn ardal y rhybudd, tra bod hyrddiadau 70mya yn bosib ar hyd yr arfordir.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai'r gwyntoedd amharu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal ag effeithio ar gyflenwadau trydan a difrodi adeiladau.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i 14 o siroedd; Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Merthyr Tudful, Powys, Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Sir Fynwy a Thorfaen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig