Beth ddysgon ni am y cyfryngau cymdeithasol drwy greu pleidleiswyr ffug?

Lluniau o'r chwe pleidleisiwr ffug wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg AI
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y BBC greu chwe pherson ffug er mwyn cadw golwg ar eu byd nhw ar-lein - mae'r lluniau wedi eu creu gyda thechnoleg AI

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl colli ei sedd yn yr etholiad gwaethaf erioed i Lafur yn Senedd Cymru, fe gyfeiriodd Eluned Morgan at y cyfryngau cymdeithasol yn ei haraith olaf yn ei swydd.

Dywedodd y cyn-brif weinidog bod y cyfryngau cymdeithasol wedi "newid" gwleidyddiaeth, a bellach "yn gosod y naratif gwleidyddol".

Ychwanegodd bod y neges gafodd ei rhannu yn ystod yr ymgyrch "os ydych chi am stopio Reform, yna pleidleisiwch dros Blaid Cymru" wedi cael effaith ar y ffordd y gwnaeth pobl bleidleisio.

Er ei bod hi wedi dweud bod sawl rheswm pam fod ei phlaid wedi colli'r etholiad, fe wnaeth Eluned Morgan gyfeirio at ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol.

Felly pa rôl oedd gan y cyfryngau cymdeithasol yn yr etholiad, a faint o ddylanwad gafodd y neges honno gan Blaid Cymru?

Llun o ffôn symudol Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y BBC gadw golwg ar beth welodd pob person dychmygol ar YouTube, Facebook, TikTok, Snapchat, Instagram ac X

Mae BBC Cymru wedi bod yn edrych ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr ymgyrch, a hynny drwy lygaid dychmygol chwe phleidleisiwr cudd.

Un o ohebwyr y BBC, Marianna Spring, wnaeth greu'r term "pleidleisiwr cudd" ar gyfer podlediad Americast ac ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2024.

Enwau'r pleidleiswyr cudd oedd Lauren, Paul, Claire, Rohan, Siân a David, ac fe wnaethon ni greu proffil ar gyfer pob un ohonyn nhw ar sail data gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol.

Roedd pob un ohonyn nhw yn cynrychioli grŵp gwahanol o bleidleiswyr, gyda gwerthoedd a barn wleidyddol wahanol, ac roedd pob un yn byw mewn gwahanol rannau o Gymru.

Drwy ddefnyddio chwe ffôn symudol, fe wnaeth y BBC gadw golwg ar beth welodd pob person dychmygol ar YouTube, Facebook, TikTok, Snapchat, Instagram ac X.

Doedd dim modd cynrychioli pob person yng Nghymru oedd yn pleidleisio yn yr etholiad. Y bwriad oedd rhoi awgrym i ni o'r math o gynnwys mae pobl yn ei weld, yn hytrach na dod i gasgliad pendant.

Gwario miloedd ar hysbysebion

Felly beth yn union wnaeth ymddangos ar gyfrifon y pleidleiswyr ffug yn ystod yr ymgyrch?

Fe wnaeth negeseuon gan Blaid Cymru yn disgrifio'r ymgyrch fel ras dau geffyl, neu'n dweud mai nhw oedd yr unig blaid allai atal Reform, ymddangos ar gyfrifon pedwar o'r chwe pleidleisiwr ffug.

Er y gallai pleidiau eraill fod wedi atal Reform, mae'n debygol iawn bod y neges honno gan Blaid Cymru wedi dylanwadu ar bobl.

Fe wnaeth hysbysebion a gafodd eu rhannu gan y pleidiau gyrraedd cyfrifon pump o'r chwe phleidleisiwr ffug.

Hanner ffordd drwy'r ymgyrch, Llafur oedd wedi gwario'r mwyaf o arian ar hysbysebion ar Facebook ac Instagram, gyda Phlaid Cymru yn ail.

Yn ystod 30 diwrnod ola'r ymgyrch, fe gynyddodd gwariant pob plaid.

Dyma faint y gwnaeth y pleidiau ei wario ar hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol rhwng 8 Ebrill a 7 Mai:

  • Llafur: £92,076

  • Reform: £77,594

  • Plaid Cymru: £53,699

  • Y Blaid Werdd: £46,471

  • Y Ceidwadwyr: £45,647

  • Y Democratiaid Rhyddfrydol: £7,406

Roedd nifer o hysbysebion Plaid Cymru yn ymwneud â'u polisïau a'u hymgeiswyr, ond yna, roedden nhw'n canolbwyntio'n bennaf ar annog pobl i "atal Reform" - yn enwedig ar ddiwrnod yr etholiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod y blaid yn "falch o'u buddsoddiad strategol yn ein hymgyrch ddigidol" a bod hynny wedi denu sylw pleidleiswyr iau a nifer y bobl wnaeth fwrw eu pleidlais.

Ond fe wariodd Llafur arian ar eu hymgyrch ddigidol hefyd, oedd yn cynnwys Eluned Morgan a negeseuon yn dweud bod Llafur a Reform yn brwydro am y sedd olaf mewn rhai etholaethau.

Fe ddywedodd y Gwyrddion a'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd mai nhw fyddai'r dewis gorau mewn rhai etholaethau i guro Reform.

Er nad oedd Reform wedi gwario rhyw lawer erbyn diwedd Ebrill, fe wnaeth eu gwariant nhw gynyddu'n sylweddol yn yr wythnosau olaf, gan rannu negeseuon oedd yn annog pobl "i gael gwared â Starmer" a chyfeirio at faterion Cymreig fel y cyfyngiad cyflymder 20mya.

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Eluned Morgan ei sedd yn yr etholiad, gan ddweud bod y cyfryngau cymdeithasol wedi newid gwleidyddiaeth yng Nghymru

Fe wnaeth negeseuon gan y pleidiau hefyd gyrraedd cyfrifon Facebook y pleidleiswyr ffug drwy grwpiau cymunedol lleol - er bod rhai o'r rheiny yn gwahardd trafodaethau gwleidyddol ac eraill yn troi'n ddadleuon gwleidyddol rhwng cefnogwyr pleidiau gwahanol.

Fe ddaeth hi i'r amlwg hefyd bod llawer o gynnwys gwleidyddol yn dod o gyfrifon dienw - heb enw na wyneb go iawn.

Roedd rhai enghreifftiau ar Facebook ac X o gyfrifon yn rhannu newyddion ffug a honiadau camarweiniol.

Mae'n anodd gwybod faint o ddylanwad gafodd hynny ar bleidleiswyr.

Yr hyn sy'n glir ydy bod y chwe phleidleisiwr ffug wedi cael profiadau gwahanol iawn o'r cyfryngau cymdeithasol yn y cyfnod cyn yr etholiad.

Fe wnaeth rhai weld llawer o gynnwys am ymgeiswyr, pleidiau a pholisïau, tra bod eraill wedi cael gwybod am hynny os oedd unrhyw ddatblygiadau mawr neu arolygon barn oedd yn cyrraedd y prif benawdau.

Mae pobl yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffyrdd gwahanol ac am resymau gwahanol, ac mae'n amlwg bod y platfformau hynny'n gallu cyfrannu at y ffordd mae pobl yn ymwneud gyda gwleidyddiaeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.