'Dianc' i 'sgwennu caneuon wrth wynebu triniaeth canser y fron

Lisa Haf DaviesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe orffennodd Lisa ei thriniaeth fis Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd

Mae un fenyw, sy'n wreiddiol o Sir Benfro, wedi defnyddio cerddoriaeth fel ffordd o ymdopi gyda thriniaeth canser y fron.

Cafodd Lisa Haf Davies ddiagnosis o ganser y fron yn fuan ar ôl ei chwaer, y cyflwynydd Mari Grug, ac yn ystod y cyfnod anodd hwnnw fe wnaeth hi gychwyn cyfansoddi alawon.

Dywedodd fod y cyfansoddi yn "rywbeth i ddianc iddo fe, ac yn rhywbeth i ffocysu arno", yn enwedig am nad oedd yn gallu gweithio yn ystod y driniaeth.

Mae bellach yn rhannu ei chaneuon ar dudalen Instagram.

Lisa a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Lisa ddau o blant, a dywedodd ei bod yn "edrych ymlaen at y dyfodol"

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Lisa i'r cyfan gychwyn pan oedd hi'n "mynd trwy'r driniaeth cemotherapi ac imiwnotherapi".

"Ro'n i wedi cael syniad i gyfansoddi carol Nadolig ar gyfer yr ysgol gynradd lle mae 'mhlant i'n mynychu, ro'n i eisiau sgwennu carol iddyn nhw gystadlu yng nghystadleuaeth Carol yr Ŵyl.

"Do'n i ddim wedi ysgrifennu unrhyw fath o gerddoriaeth ers o'n i'n astudio cerddoriaeth yn Lefel A, a dwi'n mynd i fod yn 40 eleni, felly roedd hwnna blynyddoedd, blynyddoedd yn ôl," meddai.

Dyna wnaeth "danio'r sbarc" iddi, gan ychwanegu fod y cyfansoddi yn "rhywbeth 'na'th helpu fi yn ystod y cyfnod lle o'n i'n mynd trwy'r driniaeth, ro'n i'n sort of myfyrio a meddwl am syniadau".

"Roedd e'n rhywbeth i ddianc iddo fe, ac yn rhywbeth i ffocysu arno achos yn mynd trwy'r driniaeth, gorffes i stopio gweithio ac oedd lot o amser rili, ro'n i jyst ishe pasio'r amser, lladd amser, ac roedd e'n rhywbeth neis i allu dianc iddo fe," ychwanegodd.

Dywedodd ei bod yn "dal i fynd drwy'r driniaeth pan ro'n i'n mynd mewn i'r ysgol ac i helpu'r ysgol gyda'r garol Nadolig, ond nes i rili fwynhau hwnna a 'na'th e jyst arwain at agor llifddorau a daeth llwyth o ganeuon arall a syniadau arall".

'Ymateb wedi bod yn hyfryd'

"Ar ôl i'r driniaeth orffen ym mis Rhagfyr 2025, nes i rili fynd ati wedyn i wireddu rhai o'r syniadau yna.

"Es i brynu piano a dechrau tudalen Instagram a rhannu rhai o'r caneuon achos ro'n i'n meddwl ma' rhaid i fi wneud rhywbeth gyda'r syniadau."

Er iddi ddweud fod cerddoriaeth wedi chwarae rhan allweddol wrth ymdopi â'r driniaeth, dywedodd ei bod yn gobeithio gweld mwy o driniaethau holistig yn digwydd law yn llaw â thriniaeth cemotherapi.

Wrth sôn am y dudalen Instagram dywedodd fod yr "ymateb wedi bod yn hyfryd".

"Dwi wedi dechre tudalen [instagram] o sgratch, ac mae e wedi tyfu yn go gloi.

"Dwi'n reit browd nawr, ma' bron mil o ddilynwyr a dwi'n cael rhai ymatebion hyfryd.

"Dwi'n credu bod pobl yn gwerthfawrogi'r gerddoriaeth ac mae hynny yn annog fi wedyn i barhau i rannu mwy."

'Edrych ymlaen at y dyfodol'

Wrth sôn am ei hiechyd, dywedodd: "Dwi wedi gorffen y driniaeth, a dwi'n teimlo'n rili positif.

"Dwi mewn lle da yn emosiynol o ran fy iechyd meddwl i hefyd, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol."

Yn ddiweddar bu Lisa hefyd yn trafod ei thriniaeth gyda'i chwaer, Mari Grug, a'i chyfnither, Elan ar y podlediad Lleisiau Cymru: 1 mewn 2.

Mae'r tair yn trafod y profiad swreal o fod yn cael triniaeth am ganser ar yr un pryd ac yn cymharu profiadau.

1 mewn 2: Tair o'r un teulu

Gwrandewch ar y podlediad

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig