'Cwestiynau mawr i'w gofyn' wrth i gwmni marchnata Orchard fynd i'r wal

Mae swyddfa'r cwmni wedi'i leoli ger gorsaf Caerdydd Canolog
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni marchnata a chyfathrebu Orchard yn cael ei ddiddymu, gan feio "marchnad sy'n crebachu a chystadleuaeth gynyddol".
Wedi'i leoli ar Trade Street yng Nghaerdydd, mae'r cwmni wedi bod yn gweithio gyda Menter Caerdydd ac S4C ers bron i 10 mlynedd yn ffilmio Tafwyl ar gyfer darlledu ar y teledu a sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Maen nhw hefyd wedi gweithio gyda Netflix, Dŵr Cymru, Principality a Thrafnidiaeth Cymru ac eraill yn y gorffennol, yn ogystal â gwneud gwaith digwyddiadau a chynnwys ar ran Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bel-droed Cymru yn y gorffennol.
Mae rhyw 70 o staff wedi colli eu swyddi o ganlyniad i'r cyhoeddiad.
Cafodd Orchard ei sefydlu yn 2010, a'r gweithwyr sydd wedi bod yn berchen arno ers 2024.
Mae'r cwmni'n darparu gwasanaethau cyfathrebu, strategaeth, gwaith creadigol, creu cynnwys, digwyddiadau a brandio.
Dywedodd y bwrdd rheoli eu bod wedi dod i'r "penderfyniad anodd i roi'r gorau i fasnachu ac wedi cyfarwyddo Menzies LLP i roi'r cwmni yn nwylo'r diddymwyr".
Ychwanegodd y cwmni "nad oedd maint ac ansawdd ein gwaith bellach yn gynaliadwy".
"Bydd Menzies LLP yn cysylltu â'r holl gleientiaid a chyflenwyr perthnasol cyn gynted â phosibl.
"Hoffem ddiolch i'n cleientiaid, ein cyflenwyr a'n partneriaid am eu cefnogaeth."
Pryderon cyn-weithwyr am reolaeth
Mae cyn-weithwyr wedi dweud wrth Newyddion S4C bod ganddyn nhw bryderon am reolaeth y cwmni.
Mae gweithwyr llawrydd, cerddorion a chwmnïau eraill wedi cadarnhau bod Orchard heb eu talu am waith sydd eisoes wedi ei gwblhau.
Mae Menzies LLP a chyn-brif weithredwr Orchard Media, Kerry McDonald, wedi cael cais am sylw.
Yn ôl rhai cyn-weithwyr, oedd eisiau aros yn anhysbys, roedd pethau wedi newid o ran diwylliant a llwyddiant y cwmni dros y ddwy flynedd diwethaf.
Yn ôl y cyn-weithwyr, er bod y staff i fod yn rheoli'r cwmni, prin iawn oedd y wybodaeth oedd yn cael ei rannu gyda nhw am berfformiad.
Honnwyd bod dim arwydd i staff tan ddechrau'r wythnos diwethaf y byddai'r cwmni yn dod i ben, cyn i hynny gael ei gadarnhau ddydd Gwener ddiwethaf.
Dywedodd cyn-weithiwr arall bod "cwestiynau mawr i'w gofyn" am "sut allai cwmni oedd a throsiant o £15m ddwy flynedd nôl fynd i'r wal?".
'Tipyn o glec'
Mae rhai gweithwyr llawrydd gyfrannodd at ddarllediadau S4C o Tafwyl wedi honni nad ydyn nhw wedi eu talu am y gwaith yna.
Cafodd rhai gweithwyr eraill eu talu gan gwmni cynhyrchu arall oedd wedi eu his-gontractio gan Orchard Media. Y gred yw nad yw'r cwmni hwnnw wedi ei dalu gan Orchard Media.
Mae Menter Caerdydd, sydd yn trefnu Tafwyl, yn un o gredydwyr Orchard Media. Disgrifiodd ffynhonnell o Fenter Caerdydd y ddyled fel "tipyn o glec".
Er i gerddorion eleni dderbyn ffi am berfformio, mae nifer o'r rhai gafodd eu perfformiadau eu darlledu ar S4C heb eu talu gan Orchard Media.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod "wedi cwblhau'r holl daliadau i Orchard oedd yn ddyledus ohono yn unol â'r cytundebau perthnasol".
Ychwanegodd: "Fel sydd yn arferol, Orchard fel y cwmni cynhyrchu oedd yn gyfrifol am daliadau i artistiaid a phawb oedd yn gweithio ar y cynhyrchiad."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.