Cymru'n colli o dros 100 o bwyntiau yng Nghwpan Rygbi'r Gynghrair y Byd

Awstralia yn erbyn CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Awstralia i sgorio 21 cais yn erbyn Cymru

GanIfan Ywain
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae tîm rygbi'r gynghrair Cymru wedi gosod record newydd am y golled drymaf mewn gêm ryngwladol yn hanes gêm y merched.

Fe sgoriodd Awstralia 21 cais ar eu ffordd i sicrhau buddugoliaeth o 124-6 yn erbyn Cymru yn Sydney fore Sul.

Dyma'r gwahaniaeth sgôr mwyaf (118) erioed mewn gêm ryngwladol i ferched, ond tîm dynion Ffrainc sy'n dal i fod â'r record yn hanes y gamp ar ôl trechu Serbia o 120-0 yn 2003.

Er y golled drom, roedd 'na ddathliadau mawr pan sgoriodd Paige Travis gais i Gymru - y chwaraewr cyntaf i wneud hynny yng Nghwpan y Byd 2026.

Mae Awstralia, neu'r Jilaroos, wedi ennill y gystadleuaeth deirgwaith yn olynol, tra bod Cymru yn cymryd rhan am y tro cyntaf eleni.

Mae Cymru bellach allan o'r gystadleuaeth ar ôl colli tair gem allan o dair.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.