Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ddyfodol cynllun gorsaf radar Penfro

Dyma'r math o ddysglau a fyddai'n cael eu gosod ar dir Barics CawdorFfynhonnell y llun, US Space Force
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r math o ddysglau a fyddai'n cael eu gosod ar dir Barics Cawdor

  • Cyhoeddwyd

Dywed ymgyrchwyr yn Sir Benfro eu bod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn y cynllun dadleuol i osod gorsaf radar ym Mreudeth yn Sir Benfro.

Roedd disgwyl i bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro benderfynu ar gamau nesaf DARC ddiwedd y mis ond bellach fe gyhoeddodd Siân Gwenllian AS, y Gwenidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud hynny.

Rhwydwaith radar ydy DARC ar y cyd rhwng y DU, yr Unol Daleithiau ac Awstralia sy'n darparu monitro byd-eang o'r gofod, ac sy'n cynyddu'r gallu i ganfod, olrhain ac adnabod gwrthrychau yn ddwfn yn y gofod.

Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn ydy codi 27 o ddysglau radar, 20 metr o uchder a 15 metr o led, ar safle Barics Cawdor.

Mae'r safle'n agos iawn i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dyma sut fyddai'r ardal yn edrych petai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, yn ôl ymgyrchwyr yn erbynFfynhonnell y llun, PARC
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut fyddai'r ardal yn edrych petai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, yn ôl ymgyrchwyr yn erbyn

Ar ran yr ymgyrchwyr dywedodd llefarydd: "Mae Siân Gwenllian wedi gwneud y penderfyniad cywir yma, ac mae DARC ymhell o fod yn brosiect seilwaith nodweddiadol.

"Mae ei oblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn golygu ei fod yn codi materion sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r broses gynllunio leol ac mae angen iddo gael ei ystyried ar lefel Llywodraeth Cymru."

Yn y llythyr i Gyngor Sir Penfro dywed y Gweinidog: "Mae'r datblygiad arfaethedig yn codi materion diogelwch cenedlaethol o ystyried natur strategol y cynnig o ran amddiffyniad, ac mae'n fater cynllunio newydd.

"Gallai'r cynnig fod yn groes i bolisi cenedlaethol mewn perthynas â thirwedd, ecoleg a chynaliadwyedd.

"Gallai penderfyniad ar y cynnig fod yn ddadleuol y tu hwnt i'r ardal leol uniongyrchol, ac mae cryn ddiddordeb cyhoeddus yn y cynnig eisoes.

"Oherwydd yr holl faterion hyn, mae'r Gweinidog Cabinet wedi dod i'r casgliad bod y datblygiad o bwysigrwydd sy'n mynd y tu hwnt i lefel leol, ac y dylai'r cais gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru."

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw pellach.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol