'Teimlad swreal' ennill Britain's Got Talent

Mae Aled Wyn Davies o Lanbrynmair yn ffermio ac yn aelod o gôr Hawkstone
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o gôr buddugol rhaglen Britain's Got Talent wedi disgrifio'r profiad o ennill y gystadleuaeth yn "deimlad swreal."
Mae Aled Wyn Davies, sy'n ffermwr o Lanbrynmair, yn un o bedwar Cymro sy'n aelod o Gôr Ffermwyr Hawskstone, gafodd ei sefydlu'n wreiddiol gan Jeremy Clarkson.
Llwyddodd y côr i ennill ffeinal rhaglen Britain's Got Talent nos Sadwrn drwy ganu cân wreiddiol 'This is Home'.
Dywedodd Aled ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru: "Fe ddechreuodd y côr tua blwyddyn yn ôl jest yn gwneud y jingles 'ma i'r hysbyseb cwrw, a nawr wedi ennill Britain's Got Talent, dwi jest methu coelio'r peth."

Côr Hawkstone ar lwyfan Britain's Got Talent
Wrth sôn am y gân fuddugol roedd Aled yn cyfaddef fod y côr wedi cymryd risg yn ei pherfformio hi yn y ffeinal.
"Be' sydd mor braf yw ei bod hi'n gân unigryw newydd sbon ac roedd hi'n dipyn o risg mynd am gân fel 'na yn y ffeinal.
"Mae'r gân yn sôn am amaethyddiaeth a sut mae hi'n bwysig fod amaeth yn cadw ymlaen a'n bod ni'n hau'r hadau at y dyfodol.
"Pan glywon ni hi yn gyntaf nes i feddwl, waw, mae'r gân yma'n mynd i gydio a pan oedden ni'n ymarfer, roedd y bois oedd yn gweithio ar y camerâu yn y stiwdio yn canu'r gân hyd yn oed hanner awr wedyn.
"Nathon ni feddwl, wel os ydi hi'n cydio fel 'na, yna mae hi'n siŵr o gydio gyda'r boblogaeth oedd yn pleidleisio," meddai.
Mae taith y côr i gyrraedd Britain's Got Talent yn un rhyfeddol.
Jeremy Clarkson, sy'n enwog am ei gyfres 'Clarkson's Farm' sefydlodd y côr dros flwyddyn yn ôl.
Mae'r aelodau i gyd yn gysylltiedig â'r byd amaeth ac yn dod o bob cwr o Brydain.
Syniad gwreiddiol y côr oedd i godi ymwybyddiaeth ac i gefnogi ymgyrchoedd iechyd meddwl ymysg ffermwyr.
Mae Aled yn denor adnabyddus sydd wedi arfer ennill ar lwyfan - a hithau'n garreg filltir iddo eleni ers ennill un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae hi'n 20 mlynedd eleni ers i mi ennill y Rhuban Glas ac mae hwnnw wrth gwrs wedi bod yn uchafbwynt ar fy ngyrfa i, ond mae'n rhaid i mi ddeud fod hwn yn rhywbeth anhygoel eto."

Beth nesaf felly i'r côr?
"Dwi ddim yn gwybod lle mae hwn am fynd a ni i ddeud y gwir, da ni wedi ennill hwn rŵan, does gennym ni ond tair cân a 'da ni ond wedi cwrdd rhyw bymtheg o ddiwrnodiau i gyd ers y dechrau a rŵan mae pobl yn sôn am neud rhyw gyngherddau mawr ar draws y wlad, mae gennym ni waith ymarfer," meddai.
O ran y ffermio roedd Aled yn ddiolchgar i'w dad am warchod y fferm tra oedd yn perfformio ar lwyfan Britain's Got Talent.
"Dwi'n ddiolchgar i Dad am edrych ar ôl y fferm, roedd o'n rhyw hanner gobeithio y base ni wedi mynd allan yn y semi final fel mod i adre wythnos diwethaf, yn enwedig am ei bod hi'n braf, roedd o'n jocian 'edrycha ar y tywydd braf ma a tithau i ffwrdd yn Llundain.' Mae'n rhaid i ni fwynhau'r foment a mynd efo fo.
"Mae na rhyw sôn am fynd i'r stiwdio i recordio'r gân a dod a hi allan gan obeithio codi dipyn o arian eto i elusennau sydd yn ymwneud â amaeth."
Yn ogystal a recordio'r gân a'r enwogrwydd sy'n dod yn sgîl ennill, mae Aled hefyd yn edrych ymlaen at un peth arall, rhywbeth y mae wastad wedi eisiau ei wneud.
Fel rhan o'r wobr am ennill, mae'r côr yn derbyn £250,000 a chael cyfle i ganu yn y Royal Variety Show ym mis Tachwedd.
"Dwi'n edrych ymlaen i gael mynd i ganu yn Neuadd Albert, mae o'n rhywbeth o'n i eisiau ei wneud. Mae ffrindiau i mi yn côr Machynlleth wedi bod ond roedd gen i gyngerdd arall yr un noson, felly ffaeles i ei wneud o, felly dwi'n edrych ymlaen at gael mynd i ganu fan hynny," meddai.
'Codi ymwybyddiaeth iechyd meddwl'
Mae'r côr yn hyrwyddo pwysigrwydd siarad allan a pheidio dioddef yn dawel pan mae hi'n dod i iechyd meddwl yn y byd amaethyddol ac mae Aled yn gobeithio bydd y llwyddiant diweddar yn codi ymwybyddiaeth ac yn cario'r neges i gynulleidfa ehangach.
"Mae pob un ohonom ni yn y côr wedi dod yn ffrindiau agos iawn, rydym ni fel brodyr a chwiorydd erbyn hyn, mae pob un ohonom ni wedi colli rhywun 'da ni'n nabod oherwydd iechyd meddwl ac mae'n beth trist fod hyn yn dal i ddigwydd.
"Mae 'na lot o bobl yn dioddef yn dawel ac mae'n bwysig eu bod nhw'n dod allan. Falle fod rhywbeth fel canu gyda chôr yn rhywbeth dylai pobl neud i daclo unigrwydd. Mae 'na lot o ffermwyr allan ar y tir am oriau yn meddwl am y problemau sy'n gallu bod mewn amaeth. Mae'n rhywbeth da ni'n drio ei bwsho fwy a cheisio helpu pobl yn y dyfodol," meddai.
O ran Jeremy Clarkson a sefydlodd y côr, roedd yn ei ddagrau yn ystod y perfformiad.
Dywedodd Aled: "Fe drodd Jeremy i fyny yn ei Jaguar mawr ryw ddeng munud cyn y rhaglen ac roedd o yn ei ddagrau yn ein gwylio ni, dwi ddim yn meddwl ei fod o'n sylwi cystal cantorion sydd yn y côr pan ddechreuodd pob peth, lwcus fe wnaethon ni gadw efo'n gilydd ers y diwrnod cyntaf, mae'n anhygoel," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd12 Ebrill

- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021
