'Ystafell Athrawon' yn gyfle i rwydweithio ar faes yr Eisteddfod

- Cyhoeddwyd
Mae Ystafell Athrawon newydd sbon wedi cael ei lansio ar faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ddydd Sul.
Bwriad yr ystafell yw cynnig man pwrpasol i staff ysgolion o bob cwr o Gymru i ymlacio, rhwydweithio a chymryd hoe o brysurdeb yr wythnos gystadlu.
Yn ôl un athrawes, mae'r lleoliad yn "gyfle i rwydweithio gyda'n gilydd, siarad am ein profiadau, yn enwedig yn ystod wythnos hanner tymor".
Mae'r Ystafell Athrawon wedi ei sefydlu gan CYDAG, Gwasanaeth Cerdd Genedlaethol Cymru ac E-sgol, gyda chefnogaeth Urdd Gobaith Cymru a Llywodraeth Cymru.

Yr olygfa y tu mewn i'r stafell athrawon
Bydd modd i athrawon gael lluniaeth, gwefru dyfeisiau, derbyn cymorth a gwybodaeth ac ysbrydoliaeth yn ystod yr Eisteddfod.
Bydd nifer o gyrff sy'n cynnig cefnogaeth i athrawon yn bresennol yn ystod yr wythnos megis Adnodd, Medr, Dysgu, Niwroamrywiaeth Cymru ac Addysgwyr Cymru.
Llywydd y Dydd, Tudur Owen, wnaeth agor yr Ystafell Athrawon yn swyddogol.
'Cylfe arbennig'
Yn ôl un athrawes sy'n dysgu mewn ysgol gynradd yn Sir Benfro, mae cael safle fel hyn ar y maes yn "really bwysig".
Dywedodd Hannah Richards fod yr Ystafell Athrawon yn "gyfle da yn ystod hanner tymor i ddod at ein gilydd i siarad, i rwydweithio gyda'n gilydd ac i siarad am ein profiadau".
Ychwanegodd ei fod yn "gyfle da i gwrdd â phobl newydd, siarad ambwyti beth sy'n mynd ymlaen mewn swydd sy'n eithaf trwm ac sy'n gallu bod yn heriol, felly mae'r lle 'ma'n wych ar gyfer hynny.
"Ma' fe'n gyfle arbennig a bydde rhywle fel hyn bob blwyddyn yn wych!"

Mae Hannah Richards yn athrawes gynradd mewn ysgol yn Sir Benfro
Wrth siarad â Cymru Fyw ar Faes yr Eisteddfod, dywedodd Gwennan Schiavone, prif weithredwr CDAG (Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg).
"Naethon ni sefydlu hwn fel gofod, oedden ni'n teimlo fel man y bydde athrawon yn gallu dod i ymlacio, rhwydweithio, siarad, dianc o brysurdeb y maes ac ati.
"Dwi'n teimlo ei fod yn ofod oedden nhw'n eu haeddu fel eu bod yn medru dianc o'r prysurdeb, dianc o'r cystadlu ac ati.
"Mwynhau yng nghwmni ei gilydd, gwefru eu ffôn, a manteisio ar wybodaeth sydd gennym ni.

Llifon Ellis, Gwennan Schiavone a Sara Gibson
"'Da' ni'n barod yn gweld y prysurdeb, mae 'na baned am ddim i athrawon, mae 'na soffas cyfforddus, man iddyn nhw eistedd, awyrgylch ymlaciedig llwyr.
"Felly yndan, 'da ni'n annog athrawon a phenaethiaid i gyd, dewch draw am baned a sgwrsio, mae 'na ofod penodol ar eich cyfer chi.
"Beth 'naethon ni ffeindio llynedd o gael stondin, oedden ni'n gweld bod athrawon a phenaethiaid yn hoffi cael y man 'na i eistedd lawr a thrafod a sgwrio a dianc a chael paned ac ati, felly dyna oedd y weledigaeth tu ôl i hwn 'leni.
"Yn sicr, 'da ni'n gweld hon fel menter bydd yn parhau... felly 'da ni'n anelu at wneud hyn yn flynyddol wrth symud ymlaen," ychwanegodd Ms Schiavone.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.