Cyhuddo'r bocsiwr Joe Cordina o ymosod a bygwth gydag arf

Joe CordinaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Cordina yn gyn-bencampwr uwch-bwysau plu y byd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r bocsiwr Joe Cordina wedi cael ei gyhuddo o ymosod a bygwth person arall gydag arf mewn man cyhoeddus yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd.

Mae'r Cymro 34 oed yn gyn-bencampwr uwch-bwysau plu y byd, ac roedd i fod i focsio am dlws WBO pwysau ysgafn y byd yn yr Unol Daleithiau ar 4 Gorffennaf.

Dywedodd Cordina ddydd Mercher bod ei gais am fisa i fynd i Cleveland ar gyfer yr ornest yn erbyn Abdullah Mason wedi cael ei wrthod gan lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain.

Daeth i'r amlwg ddydd Iau ei fod ef a dyn arall - Jamie O'Brien - wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad y tu allan i orsaf betrol ar Heol Pentwyn yng Nghaerdydd ar 27 Chwefror.

Mae'r ddau yn wynebu cyhuddiad o ymosod, ac mae Cordina hefyd wedi'i gyhuddo o fygwth person gydag arf mewn man cyhoeddus.

Bydd Cordina yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 7 Gorffennaf, tra bod disgwyl i Jamie O'Brien ymddangos yn yr un llys ar 28 Gorffennaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol