Tystiolaeth 'glir' fod dau wedi lladd Ian Watkins - llys

Bu farw Ian Watkins ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae tystiolaeth "glir" fod dau ddyn sydd wedi'u cyhuddo o lofruddio Ian Watkins wedi bod yn rhan o'i ladd, mae llys wedi clywed.
Mae achos llys Rashid Gedel, 25, a Samuel Dodsworth, 44 - sydd wedi'u cyhuddo o lofruddio cyn-ganwr y grŵp roc o Gymru, Lostprophets, mewn carchar y llynedd - wedi dechrau ddydd Iau.
Roedd Watkins, o Bontypridd, wedi cael ei garcharu am 29 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant - gan gynnwys ymgais i dreisio babi.
Bu farw ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref, 2025.
Mae'r ddau ddyn ar brawf yn Llys y Goron Leeds ac wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad o'i lofruddio.
'Bwriadu achosi niwed difrifol'
Yn agor yr achos i'r erlyniad, dywedodd Tom Storey KC wrth y llys fod Rashid Gedel wedi ymosod ar Watkins yn ei gell ar fore 11 Hydref a'i drywanu deirgwaith, gan achosi anafiadau i'w ben a'i wddf.
Yna cuddiodd Samuel Dodsworth yr arf, clywodd y rheithgor.
"Y bwriad oedd i achosi niwed difrifol iawn, ar y lleiaf, i Ian Watkins," meddai'r erlynydd wrth y rheithgor.
Awgrymodd Mr Storey fod rhai o'r farn nad yw dedfrydau o garchar yn ddigon "llym" ar bobl sy'n euog o droseddau rhyw yn erbyn plant, a bod rhai pobl yn penderfynu "gweithredu eu ffurf eu hunain o gosb ar droseddwyr o'r fath".

Dechreuodd yr achos llys yn erbyn Rashid Gedel a Samuel Dodsworth yn Llys y Goron Leeds ddydd Iau
Aeth yr erlynydd yn ei flaen i ddisgrifio Watkins fel carcharor "uchel ei broffil" a'i fod wedi derbyn dau nodyn y diwrnod cyn iddo farw.
Roedd y nodiadau, meddai Mr Storey, yn ei gyhuddo o achosi i garcharor gael ei "daflu o'r adran, yn mynnu arian ganddo ac yn bygwth trais tuag ato".
Ychwanegodd fod gan y carchar - HMP Wakefield yng ngogledd Lloegr - amgylchedd lle nad yw achwyn ar eraill yn cael ei oddef gan garcharwyr.
Dywedodd Mr Storey fod Gedel wedi cael ei symud, "mewn cyd-ddigwyddiad llwyr", i'r gell drws nesaf i Watkins y prynhawn cyn ei farwolaeth.
Clywodd y rheithgor fod Dodsworth eisoes wedi'i leoli yn yr un adran.
Roedd carcharorion wedi cael caniatâd i fynd allan o'u celloedd y bore y bu'r ymosodiad ar Watkins, ychwanegodd.
Ian Watkins wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf - cwest
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2025
Arestio dau wedi i Ian Watkins, cyn-ganwr a throseddwr rhyw, farw yn y carchar
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2025
Dywedodd Mr Storey fod Gedel wedi mynd i mewn ac allan o gell Watkins o fewn tua "20 eiliad" a bod Dodsworth wedi bod yn ei wylio yn mynd i mewn i'r ystafell.
Eiliadau'n ddiweddarach, meddai Mr Storey, cafodd rhywbeth ei roi iddo gan Gedel, gyda Dodsworth yn ei roi yn ei boced.
Clywodd y llys fod staff y carchar wedi gweld Watkins yn dod allan o'i gell "yn gwaedu o anafiadau i'w wyneb".
Dywedodd Mr Storey fod y dyn 48 oed wedi dioddef anaf "difrifol" i'w wddf yn ystod yr ymosodiad a cholli ymwybyddiaeth yn fuan wedyn.
Er y bu ymdrechion gan staff y carchar i'w adfywio, cafodd ei gyhoeddi'n farw am 10:14.

Bu farw Ian Watkins yng ngharchar HMP Wakefield
Er gwaethaf ei anafiadau difrifol, roedd Watkins yn medru adnabod pwy a ddaeth i mewn i'w gell, meddai Mr Storey.
Dywedodd Mr Storey fod swyddog carchar a oedd yn bresennol ar y pryd wedi dweud bod Gedel "yn ymddangos fel ei fod yn gweld y sefyllfa'n ddoniol".
Ychwanegodd Mr Storey fod Gedel wedi dweud rhywbeth fel: "Os ydw i'n mynd i gael oes am lofruddiaeth, dwi'n mynd i wneud yn siŵr ei fod werth o."
Dywedodd Mr Storey fod Gedel wedi dweud wrth yr un swyddog: "Os ydw i wedi'i ladd o, gallwch chi fod yn siarad gyda rhywun enwog."
Ar ôl gwrando ar ddatganiad agoriadol yr erlyniad a gwylio lluniau CCTV o'r carchar, daeth y gwrandawiad i ben am y diwrnod.
Mae'r achos yn parhau.