Enwebiadau Ivor Novello i'r cyfansoddwr o Gymru sy'n gweithio ar gyfresi Netflix

- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfansoddwr o Gymru, Siôn Trefor wedi cael ei enwebu am ddwy wobr Ivor Novello.
Dyma'r tro cyntaf i'r cerddor, sy'n byw yng Nghaerdydd a Berlin, fod ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau uchel eu parch.
Mae wedi ei enwebu mewn dau gategori: y Sgôr Ffilm Wreiddiol Orau - gyda'i gydweithwraig Ioana Selaru - ar gyfer y ffilm Gymraeg, Effi O Blaenau, a'r Sgôr Teledu Wreiddiol Orau ar gyfer y ddrama drosedd Legends ar Netflix.
Mae Gwobrau Cyfansoddwyr Ivor Novello, sydd wedi eu henwi ar ôl y cerddor ac actor o Gaerdydd, yn rhoi cydnabyddiaeth i waith gwreiddiol ym Mhrydain ac Iwerddon.

Fe gafodd y gwobrau Ivors cyntaf eu cyflwyno yn 1956
Mae Siôn Trefor ymysg 36 o gyfansoddwyr mewn naw categori sy'n cynnwys ffilm, teledu, gemau fideo a cherddoriaeth ar gyfer perfformiadau byw.
Yn ddiweddar mae wedi gweithio ar nifer o raglenni poblogaidd, gan gynnwys Toxic Town – cyfres Netflix am y sgandal gwastraff yn Corby, y gyfres ddrama Say Nothing, am sefyllfa Gogledd Iwerddon a'r gyfres gomedi ar Netflix How to Get to Heaven from Belfast.
Mae o hefyd wedi cyfansoddi ar gyfer cyfresi'r BBC Waiting for the Out a Death Valley.
Yn ogystal â sgwennu ar gyfer ffilm a theledu mae Siôn Trefor hefyd wedi rhyddhau cerddoriaeth ei hun, gan gynnwys yr EP piano Fallout. Mae hefyd yn rhan o grŵp electronig Future Kult.
Wrth longyfarch yr enwebiadau, dywedodd cadeirydd The Ivors Academy, Tom Gray bod cerddoriaeth yn galluogi pobl i brofi bywyd mewn ffordd wahanol a bod "gwaith cyfansoddi gwych yn newid popeth".
Fe fydd enillwyr yr Ivors i gyfansoddwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn y Grosevenor House, Park Lane, Llundain ar 17 Tachwedd. Fe gafodd enillwyr yr Ivors ar gyfer ysgrifennu caneuon a cherddoriaeth gyfoes eu cynnal fis Mai eleni.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
