Gohirio newidiadau treth y cyngor yng Nghymru tan 2032

Mae biliau treth y cyngor yn dal i fod yn seiliedig ar werth eiddo yn 2003
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu oedi cynlluniau i gynnal ailwerthusiad mawr o gartrefi yn 2028 tan 2032 fel rhan o ddiwygio treth y cyngor.
Dywedodd y gweinidog cyllid Elin Jones na allai fentro creu "annhegwch newydd" yn y system drethu ar adeg pan mae cyllidebau aelwydydd o dan bwysau sylweddol.
Roedd disgwyl i eiddo gael ei ailbrisio yn 2028 gan fod llywodraeth Plaid Cymru wedi dweud bod angen diwygio'r system dreth y cyngor bresennol a'i gwneud yn fwy teg.
Ond cyhoeddodd Elin Jones y bydd y llywodraeth yn cyflwyno rheoliadau yn y Senedd i ohirio tan 2032.
Bydd angen mwyafrif yn y Senedd i basio'r rheoliadau hyn; fel arall, bydd yr ailwerthusiad yn mynd yn ei flaen ar gyfer 2028.
Dywedodd llefarydd ar ran Reform eu bod yn cefnogi'r oedi oherwydd "na allant gefnogi mesurau a allai adael pobl sy'n gweithio'n galed i wynebu biliau uwch", tra bod y Ceidwadwyr o'r farn y dylid dileu'r ailwerthusiad yn gyfan gwbl.
Dywedodd Llafur Cymru fod Plaid Cymru wedi "dangos llwfrdra gwleidyddol a moesol".
Dywedodd Ms Jones fod amcangyfrifon yn dangos y gallai band treth y cyngor chwarter y cartrefi godi, y gallai band chwarter arall ostwng, a byddai hanner yn gweld newid bach iawn.
Mae swm y dreth gyngor sy'n cael ei dalu yn seiliedig ar werth hanesyddol eiddo ac fe gafodd ei brisio ddiwethaf yng Nghymru 23 mlynedd yn ôl.
Gwnaeth Plaid Cymru addewid yn eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd i wneud treth y cyngor yn "decach", a nododd y blaid nad oedd y system bresennol "wedi'i diwygio ers tro byd".
Roedd diwygio treth y cyngor hefyd yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y llywodraeth Lafur flaenorol a Phlaid Cymru, pan oedd Plaid Cymru yn wrthblaid.

Dywedodd Elin Jones, "byddai'r cymorth yr hoffwn ei ddarparu i aelwydydd, ynghyd ag ailwerthuso'r system drethu, yn golygu cost sylweddol i'r llywodraeth.
"Yn ôl ein hasesiad, gallai darparu'r rhyddhad dros dro y byddai'r llywodraeth hon yn dymuno ei roi ar waith gostio hyd at £80 miliwn yn y flwyddyn gyntaf yn dilyn yr ailwerthuso yn 2028-29.
"Rydym - fi a'm cyd-weinidogion yn y Cabinet, yn cytuno bod ariannu hyn yn her enfawr, o ystyried y rhagolygon cyllidol presennol a'r pwysau rydym yn eu hwynebu ar draws gwasanaethau cyhoeddus."
Pwysleisiodd: "Nid yw hyn yn golygu rhoi'r gorau i ddiwygio treth gyngor. Nid yw'n golygu camu'n ôl oddi wrth ein hymrwymiad i degwch.
"Ac nid yw'n awgrymu na ellir gwella'r system bresennol. Mae'n farn bragmatig ynglŷn ag amseru, fforddiadwyedd a blaenoriaethau."

Dywedodd Elin Jones fod amcangyfrifon yn dangos y gallai band treth y cyngor chwarter y cartrefi godi
Ar ran Reform, ymatebodd Cai Parry-Jones AS: "Er ein bod yn croesawu unrhyw oedi cyn codi biliau aelwydydd, nid yw gohirio'r mater a thorri addewid eu maniffesto yn cynnig unrhyw sicrwydd i aelwydydd sy'n poeni am filiau treth y cyngor yn codi.
"Ni all Reform gefnogi mesurau a allai olygu bod pobl sy'n gweithio'n galed yn wynebu biliau uwch."
Mae llefarydd Llafur Cymru ar gyllid, Huw Thomas, wedi cyhuddo Plaid Cymru o fethu â chyflwyno polisi blaengar.
"Tra oeddent yn wrthblaid, honnodd Plaid Cymru eu bod yn meddu ar yr ucheldir moesol yn y mater hwn; yn eu maniffesto, addawyd gweithredu," meddai Thomas.
"Nid rhagrith yn unig yw'r enciliad hwn heddiw; mae'n dangos llwfrdra gwleidyddol a moesol."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands AS: "Mae'n amlwg y byddai ailwerthusiad arall yn arwain at filiau treth gyngor uwch, ar adeg pan mae cyllidebau aelwydydd dan bwysau sylweddol.
"Yn hytrach na'r penderfyniad sinigaidd hwn i ohirio... dylai gweinidogion Plaid Cymru ei ddileu'n llwyr."
Wedi'i sefydlu yn y 1990au cynnar gan lywodraeth Geidwadol y DU, mae treth y cyngor wedi cael ei beirniadu ers tro am fod yn annheg oherwydd ei bod yn seiliedig ar brisiau eiddo – nid ar allu pobl i dalu.
Gwnaed yr ymarfer ailbrisio eiddo diwethaf yn 2003, ac ers hynny mae tai wedi cynyddu'n sylweddol o ran gwerth, ond gohiriwyd cynlluniau i ailbrisio yn 2024 gan y llywodraeth Lafur flaenorol ar ôl ymgynghoriad.
Arweiniodd y penderfyniad at feirniadaeth ar y pryd gan Blaid Cymru, economegwyr a grwpiau defnyddwyr.
Treth y cyngor: Ystyried a ddylid bwrw ymlaen â newidiadau
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Treth y cyngor: Gohirio newid tan 2028
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
Mae llywodraeth Plaid Cymru hefyd wedi comisiynu adolygiad o'r ffordd y mae llywodraeth leol yn cael ei hariannu yng Nghymru.
Mae'r llywodraeth wedu dweud ei bod eisiau cyflwyno diwygiadau fel bod y fformiwla'n adlewyrchu'n well cost darparu gwasanaethau fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru.
Mae newid i dreth y cyngor yn un o'r ychydig ddulliau sydd ar gael i weinidogion ym Mae Caerdydd a allai gael effaith sylweddol ar gyllid aelwydydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.