Y Woodstock Cymreig: Ffair Meigan a gwyliau cerddorol y 70au

Cariad a heddwch ar lethrau mynyddoedd Y Preseli – Gorffennaf 1975
- Cyhoeddwyd
Ag Eisteddfod y Garreg Las 2026 newydd ddod i ben, a nifer ohonoch yn barod yn edrych yn ôl yn hiraethus ar wythnos o fwynhau, tybed pwy sy'n cofio gŵyl arall a gynhaliwyd tua hanner can mlynedd yn ôl nid nepell o faes yr Eisteddfod eleni?
Roedd Ffair Meigan yn ŵyl gerddorol amgen a gynhaliwyd tair blynedd yn olynol rhwng 1973 a 1975 ger Boncath yng nghefn gwlad mynyddoedd Y Preseli.
Yng Ngorffennaf 1975, daeth dros 8,000 o hipis o bob cwr o'r Deyrnas Unedig i'r ŵyl chwedlonol sydd yn cael ei disgrifio fel y 'Woodstock Cymreig'.
Dyma ychydig o hanes y Ffair, a gwyliau amgen eraill y 70au a gynhaliwyd ar draws Cymru.

Un o lwyfannau'r ŵyl – gyda mynyddoedd y Preseli yn y cefndir
Sefydlwyd yr ŵyl yn 1973, gan rai o hipis lleol ynghyd â rhai o drefnwyr sîn roc Llundain. Cynhaliwyd Ffair Meigan ar gaeau fferm Pantyderi ger pentref Boncath yng ngogledd Sir Benfro.
Roedd 'Ffair Meigan' yn ddyddiad pwysig yn hen galendar ffermio'r ardal, a oedd yn dyddio nôl i'r 18fed ganrif o leiaf. Roedd yr enw'n cyfeirio at y sant Celtaidd Meigan, fu'n byw yn y chweched ganrif.
Ffair gyflogi ydoedd lle roedd gweision fferm a morwynion llaeth yn ymgynnull i dderbyn gwaith gan berchnogion tir y ffermydd a'r ystadau lleol.
Felly penderfynodd trefnwyr yr ŵyl i atgyfodi'r 'ffair', a oedd heb gael ei chynnal ers diwedd y 19eg ganrif, ac i'w thrawsnewid yn ŵyl gerddorol yn llawn peace and love, man.

Arthur Brown yn perfformio ar brif lwyfan y Ffair
Roedd y Ffair Meigan gyntaf ar ei newydd wedd yn llwyddiant tawel – wrth i tua 400 o bobl ei mynychu yn haf 1973. Y flwyddyn ganlynol, dim ond llond llaw o bobl drodd fyny o ganlyniad i dywydd gwael.
Ond yn 1975, cafwyd blwyddyn fawr Ffair Meigan.
Dyma oedd y tro olaf i'r ŵyl gael ei chynnal, ac roedd yn ŵyl i'w chofio. Cafodd y Ffair ei threfnu y tro hwn yn fwy proffesiynol, gyda'r trefnydd gwyliau profiadol Bill Harkin o Lundain yn arwain. Harkin oedd un o sylfaenwyr gŵyl Glastonbury ychydig flynyddoedd ynghynt.
Cynhaliwyd Ffair Meigan 1975 rhwng 25-27 Gorffennaf, gan ddenu miloedd o hipis o bob cwr Y Deyrnas Unedig.

Rhai o grefftwyr yr ŵyl (chwith) a'r gwersyll (dde)
Roedd tîm mawr o wirfoddolwyr yn gyfrifol am osod maes yr ŵyl – gyda dau lwyfan cerddoriaeth, llwyfan ar gyfer sioeau syrcas a theatr, rig goleuo, a maes chwarae ar gyfer y plant.
Roedd hefyd stondinau lle'r oedd crochenwyr a chrefftwyr o bob math yn creu ac yn gwerthu nwyddau.
Penderfynwyd peidio hysbysebu'r ŵyl yn ormodol, gan ddibynnu'n hytrach ar ledaenu'r gair ar lafar, yn ogystal â danfon 'datganiad' yn Gymraeg ac yn Saesneg, ynghyd â chyfarwyddiadau o ran sut i gyrraedd ardal Boncath o Lundain at newyddiadurwyr sîn roc y brifddinas.

Poster dwyieithog yr ŵyl, a thorf yn gwylio sioe bypedau yn y Ffair
Y Grateful Dead... yn Sir Benfro?
Roedd yna sïon ar led bod bandiau mawr y dydd fel y Grateful Dead, Hawkwind a Traffic yn mynd i berfformio yn y Ffair. Yn anffodus, ni ddaeth yr enwogion hyn i fryniau'r Preseli. Ond fe ddaeth rhai o fandiau amgen adnabyddus y cyfnod – gan gynnwys Gong, Global Village Trucking Company ac Arthur Brown.
Cafodd rhaglen ddogfen ei ffilmio am yr ŵyl gan y gwneuthurwr ffilm Michael Haggiag.
Cafodd Ffair Meigan 1975 ei hadolygu'n ffafriol yng nghylchgrawn adnabyddus yr NME gan y newyddiadurwr Chris Salewicz – a gafodd groeso cynnes dros dridiau'r Ffair.
Disgrifiodd yr ŵyl fel y 'Woodstock Cymreig', ac mi fuodd yn mwynhau awyrgylch unigryw yr ŵyl yma ym mhrydferthwch cefn gwlad Y Preseli.

Erthygl yng nghylchgrawn adnabyddus yr NME yn adolygu gŵyl Ffair Meigan
Gwyliau cerddorol rhad ac am ddim

Gŵyl Am Ddim Rhuthun 1980 (chwith) a Chwm Elan 1976 (dde)
Cafodd nifer o wyliau cerddorol amgen tebyg eu cynnal ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig yn y 70au – ac roedden nhw i gyd yn rhad ac am ddim.
Roedd rhain i gyd yn rhan o symudiad y counterculture, ac yn ceisio efelychu ethos gŵyl eiconig Woodstock yn 1969, a fynychwyd gan 500,000 o bobl yng nghefn gwlad talaith Efrog Newydd.
Mae rhai o wyliau cerddorol am ddim y cyfnod a gynhaliwyd yn cynnwys y Rhayader Fayre Free Festival yng Ngorffennaf 1976; Ffair Dyffryn Ogwen ym Medi 1977; y Rhuthun Free Festival ym Mehefin 1980; Gŵyl Cwm Elan yng Ngorffennaf 1976; Gŵyl Psilocybin ym Mhontrhydygroes yn 1976, 1979 a 1980; a'r Gilfach Free Festival ym Medi 1979.
Roedd miloedd yn heidio i'r gwyliau hyn o ledled y Deyrnas Unedig – â phrydferthwch naturiol cefn gwlad Cymru'n atyniad pendant.

Gŵyl Psilocybin, Pontrhydygroes yn 1976
Diwedd Oes Aur y gwyliau am ddim

Mae'n debyg fod Ffair Meigan yn ŵyl heddychlon, ddidrafferth – yn Oes Aur y 'gwyliau am ddim'
Daeth cyfnod y gwyliau hyn i ben yn yr 80au, wrth i'r heddlu dargedu'r gwyliau oherwydd eu bod yn denu cyffuriau.
Penllanw'r gwrthdaro gyda'r heddlu yn y cyfnod hyn oedd Brwydr y Beanfield ar 1 Mehefin 1985 pan arestiwyd 537 o bobl ger Côr y Cewri am geisio mynychu'r Stonehenge Free Festival.
Dyma oedd y nifer fwyaf o bobl i gael eu harestio ar unwaith ym Mhrydain ers cyfnod yr Ail Ryfel Byd, ac mae'n parhau i fod yn un o'r arestiadau torfol mwyaf yn hanes Ewrop.
Yn dilyn hyn, cafodd y gyfraith ei newid i wahardd unrhyw wyliau cerddorol didrwydded.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
