Emyr 'Bara Caws' yn ymddeol wedi bron i 50 mlynedd gyda'r cwmni

Emyr Morris Jones
- Cyhoeddwyd
Wrth i Theatr Bara Caws ddathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu, mae un carreg filltir arall hefyd sydd werth ei nodi.
Wedi 45 o flynyddoedd yn gweithio i'r cwmni, mae un o hoelion wyth y sefydliad yn ymddeol.
Mae Emyr Morris Jones, neu Emyr Bara Caws fel mae'n cael ei adnabod, yn dweud ei hun ei fod wedi "gwneud pob dim ond cyfarwyddo ac actio" gyda'r cwmni.
'Rhedeg i ffwrdd gyda'r syrcas'
Fe wnaeth Emyr weithio ar ei daith gyntaf gyda'r cwmni yn 1982 ar ôl cael cynnig swydd tra'n yfed mewn tafarn ym Mangor.
"Dwi meddwl fod rhan fwyaf o gyfarfodydd y cwmni y dyddia yna yn arfer digwydd yn yr hen Menai Vaults ym Mangor Ucha'.
"O'n i'n digwydd bod yna, bore wedyn deffro ac roedd 'na beer mat wedi'i rhwygo a rhywun wedi sgwennu arna fo ac roedd 'na nodiadau arnyn nhw.
"Es i fewn i'r Normal wedyn lle'r oedden nhw ac roedd y gwaith yna," meddai.
Roedd y cynnig yn gweithio i Emyr ac i gwmni Bara Caws hefyd.
"Roedden nhw angen rhywun ac roeddwn i angen peidio bod yn llawrydd," meddai.
Fe ddechreuodd y cwmni weithredu ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976 gan griw o actorion oedd eisiau torri i ffwrdd o Gwmni Theatr Cymru.
Erbyn hyn mae Bara Caws yn enwog am gynhyrchu dramâu llwyfan cofiadwy, sioeau clybiau poblogaidd a sawl taith sydd wedi cyrraedd cynulleidfaoedd ym mhob cornel o Gymru.
Yn y dyddiau cynnar roedd Emyr yn disgrifio'r cyfnod fel ei fod "wedi rhedeg i ffwrdd gyda'r syrcas," wrth gyfeirio at faint o hwyl yr oedd yn ei gael yn y gwaith.

Emyr ar y dde gyda Bryn Fôn, Cefin Roberts, Valmai Jones a Linda Brown
Dros gyfnod mor helaeth mae Emyr wedi gweld newid yn y cwmni, ond roedd yn disgrifio'r newidadau yn rhai organig.
"Bob rhyw bedair i bum mlynedd ers dalwm roedd y cwmni yn newid yn organig, doedd 'na ddim ffraeo mawr na ddim byd felly.
"Roedd pobl yn naturiol yn mynd ymlaen i rywbeth arall, a bod rhywun arall yn dod i fewn o'r ochr, a ti'n meddwl, 'mae'r person yma'n ffit da' a wedyn dyna sut oedd o'n gweithio.
"Ond rŵan, mae'r newidiadau'n lot yn hirach, mae pobl yma'n hirach sydd hefyd yn beth da," meddai.
Dyna'n union sydd wedi digwydd eleni hefyd, wrth i Ffion Dafis gael ei phenodi fel Cyfarwyddwr Artistig y cwmni ar ôl i Betsan Llwyd adael y rôl wedi 14 o flynyddoedd.
142 sioe wahanol
Yn ogystal a'r newid o fewn y cwmni, mae natur y gynulleidfa wedi newid â'r her sy'n wynebu cwmni theatrau i sicrhau fod pobl yn camu allan o'u cartrefi i wylio'r sioeau.
"Os ydyn nhw rili eisiau gweld rhywbeth yna fe ddown nhw.
"Dwi'n cofio un cwôt gan rhywun o'r gynulleidfa un waith pan o'n i'n cario stwff nôl i'r fan, 'dewch a rhywbeth da ni'n ddallt tro nesa'.
"Dyddia yma, mae pobl yn licio petha ysgafnach, dyna mae pobl yn ddeud wrthon ni, yn gyffredinol yn y gymuned mae pobl eisiau rhywbeth ysgafnach," meddai.
Un peth mae Emyr wedi'i neud cyn gadael yw cadw rhestr o'r holl gynyrchiadau y mae wedi bod yn rhan ohonyn nhw dros y blynyddoedd.
"Nes i neud hwn wrth feddwl pryd o'n i'n mynd i adael a gweld faint o betha o'n i wedi 'i neud.
"Dwi wedi sgwennu nhw i gyd i lawr ac mae o wedi troi i fewn i bum tudalen o wahanol gynyrchiadau a dwi wedi neud 142 o sioeau gwahanol efo Bara Caws," meddai.

Rhai o'r sgriptiau gwreiddiol o'r sioeau y gwaneth Emyr weithio arnyn nhw
Mae Emyr yn cyfaddef nad yw'n cofio nhw yn eu trefn ond yn cofio manylion penodol ynglŷn a phwy oedd yr actorion neu am y posteri penodol os y base rhywun yn gofyn wrtho.
Mae gyrfa Emyr yn byd y theatr yng Nghymru wedi para 50 mlynedd. 46 o'r rheiny gyda Bara Caws, a chyn hynny roedd yn gweithio yn Theatr Gwynedd ym Mangor, sydd nawr wedi'i ddymchwel.
Roedd cyrraedd carreg filltir mor arbennig yn ei gwneud hi'n hawdd iddo benderfynnu ymddeol eleni.
"Mae o'n 50 mlynedd ac mae'r cwmni yn 50 mlynedd eleni felly the planets aligned fel ma nhw'n ddeud.
"Mae pethau'n newid, mae 'na fwy o dechnoleg rŵan lle dwi'n fwy o foi llif, pensil a morthwyl, mwy 'na Apple Macs.
"Dwi'n teimlo'n hen ffasiwn yn deud y pethe 'ma ond dyma sut dwi'n teimlo" meddai.

Rhai o'r posteri mae Emyr wedi'i dylunio ar gyfer sioeau gwahanol dros y blynyddoedd
Un o ddoniau Emyr oedd ei allu i greu posteri deniadol a bachog y cwmni dros y blynyddoedd cyn i gyfrifiadur gymryd y cyfrifoldeb o'u dylunio.
"O'n i'n mwynhau neud hynny. Doedd o ddim yn teimlo fel gwaith, ro'n i wastad yn licio ac efo diddordeb sylwi beth oedd yn denu sylw pobl. Ro'n i'n hoffi posteri ffilms a ballu a dwi'n casglu rheina.
"Mae o'n rwbath sydd wedi bod yn cefn fy mhen i bob tro pan dwi'n creu rhyw ddelwedd. Dwi'n trio dychmygu wal llawn posteri ac dy un di yn y canol i weld os dio'n sefyll allan.
"Haf '83 oedd yr un cyntaf nes i a gwneud llwyth ar ôl hynny. Ma Berwyn (brawd Emyr) yn gneud nhw i gyd wan ar y cyfrifiadur," meddai.
Un o'r sioeau sydd yn sefyll allan i Emyr yw Sundance, sef drama Aled Jones Williams yn 1999 efo Jonathan Nefydd ac Ian Rowlands yn ei gyfarwyddo.
"Munud oedden ni allan efo'r gynulleidfa, roeddwn i'n sylwi fod hwn yn un sbeshal ac roedd o'n braf wedyn gwneud taith fer efo hi.
"Dwi'n licio hynny am y sioeau i gyd, dwi'n licio'r ffaith bod ti'n creu rhywbeth, ti'n teithio efo hi, eu gwylio hi a'i gollwng hi.
"Peidio ffilmio 'na recordio, mae o wedi mynd ac os dio werth rhywbeth. Nei di gofio 'fo," meddai.
Lleuad llawn
Un atgof pleserus iawn arall sydd ganddo yw gweithio ar gynyrchiadau Un Nos Ola Leuad.
"Dwi wedi gwneud hon dair gwaith, yr ail waith i mi ei gwneud hi. Dwi'n cofio llwytho'r fan ar ôl sioe ym Methesda, ac edrych fyny a lleuad llawn dros Ddyffryn Ogwen, roedd hwnna yn rwbath na'i gofio hefyd," meddai.
Mae atgofion Emyr yn rhai melys iawn o'i gyfnod gyda Bara Caws. O gyd-weithio â sawl actor, cyfarwyddwyr a thechnegwyr i gael ei daro gan handbag dynes oedd wedi cymryd yn erbyn un o sioeau Hywel Ffiaidd lawr ym Maesteg cyn ddyddiau Bara Caws.
Mae wedi bod drwy'r cyfan, ac yn ymddeol gyda gwerth bron i hanner can mlynedd o brofiadau hapus gyda Bara Caws a byd y theatr Gymraeg.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Medi 2025

- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2025
