Aelodau llawr gwlad Reform ddim am gael pleidleisio am yr arweinydd Cymreig

Dan ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan Thomas wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau yr heddlu barhau

  • Cyhoeddwyd

Ni fydd aelodau llawr gwlad Reform yng Nghymru yn cael pleidlais ar bwy fydd yn olynu'r cyn-arweinydd Dan Thomas, yn ôl prif chwip y blaid Llŷr Powell.

Daw wedi i Dan Thomas ymddiswyddo fel arweinydd Reform yng Nghymru ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn mewn modd sy'n rheoli neu'n gorfodi person arall.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach yr heddlu barhau, ac mae'n gwadu gwneud unrhyw beth o'i le.

Dywedodd Powell wrth y BBC mai 33 aelod Reform yn y Senedd fydd yn cael pleidlais os bydd mwy nag un ymgeisydd.

Ychwanegodd Powell eu bod yn gobeithio y bydd arweinydd newydd erbyn diwedd y mis a'u bod "yn symud yn gyflym i ddychwelyd at y gwaith arferol, gan fod materion pwysig y mae angen eu trafod".

Daeth y newyddion bod Dan Thomas wedi cael ei arestio i'r amlwg tua'r un pryd â chyhoeddiad ar wahân gan yr Aelod o'r Senedd dros Reform, Sarah Cooper-Lesadd, ei bod wedi ymuno â Phlaid Cymru.

Llŷr PowellFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n hyderus y bydd y broses hon wedi'i chwblhau erbyn diwedd y mis," meddai Llŷr Powell

Wrth siarad â'r BBC, dywedodd Powell na chafodd yr un o arweinwyr y grwpiau eraill yn y Senedd eu hethol gan eu haelodau.

"Felly does dim gwahaniaeth yn hynny o beth, ond mae gennym ni gyfansoddiad. Rydym yn ei ddilyn.

"Gall enwebiadau ddechrau, ac rwy'n hyderus y bydd y broses hon wedi'i chwblhau erbyn diwedd y mis fel y gallwn ganolbwyntio unwaith eto ar yr hyn sy'n flaenoriaeth."

Dywedodd mai'r flaenoriaeth honno yw "pobl Cymru a dwyn y llywodraeth hon i gyfrif oherwydd y pethau brawychus maen nhw'n eu gwneud ar hyn o bryd".

"Nid mater o ymddiriedaeth sydd yma. Mater yw bod ein haelodau eisiau i ni fwrw ymlaen â'r bleidlais, â'r gwaith sydd wrth law.

"Dydw i ddim yn gweld pleidlais fewnol fel y flaenoriaeth ar hyn o bryd."

Pwy yw'r ymgeiswyr posibl?

Helen Jenner yw'r arweinydd dros dro, gan mai hi yw dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru, a chredir ei bod ymhlith yr ymgeiswyr posibl i olynu Dan Thomas.

Ymhlith yr ymgeiswyr posibl eraill y mae Llŷr Powell, ac aelod a adawodd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Mae un aelod blaenllaw o'r blaid, Cai Parry-Jones, sy'n cynrychioli etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf, wedi dweud wrth y BBC fore Mercher ei fod wedi diystyru sefyll fel ymgeisydd.

Dywedodd y cyn-gynghorydd Jason O'Connell hefyd na fydd yn sefyll.

Mae cyn-Geidwadwr arall James Evans wedi dweud na fydd yn ymgeisydd yn etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2030.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.