Pryder am ddyfodol nifer o eglwysi gwledig yng Ngheredigion

Saif Eglwys Llanbadarn Odwyn uwchben Dyffryn Aeron
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol sawl eglwys wledig yng nghanolbarth Ceredigion yn y fantol wrth i Esgobaeth Tyddewi weithredu eu cynllun Tocio a Thyfu.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Archddiacon Aberteifi, Eileen Davies, bod yn rhaid ystyried dyfodol nifer o eglwysi wrth i'r gynulleidfa a nifer y rhai sy'n gallu cynnal gwasanaeth ostwng.
Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf gyda nifer o eglwysi.
Yn eu plith mae eglwysi Llanbadarn Odwyn a Betws Leucu ger Llangeitho, a Maestir, Llanfair Clydogau a Phencarreg yn ardal Llanbed.
'Fan hyn mae bedd fy rhieni a'n crwt bach'
Mae ysgrifennydd Eglwys Llanbadarn Odwyn yn benderfynol o gadw yr eglwys fach wledig uwchlaw Dyffryn Aeron ar agor.
"Mae'n eglwys fach hyfryd ofnadw' - a fan hyn mae bedd fy rhieni a'n crwt bach ni," meddai Heulwen Bulman.
"Pan gollais i fy nheulu ffeindies i gysur mawr yn mynd i'r eglwys, a fi wedi cadw 'mlaen i fynd ers hynny.
"Mewn plwyf sydd â 100 o bobl ry'n ni'n ddwsin o aelodau, ac mae ryw saith yn dod yn gyson i wasanaeth sy'n cael ei gynnal bob pythefnos - mae hynny'n ganran gymharol uchel."

Bydd cyfarfod i drafod dyfodol yr eglwys ar 4 Gorffennaf, ac un arall gyda'r Archddiacon a'r offeiriad lleol yr wythnos ganlynol
Yn sgil nifer llai o offeiriadon a chyflwr rhai adeiladau, dywed yr esgobaeth bod yn rhaid edrych ar ddyfodol nifer o eglwysi.
Ar 4 Gorffennaf mae swyddogion Eglwys Llanbadarn Odwyn wedi trefnu cyfarfod yn y pentref lleol - Stags Head - er mwyn ceisio cael mwy o bobl i ymddiddori yn yr eglwys.
Yr wythnos wedyn ar 12 Gorffennaf bydd yr Archddiacon a'r offeiriad lleol yn dod i Eglwys Llanbadarn Odwyn i drafod y sefyllfa.

Mae ysgrifennydd Eglwys Llanbadarn Odwyn yn benderfynol o'i chadw ar agor
"Mae'r eglwys 'ma mor bwysig i nifer ohonon ni," ychwanegodd Heulwen Bulman.
"Nid jyst i ni'r aelodau - ond mae pobl o'dd yn arfer byw 'ma yn hoff iawn o ddod nôl i ymweld. Ni'n bendant ddim am iddi gau."
Dywed bod yr aelodau yn talu ffi uchel i'r Eglwys yng Nghymru a'i bod yn "dorcalonnus nad oes neb yn gofalu droston ni".
"Ry'n ni'n cynnal cyfarfod lleol er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb.
"Yn barod, o glywed bod dyfodol yr eglwys yn y fantol, mae diddordeb wedi bod - ac yn sicr mae'r gymuned tu cefn i ni.
"Os nad oes modd cynnal gwasanaethau bob pythefnos, ni'n bendant am iddi fod yn eglwys bererindod - mae hynny'n golygu cynnal ryw chwe gwasanaeth arbennig mewn blwyddyn.
"Falle allen ni gael côr neu wahodd cynulleidfa arall i ymuno â ni. Ni bendant mo'yn cadw'r eglwys fach ar agor."
Un offeiriad â 22 o eglwysi
Dywedodd yr Archddiacon Eileen Davies fod "dim penderfyniad eto ac ry'n ni'n agored i syniadau newydd... ond yn aml dyw hi ddim yn ymarferol i gadw nifer o'r eglwysi bach 'ma ar agor".
"Os yw coeden yn pydru a bod 'na ddim ffrwyth, neges yr Iesu fyddai ei llosgi hi a chwilio am dyfiant newydd yn rhywle arall.
"Fi'n ofni bod lot o bobl yn addoli adeiladau yn lle'r Arglwydd Iesu.
"Rhaid bod yn ymarferol. Mae un offeiriad yn yr ardal â 22 o eglwysi - ac yn rheiny dim ond dau neu dri sy'n dod ar y Sul a hynny ers 20 mlynedd.
"Mae rhannau o rai eglwysi yn cwympo a dyw'r strwythur trydan ddim yn ddiogel.
"Fi'n teimlo weithiau bod yn rhaid deffro pobl. Os oes dyfodol i'r eglwysi 'ma mi 'nawn ni gydweithredu.
"Yn ddiweddar roedd 'na un eglwys o dan fygythiad ond nawr mae'r nifer sy'n mynd iddi wedi cynyddu'n ddirfawr ac mae hynny'n newyddion calonogol."
Bydd mwy am y stori yma yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin

