Arweinydd Reform Cymru yn ymddiswyddo ar ôl cael ei 'gyfeirio at yr heddlu'

Fe wnaeth Dan Thomas annerch cynhadledd Reform yn gynharach fis yma
- Cyhoeddwyd
Mae Dan Thomas wedi ymddiswyddo fel arweinydd Reform yng Nghymru.
Mewn datganiad, dywedodd: "Dros y penwythnos, cefais fy nghyfeirio at yr heddlu a fy rhyddhau heb gyhuddiad.
"Rwy'n pwysleisio nad ydw i wedi gwneud unrhyw beth o'i le, ond dydw i ddim am i'r penawdau sydd i ddod dynnu sylw oddi ar y gwaith gwych y mae ein tîm yn y Senedd yn ei wneud wrth ddal y llywodraeth i gyfrif.
"Fe fydda i'n parhau i wasanaethu fy etholwyr yng Nghasnewydd Islwyn ac yn cefnogi'n llwyr pwy bynnag y bydd y grŵp yn ei ddewis fel eu harweinydd nesaf."
Mwy i ddilyn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi

- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf

