Dyn wedi'i ganfod yn ddiymateb yn y môr yng Ngwynedd - cwest

- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi'i agor a'i ohirio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn a gafodd ei ganfod yn ddiymateb yn y môr ar draeth y Bermo yng Ngwynedd.
Lansiodd yr heddlu ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Ruhul Amin Nana, athro o Birmingham, ar 25 Mai.
Cafodd ei gludo i'r lan ac yna i orsaf bad achub, lle cafodd ei gadarnhau'n farw gan barafeddyg ychydig cyn 17:00 ar y dydd Llun gŵyl y banc.
Roedd Mr Nana yn 34 oed ac wedi'i eni yn India, ac fe gafodd ei gorff ei adnabod yn ffurfiol gan aelod o'i deulu.
Cafodd dyn 24 oed o ardal Birmingham ei arestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth, ond mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd y Crwner Kate Robertson, yn dilyn archwiliad post mortem, fod angen ymchwilio ymhellach i ganfod achos ei farwolaeth.
Ond dywedodd wrth y gwrandawiad yng Nghaernarfon fod achos rhesymol i amau ei fod yn annaturiol.
Mae'r cwest wedi cael ei ohirio tra bod Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliadau pellach.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion, neu unrhyw un sydd â lluniau neu fideos ac oedd ar y traeth y diwrnod hwnnw, i gysylltu â nhw.