Caerdydd i gynnal ffeinal Cynghrair Pencampwyr y Menywod 2029

"Mae'n foment arwyddocaol i chwaraeon menywod yng Nghymru," yn ôl Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y Menywod yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2029.
Fe gadarnhaodd UEFA ddydd Mawrth y byddai ffeinal y gystadleuaeth yn cael ei chwarae yn Stadiwm Principality yn dilyn cais llwyddiannus gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC).
Nid dyma fyddai'r tro cyntaf i'r rownd derfynol gael ei chynnal yng Nghaerdydd - yn ôl yn 2017 cafodd y gêm ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Cafodd ffeinal cystadleuaeth y dynion - rhwng Real Madrid a Juventus - ei chynnal yn y brifddinas y flwyddyn honno hefyd, a hynny yn Stadiwm Principality.
Oherwydd rheolau noddi UEFA, fe fydd y stadiwm yn cael ei chyfeirio ati fel Stadiwm Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na Stadiwm Principality.
'Catalydd ar gyfer trawsnewid pêl-droed merched'
Dywedodd Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney fod y cyhoeddiad yn "newyddion gwych i Gymru, y gymdeithas a'r daith yr ydym ni arni - yn enwedig o safbwynt pêl-droed menywod".
"Mae hyn yn fwy nag un noson yn 2029," meddai.
"Ein gobaith a'n gweledigaeth yw bod rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y Menywod yn gatalydd ar gyfer trawsnewid pêl-droed merched a menywod yng Nghymru."
Yn ôl Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, "mae'n foment arwyddocaol i chwaraeon menywod yng Nghymru ac ar draws Ewrop".
"Rydyn ni wrth ein boddau bod ein stadiwm wedi ei dewis i gynnal un o'r achlysuron mwyaf yn y byd pêl-droed."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd10 Hydref 2023

- Cyhoeddwyd10 Hydref 2023
