'Gall un person newid cymaint' - pennaeth newydd Oxfam Cymru

Bethan Sayed
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Sayed yn dweud bod ei swydd newydd yn ei 'siwtio' hi fel person sydd yn 'ymgyrchydd yn ei chalon'

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchu ar lefel leol ac yn rhyngwladol "yn y gwaed" yn ôl Bethan Sayed, sydd wedi cael ei phenodi yn bennaeth newydd elusen Oxfam Cymru, dolen allanol.

Yn gyn-Aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru, ac yn fwy diweddar yn gweithio gydag elusen Climate Cymru, mae'n dweud iddi wirfoddoli gydag Oxfam yng Ngŵyl Glastonbury pan oedd yn 18 oed.

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru, dywedodd bod ei magwraeth wedi cael dylanwad cryf arni.

"O'n i wedi tyfu lan mewn teulu yn y Cymoedd oedd wastad wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd byd-eang - naill ai ymgyrchu yn erbyn y ffaith oedd Nelson Mandela wedi cael ei garcharu pan oedd yn protestio yn erbyn apartheid yn Ne Affrica, neu os oedd rhywbeth yn digwydd yn Ne America, roedd Dad a Mam wastad yn mynd allan i daflennu ar y strydoedd yn y Cymoedd; yn rhan o Gôr Cochion Caerdydd cyn iddyn nhw dyfu fel mae nhw nawr o ran ymgyrchoedd."

'Herio llywodraethau a siarad dros y mwyaf bregus'

Wrth ddechrau yn ei rôl newydd mae'n dweud bod Oxfam yn elusen sydd o'r dechrau wedi "herio llywodraethau" a "cheisio siarad dros y bobl fwyaf bregus sydd ddim yn cael llais" yn rhyngwladol ac yma yng Nghymru.

Yn ôl Bethan Sayed mae hynny yn ei siwtio hi fel rhywun sydd wedi bod yn "heriol i lywodraethiant fel Aelod o'r Senedd, ac fel rhywun sydd yn ymgyrchydd yn fy nghalon".

Gyda'r pwyslais y mae'r elusen yn ei roi ar ddadgoloneiddio, dywedodd Sayed ei bod hi'n bwysig gweithio gydag aelodau Oxfam mewn gwledydd i "newid y dyfodol fel bod nhw yn cael parch, fel bod nhw'n newid sut mae'r byd yn gweld sefyllfaoedd o ran coloneiddio - sut bod nhw wedi cael eu cymryd mantais ohoni, ond o'u perspective nhw yn hytrach na pherson gwyn yn byw yng Nghaerdydd."

Bethan Sayed

Wrth drafod yr heriau sy'n wynebu'r byd ar hyn o bryd, gan gynnwys newid hinsawdd, dywedodd mai'r bobl sydd yn lleiaf cyfrifol am newid hinsawdd sydd yn dioddef fwyaf, ond bod angen uno'r hyn sydd yn digwydd yn fyd-eang gyda'r hyn sydd yn digwydd yng Nghymru.

"Er enghraifft yn ddiweddar gyda llosgi'r mynyddoedd, gyda'r llifogydd mawr, mae'r rhain wedi bod yn digwydd yn Ffrainc, yn Sbaen, yn Syria - sut 'dan ni'n gallu defnyddio enghrefftiau o weithredoedd da yn y gwledydd yma i ddod i Gymru ac i ddysgu oddi arnyn nhw, a'r ffordd arall o gwmpas wrth gwrs."

Fe fyddai hefyd meddai yn hoffi cael trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ynglŷn â chael cyllid gan y llywodraeth ym Mae Caerdydd tuag at brosiectau Oxfam, lle bynnag maen nhw'n gweithio yn y byd.

'Pŵer gan yr unigolyn'

Dywed Sayed ei bod yn berson gobeithiol sy'n "credu y gall un person newid cymaint".

"Mae pobl sydd yn pleidleisio yn cael y pŵer i ddylanwadu beth mae llywodraethau yn gwneud, ac fel elusen dwi'n credu bod ein pŵer ni yn gryf iawn, ac fel person os nad ydw i'n parhau i fod yn gadarnahol wedyn beth yw'r opsiwn arall.

"Dan ni'n gallu eistedd yma bob dydd yn bod yn negyddol a dweud, wel, dwi ddim yn gallu newid unrhyw beth - na, mae pŵer gan yr unigolyn ac mae hynny'n pŵer mawr i ni oll."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig