'Galar am blentyn byth yn eich gadael… ond cefnogaeth ar gael'

Brooke Webb a Wiliam Rees, y ddau yn 27 oed, gyda'u mab bach Gwilym Ioan Rees-Webb
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni o Bontypridd sydd wedi colli eu mab bach yn annog teuluoedd eraill i estyn am help, gan bwysleisio bod cefnogaeth ar gael – boed hynny yn syth ar ôl colled neu flynyddoedd yn ddiweddarach.
Mae'r teulu'n bwriadu dringo i gopa'r Wyddfa dros nos ar 9 Mai mewn ymgais i godi arian a chodi ymwybyddiaeth am golled babi a'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd mewn profedigaeth.
'Yn ei garu cyn iddo gyrraedd'
Bu farw Gwilym Ioan Rees-Webb, mab Wiliam Rees a Brooke Webb, ar noswyl Nadolig 2025, yn ddim ond 11 diwrnod oed.
"Gwilym yw ein babi cyntaf, ac roedden ni mor gyffrous i'w gyfarfod," meddai Wiliam.
"Roedden ni'n ei eisiau a'i garu'n fawr ymhell cyn iddo gyrraedd.
"Cafodd ei eni'n iach, yn pwyso 9 pwys, ac roedd yn hollol berffaith.
"Er mai dim ond 11 diwrnod gawson ni gydag e, newidiodd ein bywydau am byth. Yn yr amser byr yna, daeth e â chymaint o gariad a hapusrwydd i'n bywydau."
"Mae'r atgofion hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n eu trysori am byth."
Yn ôl y teulu mae'r profiad wedi gadael ôl parhaol ar bob agwedd o fywyd.
"Mae colli ein mab wedi newid pob rhan o'n bywydau, ac mae'r galar yn rhywbeth na ddylai neb orfod ei wynebu," meddai.
"Ar adeg pan ddylen ni fod yn dathlu camau cyntaf Gwilym a'i wylio'n tyfu i fyny, mae'n rhaid i ni ddysgu sut i fod yn rhieni iddo mewn ffordd gwahanol."

"Daeth Gwilym â chymaint o gariad a hapusrwydd i'n bywydau mewn amser byr iawn," meddai ei dad Wiliam
Er gwaethaf eu colled, mae'r teulu wedi penderfynu troi eu profiad yn rhywbeth cadarnhaol, gan obeithio y gallant wneud gwahaniaeth i eraill sydd wedi bod trwy brofiad tebyg.
"Roedd ei fywyd yn llawer rhy fyr, ond mae Gwilym wedi rhoi'r cryfder i ni i'w anrhydeddu a gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu teuluoedd eraill.
"Dewisom ni i ddringo'r Wyddfa oherwydd ei fod yn rhywbeth nad oeddem erioed wedi'i wneud o'r blaen," ychwanegodd Wiliam.
"Daeth y cyfle gyda Sands i wneud y her hyn gyda grŵp o rieni a theuluoedd eraill yn yr un sefyllfa.
"Fydd hyn yn gyfle i ni gyd cofio ein babis, a chodi arian ac ymwybyddiaeth am achos mor bwysig."
Mae'r teulu'n dweud y bydd y daith yn un emosiynol.
"Bydd yn brofiad emosiynol iawn – bydd adegau'n anodd, ond rydym yn gwybod pam rydym yn ei wneud.
"Mae'n symbol o'r daith rydym wedi bod arni fel teulu dros y misoedd diwethaf – llawn her, tristwch, ond hefyd cariad a chryfder.
"Fydd dringo'r mynydd gyda theuluoedd eraill sydd wedi mynd trwy brofiadau tebyg yn ein hatgoffa nad ydym ar ein pennau ein hunain."
'Ddim wedi gallu ymdopi heb gefnogaeth'
Mae'r teulu'n pwysleisio pa mor bwysig yw rôl elusennau wrth gefnogi rhieni mewn profedigaeth.
"Ers i Gwilym farw, rydym wedi cael ein cefnogi gan Sands a 2Wish, ac mae nhw wedi bod yn hynod o bwysig i ni yn ystod cyfnod anoddaf ein bywydau.
"Mae'r caredigrwydd hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth i ni geisio canfod atebion a dysgu sut i fyw bywyd ar ôl colli Gwilym.
"Mae nhw wedi rhoi cefnogaeth ac arweiniad hanfodol i ni, gan ein helpu i deimlo'n llai unig trwy cysylltu ni â rhieni eraill sy'n deall y boen o colli babi.
"Mae eu grwpiau cymorth wedi rhoi cysur i ni mewn cyfnod hynod o anodd."
'Peidiwch â bod ofn estyn allan'
"Y peth pwysicaf i ni yw bod pobl yn deall pa mor ddwys a pharhaus yw'r galar o golli babi.
"Nid yw'n rhywbeth rydych chi'n symud ymlaen" ohono.
"Rydych chi'n dysgu byw gydag e, a gyda'r cariad sydd dal yno am eich plentyn.
"Y peth pwysicaf yw cofio nad ydych ar eich pen eich hun."
"Mae cefnogaeth ar gael – boed hynny'n syth ar ôl colled, neu flynyddoedd yn ddiweddarach.
"Peidiwch â bod ofn estyn allan."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd9 Ebrill
