Rhaid ailwampio'r system gynllunio i adeiladu cartrefi Cymru - adeiladwyr

TaiFfynhonnell y llun, Getty Images
GanDaniel Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae angen "ailwampio'r" system gynllunio i adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen ar Gymru, meddai adeiladwyr tai.

Mae landlordiaid cymdeithasol a chwmnïau'r sector preifat yn dweud eu bod hi'n cymryd yn rhy hir i gael caniatâd i adeiladu cartrefi.

Mae cymdeithasau tai, sy'n darparu cartrefi fforddiadwy, hefyd yn galw am gyllid ychwanegol i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn 2030.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i gyflawni'r targed a'u bod yn cefnogi'r ymdrech gydag "£20 miliwn ychwanegol yn y gyllideb atodol ddrafft".

Roedd y targed o 20,000 yn ymrwymiad maniffesto gan Blaid Cymru yn etholiad y Senedd.

Dyma'r un targed â llywodraeth flaenorol Llafur yn y Senedd ddiwethaf, ond mae Plaid yn addo ei gyrraedd mewn pedair blynedd yn lle pump.

Mae cartrefi cymdeithasol yn cael eu darparu gan gynghorau a chymdeithasau tai.

Mae lefel y rhent ac ansawdd y tai yn cael eu rheoli gan y llywodraeth, sydd hefyd yn ariannu adeiladau newydd.

Cafodd mwy na £2bn o arian Llywodraeth Cymru ei wario ar dai cymdeithasol yn y Senedd ddiwethaf, gyda chynnydd mewn prisiau a safonau adeiladu yn gwthio costau i fyny.

Fe gododd y grant gan y llywodraeth ar gyfer un cartref 75%, o £93,000 i £163,000, mewn pedair blynedd, meddai'r corff gwario Archwilio Cymru.

Clarissa Corbisiero
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Clarissa Corbisiero mae angen "cynllun hirdymor"

Dywedodd Clarissa Corbisiero, o Cartrefi Cymunedol Cymru: "Mae angen cynllun hirdymor arnom i ddod â'r argyfwng tai i ben.

"Hoffem weld y llywodraeth yn edrych ar yr arian y mae'n ei roi tuag at dai yn y gyllideb yn ddiweddarach eleni."

Bydd tenantiaid yn fuan yn symud i 51 o fflatiau newydd yng nghanol Tonypandy, Rhondda, a adeiladwyd gan gymdeithas dai Beacon Cymru.

Prynodd yr asiantaeth safle'r Big Shed saith mlynedd yn ôl, ond dywedodd y prif weithredwr Luke Takeuchi fod y system gynllunio wedi achosi oedi.

Dywedodd bod "angen system arnom sy'n fwy cydlynol, yn fwy effeithlon ac sy'n cael y ceisiadau fel y Big Shed drwodd yn gyflymach".

'Mae tir ar gael i gyrraedd y targed'

Mae'r llywodraeth yn amcangyfrif bod angen 9,400 o gartrefi ychwanegol ar gyfer pobl heb le parhaol i fyw.

Mae hefyd yn dweud y bydd angen 8,700 o gartrefi ychwanegol o bob math – tai preifat a chymdeithasol – ar gyfartaledd bob blwyddyn hyd at 2030.

Ond mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 5,159 a gwblhawyd y llynedd.

Er bod hynny 11% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, mae'r diwydiant yn dweud nad yw wedi gwella i lefelau cyn y pandemig.

Dywedodd yr adeiladwr o Bontypridd, Matthew Davies, llefarydd ar ran yr Home Builders Federation: "Y rheswm yn gyffredinol pam fod bwlch mawr yw oherwydd y system gynllunio.

"Mae tir ar gael i gyrraedd y targed, ond mae angen ailwampio'r system gynllunio'n llwyr yn y pen draw."

Addawodd maniffesto Plaid lai o reoliadau i adeiladu a phrynu tai cymdeithasol.

Bydd asiantaeth genedlaethol, o'r enw Unnos, yn cael ei chreu er mwyn cynorthwyo cynghorau a chymdeithasau tai gyda cheisiadau cynllunio, gan ddod o hyd i dir a helpu i gael cyllid ar gyfer prosiectau.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ychwanegol erbyn 2030.

"Wedi'i gefnogi gan £20 miliwn ychwanegol yn y gyllideb atodol ddrafft, bydd yr ymrwymiad hwn yn helpu i fynd i'r afael â digartrefedd, lleihau dibyniaeth ar lety dros dro, a sicrhau bod gan bobl ledled Cymru fynediad at gartrefi o ansawdd sy'n effeithlon o ran ynni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig