Pwy yw'r gŵr o Geredigion yn nhîm hwylio ieuenctid Prydain?

Steffan WilliamsFfynhonnell y llun, Steffan Williams
GanLowri Roberts
  • Cyhoeddwyd

Ar ôl creu argraff ym mhencampwriaeth Prydain yn Weymouth fis Gorffennaf, mae gŵr 17 oed o Geredigion wedi ei ddewis i dîm hwylio ieuenctid Prydain.

Dros y misoedd nesaf bydd Steffan Williams yn derbyn hyfforddiant arbenigol, yn mynychu gwersylloedd hyfforddi ac yn cystadlu mewn pencampwriaethau ar draws y byd fel rhan o'r llwybr datblygu.

Mae wedi bod yn haf prysur i'r dyn o Geinewydd, ac yn ddiweddar bu'n cynrychioli Prydain ym mhencampwriaeth ieuenctid y byd yn Aarhus, Denmarc, lle'r oedd dros 300 o hwylwyr ifanc gorau'r byd yn cystadlu.

"Ces i cwpl o rasys really da… des i'n ail yn rownd un o'r marks - oedd yn eitha' cool."

Steffan WilliamsFfynhonnell y llun, Lotte Johnson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steffan yn hwylio ers ei fod yn wyth oed

Bellach mae'n ôl wrth ei waith dros yr haf yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Ceinewydd, yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o hwylwyr ifanc.

Yma y cafodd ei flas cyntaf o hwylio, yn wyth oed.

"Fi'n joio gweithio yma, gweld pobl ifanc yn dod trwyddo mewn i chwaraeon, mae'n eitha' cool."

Tair blynedd ers dechrau rasio, mae Steffan nawr yn aelod o dîm ieuenctid Prydain - cam arwyddocaol yn y llwybr datblygu tuag at hwylio elît ac Olympaidd.

Dros y misoedd nesaf bydd yn manteisio ar yr hyfforddiant gorau, gwersylloedd ymarfer arbenigol a chynllun iechyd a ffitrwydd o'r safon uchaf.

"Dros y gaeaf nawr dwi'n meddwl bod chwe camp gyda ni - ni'n mynd i Malta, Ffrainc, Weymouth, Pwllheli - ie, ni'n mynd dros y lle i gyd gyda'r hwylio 'ma!"

'Haeddu'r llwyddiant achos y gwaith caled'

Yn gefn iddo, mae ei deulu sy'n ei gefnogi bob cam o'r daith. Esboniodd ei dad, Huw Williams, eu bod yn "falch iawn" ohono.

"Mae e'n haeddu'r llwyddiant achos mae'n gweithio mor galed - mae'n 'neud lot o waith ar ei dechneg ar y dŵr, ond hefyd mae'n gweithio yn galed ar ei ffitrwydd, mae'n nofio ddwywaith yr wythnos, mae'n rhedeg, mae e'n y gym bron bob diwrnod, mae'n rhoi lot o waith caled fewn."

Yn ogystal â'i ymroddiad i hwylio, mae Steffan hefyd yn ei flwyddyn olaf yn Ysgol Bro Teifi yn paratoi ar gyfer ei arholiadau Safon Uwch ac yn gobeithio dilyn ei dad yn astudio peirianneg forwrol yn Southampton.

"Mae e'n eitha' anodd, ond maen nhw wedi 'neud e'n eitha' da... s'dim events 'da ni trwy arholiadau so maen nhw wedi planio fe'n eitha' da."

Steffan WilliamsFfynhonnell y llun, Chris Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Steffan ydy mynd i'r Gemau Olympaidd yn 2032

O ran y dyfodol, eglurodd Steffan ei uchelgais: "Bydd yn neis aros yn squad Prydain - gobeithio mynd lan i ILCA 7 a mynd i squad Prydain - yr un go iawn - dim yr un ieuenctid."

A'r Gemau Olympaidd?

"Ie definitely 2032 fi'n meddwl fi'n mynd amdano - bydd hwnna yn eitha' cool!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig