Crynodeb

  • Rhybudd coch am dywydd poeth iawn yn dod i rym am 09:00 yn y de a'r dwyrain

  • Dros 500 o ysgolion ar gau neu yn bwriadu cau'n gynnar

  • Rhybudd oren ar gyfer Cymru gyfan eisoes mewn grym

  • Gallai'r tymheredd gyrraedd hyd at 40C mewn mannau yn ôl y Swyddfa Dywydd

  1. Trafnidiaeth Cymru: 'Peidiwch â theithio os nad oes rhaid'wedi ei gyhoeddi 09:19 GMT+1

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Mae'r gwres yn cael effaith ar y systemau trafnidiaeth yng Nghymru, fel esbonia Gethin Jones o Drafnidiaeth Cymru.

    "Mae yna waith paratoi wedi bod ar y gweill ar gyfer heddi a 'fory. Y cyngor yw i beidio teithio os nad yw e'n gwbl angenrheidiol, yn enwedig mewn ardaloedd gyda rhybudd coch.

    "Os 'da chi methu teithio heddiw a 'fory mae 'na groeso i chi ddefnyddio eich tocynnau ddydd Gwener.

    "Gyda digwyddiadau mawr yng y brifddinas heno, mae gyda ni dîm digwyddiadau arbennig sy'n edrych ar amryw o scenarios.

    "Rydyn ni'n disgwyl noson hynod o brysur ond fe fydd staff gerllaw i gynnig cymorth a wedyn mae dŵr gyda ni ar gael yn y gorsafoedd hefyd. Ond y cyngor yw i wirio'r daith cyn i chi deithio."

    trenFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Pa mor gynnes oedd hi ddoe? Wel poeth iawn!!!wedi ei gyhoeddi 09:11 GMT+1

    Ddoe cofnodwyd y diwrnodau poethaf eleni yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

    Ond roedd hi'n boethach yng Nghymru wrth i'r tymheredd gyrraedd 32.2C ym Mharc Bute yng Nghaerdydd.

    Yn Lloegr ddoe roedd hi'n 34.6C yn Wisley, Surrey - dyna lle oedd hi boethaf.

    Roedd hi.n 20C yn Aberdeen a 28.1 yn Katesbridge yn Sir Down yng Ngogledd iwerddon.

    dynes a ffanFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Yr ysgolion sydd ar agor wedi gohirio digwyddiadau yn yr haulwedi ei gyhoeddi 09:03 GMT+1

    Mae nifer o ysgolion ar gau ac o ran y rhai sydd ar agor dywed cynghorau eu bod yn monitro'r sefyllfa ac yn gweithio gydag ysgolion i asesu'r risgiau.

    Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful fod diwrnodau chwaraeon a theithiau ysgol yn cael eu gohirio neu eu canslo lle bo' modd, gyda llai o weithgarwch corfforol a mwy o egwyliau dŵr yn cael eu trefnu.

    Mae'r cyngor hefyd wedi gofyn i ysgolion ystyried lleihau'r amser y mae disgyblion yn ei dreulio yn yr haul a darparu prydau ysgafnach yn ystod y cyfnod poeth.

    Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dweud y dylai ysgolion roi "ystyriaeth ddifrifol" i addasu, gohirio neu ganslo digwyddiadau os nad oes modd lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwres.

    Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg mai penderfyniad pob ysgol unigol fydd trefnu unrhyw newidiadau i weithgareddau neu oriau agor.

    Fydd yna ddim digwyddiadau o'r math yma mewn ysgolion yr wythnos honFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fydd yna ddim digwyddiadau o'r math yma mewn ysgolion heddiw ac yfory

  4. Pawb wedi gorfod addasu gan gynnwys cyngerdd The Curewedi ei gyhoeddi 08:50 GMT+1

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae'n ymddangos yn dawelach yma y tu allan i orsaf Canol Caerdydd y bore 'ma - pobl i weld yn gwrando ar y cyngor sydd wedi dod gan gwmnïau trên - Trafnidiaeth Cymru a chwmni Great Western hefyd - sef teithio ond os oes rhaid dros y dyddiau nesaf.

    Ma gwres eithafol yn gallu effeithio ar y cledrau a'r llinellau pŵer, gan olygu y gall gwasanaethau gael eu canslo neu wynebu oedi - a bydd 'na gyfyngiadau cyflymder hefyd sy'n golygu y gallai siwrne pobl gymryd yn hirach.

    Os yw pobl wedi prynu tocynnau'n barod ar gyfer teithio heddiw neu 'fory mae modd eu defnyddio nhw ddydd Gwener, neu ofyn am eich arian yn ôl.

    Mae digwyddiadau hefyd yn gorfod addasu. Yn ardal y Gored Ddu - neu Blackweir - mae The Cure yn perfformio heno o flaen torf o rai degau filoedd.

    Mae'r trefnwyr wedi bod yn cyflwyno mesurau ychwanegol i gadw pawb yn ddiogel - mwy o ardaloedd dan gysgod, mwy o orsafoedd dŵr a sicrhau bod hawl gan bobl ddod â mwy nag un potel ddŵr gyda nhw er enghraifft.

    Blackweir
  5. Cannoedd o ysgolion ar gau mewn o leiaf 13 sirwedi ei gyhoeddi 08:42 GMT+1

    Mae dros 500 o ysgolion wedi cyhoeddi na fyddan nhw ar agor neu eu bod ar gau yn rhannol ddydd Mercher a ddydd Iau.

    Ddechrau'r wythnos roedd ysgolion wedi cael eu hannog i asesu'r risgiau i ddisgyblion ac ystyried gohirio neu addasu gweithgareddau awyr agored.

    Mae ysgolion mewn o leiaf 13 sir wedi dweud eu bod ar gau oherwydd y tywydd eithafol.

    Mae'r rheiny'n cynnwys ysgolion yn Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

    Mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion yn bwriadu ailagor ddydd Gwener.

    Mae mwy o wybodaeth ar wefannau'r awdurdodau lleol.

    NefynFfynhonnell y llun, SusySunshine/Weather Watchers
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa yn Nefyn yr wythnos hon

  6. Croeso atom ar ddiwrnod hanesyddol o gynneswedi ei gyhoeddi 08:37 GMT+1

    Mae Cymru yn paratoi ar gyfer y rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol.

    Mae ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru wedi newid trefniadau.

    Dilynwch y diweddaraf yn fyw - croeso aton ni.

    LlangollenFfynhonnell y llun, Weather Watchers/Bramble Bear
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwartheg yn Llangollen yn falch bod dŵr gerllaw