Lluniau: Dydd Mawrth yn y Sioe Fawr

Teleri a'i chwaer fach, Gwenllian, o Benrhyn Gŵyr yn mwynhau ar y reids
- Cyhoeddwyd
Daeth y torfeydd unwaith eto ar gyfer ail ddiwrnod y Sioe Fawr yn Llanelwedd. Dyma rhai o'r golygfeydd o'r maes.

Y teirw'n cael eu harddangos i'r beirniaid

Gwaith chwyslyd gyda'r fwyell yn y tywydd poeth

Dau Harry Wilson ifanc o Fôn; Steffan (pump oed) a'i frawd mawr, Efan (sy'n saith)

Y gwartheg mewn grwpiau o bump yn eu cael eu beirniadu mewn cystadleuaeth sydd wedi ei enwi ar ôl y diweddar Dai Jones

Aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Sanclêr yr arddangos eu mullets â balchder

Ardal y gofaint yn brysur yn creu pedolau

Y Valais Blacknose o'r Swistr yng nghylch y defaid

Roedd prynhawn dydd Mawrth yn le i'r ceffylau a chart yn y prif gylch

Iwan yn gyrru, a'i frawd mawr, Guto, yn eistedd wrth ei ochr

Roedd ymwelwyr i'r maes yn ceisio defnyddio unrhyw le addas i gysgodi rhag yr haul

"Chi'n twyllo" medda James McAlpine sy'n 7'2" wrth y ddynes yn sefyll ar stilts. Mae James o'r Alban yn wreiddiol ac yn gweihtio yn y maes amaeth

Mae opsiynau llysieuol ar y maes wrth gwrs, ond mae'n fan poblogaidd i'r bobl sy'n hoff o gig

Aelodau o dîm rygbi merched Cymru ar y maes, ble roeddent yn cynnal sesiynau ymarfer gyda phlant

Y cyflwynydd Jason Mohammad yn darlledu'n fyw o'r maes
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
