Bwrdd iechyd heb wirio'n iawn cyn rhoi cytundeb £10m i reoli meddygfeydd

Meddyg teulu wrth ddesg yn siarad gyda chlafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Archwilio Cymru bod angen i bob bwrdd iechyd ddysgu o'r hyn ddigwyddodd i'r meddygfeydd dan ofal eHarley Street

  • Cyhoeddwyd

Fe fethodd bwrdd iechyd â chynnal archwiliadau manwl cyn rhoi cytundebau gwerth £10.1m i ddarparwr iechyd sydd wedi cael eu beirniadu gan gleifion, meddygon a phrif weinidog.

Datgelodd BBC Cymru bryderon yn 2024 ynghylch diogelwch, lefelau staffio a phrinder cyflenwadau meddygfeydd yn ne Cymru oedd dan reolaeth cwmni eHarley Street o sir Gaerlŷr.

Mae adroddiad Archwilio Cymru nawr yn nodi bod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan heb gynnal gwiriadau priodol cyn rhoi cytundebau i'r cwmni redeg wyth meddygfa.

Dywed y bwrdd iechyd y gellid bod wedi cynnal "craffu pellach" ar gynlluniau ariannol a staffio.

Mae eHarley Street wedi cael cais am sylw.

Daeth pryderon i'r amlwg ym mis Tachwedd 2024 wedi i feddygon locwm wrthod gweithio ym meddygfeydd eHarley Street yng Nghymru, gan honni bod cyfanswm o tua £250,000 yn ddyledus iddyn nhw.

Rhybuddiodd y meddygon hefyd bod lefelau staffio'n "beryglus", a bod prinder cyflenwadau "â'r potensial i fod yn drychinebus".

Gwadodd eHarley Street yr holl honiadau ar y pryd.

Dywedodd cleifion - gan gynnwys rhai â chyflyrau terfynol - bod trafferthion cael apwyntiadau a thriniaethau, gan ysgogi galwadau am ymchwiliad.

Ym mis Ionawr 2025, dywedodd y cyn-brif weinidog Eluned Morgan ei bod "yn bryderus iawn", gan fygwth canlyniadau pe na bai'r sefyllfa'n gwella.

Meddygfa Brynmawr
Disgrifiad o’r llun,

Meddygfa Bryn-mawr - un o'r naw meddygfa oedd yn arfer cael eu rheoli gan gwmni eHarley Street

Roedd y cwmni'n rheoli wyth meddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

  • Meddygfeydd Bryn-mawr, Tredegar ac Aberbîg ym Mlaenau Gwent;

  • Meddygfa Blaenafon a Chanolfan Feddygol Pont-y-pŵl yn Nhorfaen;

  • Meddygfa Bryntirion, Bargoed a Meddygfa Gelli-gaer yn Sir Caerffili;

  • Canolfan Feddygol Llyswyry yng Nghasnewydd.

Roedd hefyd yn rheoli Meddygfa Corporation Road yn ardal Tre-biwt, Caerdydd.

Mae'r holl feddygfeydd erbyn hyn yn ôl dan reolaeth y GIG.

Ar y pryd, dywedodd eHarley Street bod dull gweithredu'r cwmni "ddim yn gweddu strwythur presennol gofal sylfaenol yng Nghymru", ac y byddai'r cwmni'n "diwallu'n holl ofynion cytundebol".

Mae'r corff sy'n archwilio gwasanaethau cyhoeddus nawr wedi beirniadu'r ffordd y rhoddodd Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan gytundebau i'r cwmni.

Daeth Archwilio Cymru i'r casgliad y dylai'r bwrdd fod wedi archwilio'n fanylach i fodel busnes y cwmni cyn rhoi cytundebau.

Fe wnaeth y bwrdd fethu ag asesu'n briodol y risg o roi sawl cytundeb i ddarparwr â dim ond dau feddyg, "nad oedd yn rhoi gofal lleol yn uniongyrchol" ac oedd yn dibynnu ar benodi staff i ddarparu gwasanaethau.

Aeth y bartneriaeth "i drafferthion ariannol yn gyflym" er i'r bwrdd iechyd roi dros £1.2m mewn "arian cynaliadwyedd".

Roedd y bwrdd, meddai archwilwyr, "wedi gweithredu'n briodol i warchod gwasanaethau" ond dylen nhw fod wedi gwneud mwy i archwilio achos busnes a chynlluniau ariannol y bartneriaeth.

Doedd "dim tystiolaeth" o wiriadau gyda Thŷ'r Cwmnïau i "fuddiannau busnes ehangach y partneriaid".

Bu'n rhaid i'r bwrdd iechyd gamu i'r adwy ar fyr rybudd wedi i'r cwmni drosglwyddo meddygfeydd yn ôl i'r GIG.

Dywed y bwrdd iechyd eu bod wedi rhoi cytundebau "yn unol â'r polisi a'r rheoliadau cenedlaethol", ond bod yna "wersi i'w dysgu" ac y gellid bod wedi cynnal "craffu pellach".

Materion sy'n 'berthnasol ar draws Cymru'

Dywedodd Archwilio Cymru bod trafferthion ariannol y bartneriaeth a throsglwyddo'r meddygfeydd yn ôl "wedi creu tarfu ac ansicrwydd i gleifion a staff".

Mae hefyd, meddai, angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru cyngor o 2006 o ran delio gyda'r model busnes y mae eHarley Street yn ei ddefnyddio.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymateb i Archwilio Cymru yn cydnabod y materion sy'n cael eu codi" ac y byddan nhw'n "adolygu a diweddaru'r canllawiau presennol i adlewyrchu'n well y tirlun gofal sylfaenol modern".

Yn gynharach eleni, dywedodd eHarley Street bod "tangyllido cronig, fformiwlâu ariannu hen ffasiwn a gweithlu sydd wedi ymlâdd" yng Nghymru, a'u bod wedi gwario "arian personol a phreifat i sefydlogi gwasanaethau a phenodi staff clinigol".

Dywed Archwilio Cymru bod y bwrdd iechyd wedi newid rhai prosesau comisiynu a chaffael, ond bod angen gwelliannau pellach i osgoi methiannau tebyg.

Ychwanegodd bod y materion yn yr adroddiad "yn berthnasol ar draws Cymru" a bod byrddau iechyd "dan bwysau i gadw gwasanaethau meddygon teulu i fynd mewn marchnad heriol ac, ar brydiau, bregus".

"Dan yr amodau hyn, mae gwir risg o beidio ag ystyried yn llawn gwytnwch a chapasiti darparwr i roi gwasanaethau dros y tymor hir.

"Mae'n bwysig bod y system yn ehangach hefyd yn dysgu o brofiad Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan."

Alun Davies yn eistedd yn stiwdio Radio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-AS Alun Davies eisiau i bwyllgor iechyd y Senedd ymchwilio i'r mater

Fe wnaeth cyn-aelod Blaenau Gwent yn y Senedd, Alun Davies, ymgyrchu ar y mater, a dywedodd y byddai'n ysgrifennu at y pwyllgor iechyd - wedi iddo gael ei sefydlu - yn galw am ymchwiliad.

Dywedodd fod angen edrych yn benodol ar sut y cafodd y cytundebau yma eu rhoi i eHarley Street, ac mae eisiau i'r pwyllgor a'r gweinidog iechyd edrych yn ehangach ar gytundebau meddygfeydd yng Nghymru.

Mae Mr Davies yn teimlo y bu "methiannau pob cam o'r ffordd", a bod angen "dysgu gwersi difrifol".

'Wedi derbyn yr holl argymhellion'

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod yn croesawu'r adroddiad "ac wedi derbyn ei holl argymhellion, sydd eisoes yn cael eu rhoi ar waith".

"Ein blaenoriaeth oedd cadw gwasanaethau meddygon teulu i fynd yn ddiogel ac yn gyson ar gyfer ein cleifion mewn cyfnod o bwysau sylweddol.

"Ble y gwnaeth meddygfeydd newid dwylo, rydym wedi gweithredu'n gyflym i gynnal gofal a gwarchod diogelwch cleifion."

Ychwanegodd bod eu hymrwymiad "yn parhau i weithio gyda meddygon teulu dan gytundeb, staff meddygfeydd a phartneriaid i ddarparu gwasanaethau sefydlog o ansawdd uchel i gymunedau ar draws Gwent".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.