Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi cabinet newydd Llywodraeth Cymru

CabinetFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Llywodraeth Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae prif weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi penodi gweinidogion ei lywodraeth.

Mae Sioned Williams yn Ddirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb.

Ac mae Elin Jones - a wnaeth wasanaethu fel gweinidog materion gwledig yng nghlymblaid Llafur a Phlaid Cymru yn negawd gyntaf y ganrif - yn Weinidog Cabinet dros Gyllid.

Anna Brychan, sydd newydd ei hethol yng Nghaerdydd Penarth, yw'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth y bydd y Cabinet yn un a fydd yn rhoi "pwyslais diflino ar wneud yr hyn sydd orau i Gymru".

Dyma'r llywodraeth yn llawn:

  • Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb – Sioned Williams.

  • Gweinidog Cabinet dros Gyllid – Elin Jones.

  • Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon – Heledd Fychan.

  • Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a'r Cyfansoddiad – Dafydd Trystan Davies.

  • Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal – Mabon ap Gwynfor.

  • Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni – Adam Price.

  • Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg – Anna Brychan.

  • Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd – Llŷr Gruffydd.

  • Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio – Siân Gwenllian.

  • Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol – Nerys Evans.

  • Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod – Delyth Jewell.

  • Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth – Mark Hooper.

  • Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol – Cefin Campbell.

Y Darpar Gwnsler Cyffredinol yw'r cyn-AS Elfyn Llwyd.

Cafodd arweinydd Plaid Cymru ei ethol yn brif weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth, a dyma'r tro cyntaf i Blaid Cymru arwain llywodraeth yng Nghymru.

Cafodd y tîm gweinidogol newydd ei ddatgelu ym mhencadlys Llywodraeth Cymru yng nghanol Caerdydd ddydd Mercher.

Llywodraeth CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod y llywodraeth yn "unedig" ac yn "llawn doniau a phrofiad"

Dywedodd y prif weinidog: "Rwy'n hyderus y bydd y cabinet hwn yn dod ag egni newydd, syniadau newydd a chyfeiriad newydd i'r ffordd mae ein cenedl yn cael ei harwain.

"Mae fy llywodraeth yn un unedig, llawn doniau a phrofiad sy'n barod i wasanaethu.

"Bydd yn mynd ati i gyflawni ar sail yr hyn sy'n bosibl, gan weithio fel un tîm bob dydd i wella bywydau pobl Cymru."

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Sioned Williams ei bod yn "ei theimlo'n fraint cael fy mhenodi'n Ddirprwy Brif Weinidog", gan ychwanegu ei bod yn "ymgymryd â'r rôl hon gydag ymdeimlad dwfn o bwrpas".

"Mae hon yn llywodraeth i bawb sydd wedi ymrwymo i droi addewid yn weithredu ar unwaith i bobl Cymru, gyda phwyslais clir ar fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu pob cymuned."

Disgrifiad,

Mae gan gabinet Plaid Cymru "ambell sypreis' yn ôl gohebydd BBC Cymru Teleri Glyn Jones

Dywedodd Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru: "Mae angen i'r cabinet hwn gyflawni ar gyfer bobl Cymru.

"Mae angen newid brys ar ein GIG, ein hysgolion a'n heconomi, ac er y gallaf anghytuno â Phlaid Cymru, mae angen iddyn nhw lwyddo.

"Byddwn yn craffu ar eu gweithredoedd ac yn gweithio i sicrhau bod eu sylw ar ein gwasanaethau cyhoeddus ac nid ar annibyniaeth i Gymru."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar: "Ni phleidleisiodd pobl yng Nghymru dros newid mewn personél, fe bleidleision nhw dros newid cyfeiriad.

"Mae angen syniadau newydd a llywodraethu newydd arnom, nid yr un hen wleidyddiaeth o'r 27 mlynedd diwethaf.

"Mae gan lywodraeth newydd Plaid Cymru dasg aruthrol o'i blaen, ac er mwyn pobl Cymru, rwyf am iddi lwyddo lle methodd Llafur."

Dadansoddiad Elliw Gwawr

Mae nifer o'r penodiadau yma yn cyfateb i'r swyddi yr oedd gan yr aelodau mewn gwrthblaid, ac felly yn fawr o syndod.

Ond mae 'na le i bedwar aelod newydd, ac felly mae cyn bennaeth undeb y prif athrawon (NAHT) Anna Brychan yn gyfrifol am addysg a'r iaith Gymraeg, tra bod Cefin Campbell, fu'n gyfrifol am y briff yn y Senedd ddiwethaf nawr yn ddirprwy weinidog.

Mae 'na swydd flaenllaw i Dafydd Trystan hefyd, tra bod Nerys Evans a Mark Hooper yn ddirprwy weinidogion.

Ac mi fydd 'na hen law fel Cwnsler Cyffredinol wrth i'r cyn arweinydd Seneddol Elfyn Llwyd ddychwelyd i wleidyddiaeth rheng flaen, er bydd angen cymeradwyaeth y Senedd i'w rôl o.

Yr unig aelod o'r Senedd ddiwethaf sydd ddim yn y cabinet, yw Peredur Owen Griffith.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.