Dedfryd o garchar wedi'i ohirio i gyn-gynhyrchydd BBC oedd â delweddau anweddus o blant

Dylan Dawes
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Dawes yn cyrraedd y llys ar ddyddiad blaenorol cyn iddo wynebu ei ddedfryd

GanSara Dafydd
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori isod beri pryder.

Mae cyn-gynhyrchydd BBC a oedd wedi cael ei ganfod yn euog o feddu ar, neu greu lluniau anweddus o blant wedi cael dedfryd o 18 mis o garchar wedi ei ohirio.

Cafodd dros 6,200 o ddelweddau anweddus o blant eu darganfod ar bedair dyfais yng nghartref Dylan Dawes, sy'n 50 oed ac o Gaerdydd, yn 2022.

Roedd y delweddau anweddus yn cynnwys bron i 200 o luniau Categori A sef y categori mwyaf difrifol.

Wrth ei ddedfrydu i 18 mis yn y carchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd yn Llys y Goron Casnewydd dywedodd y barnwr y dylai Dawes "ystyried bod plant go iawn wedi dioddef" o ganlyniad i'r deunydd.

Clywodd y llys fod Dawes wedi cael "gyrfa llwydiannus" fel cynhyrchydd radio yn BBC Cymru.

Dylan Dawes
Disgrifiad o’r llun,

Dawes yn cyrraedd Llys y Goron Casnewydd fore Iau

Dechreuodd Dawes weithio yn y BBC yn 2001 gan ddechrau fel ymchwilydd, ac yna fel cynhyrchydd radio, podlediadau a gweithio ar y wefan.

Yn 2022 cafodd ei arestio ar amheuaeth o greu neu feddu ar luniau anweddus o blant.

Fis diwethaf cafodd Dawes ei ganfod yn euog o dri chyhuddiad o fod â delweddau anweddus o blentyn yn ei feddiant yn 2022, a thri chyhuddiad arall o greu delweddau anweddus o blant rhwng 2006 a 2022.

Fore Iau yn Llys y Goron Casnewydd fe siaradodd Dawes o'r doc i gadarnhau ei enw.

Ar ran yr erlyniad dywedodd Harry Baker fod y lluniau "wedi eu casglu dros gyfnod hir o amser" a'u bod yn cynnwys lluniau yng nghategori A, y categori mwyaf difrifol.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y Barnwr Eugene Egan y dylai Mr Dawes "ystyried" bod "plant go iawn rhywle yn y byd" wedi dioddef o ganlyniad i'r deunydd yr oedd ef yn ei wylio.

Roedd y deunydd yn cynnwys plant ifanc yn cael eu treisio.

"Bydd cymdeithas yn teimlo atgasedd llwyr atat wedi i ti edrych ar y fath ddeunydd," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi "rhoi'r bai ar bawb a phopeth" gan gynnwys cyn gydweithwyr yn hen swyddfeydd BBC Cymru yn Llandaf.

Dywedodd Dawes yn ystod yr achos fod cydweithwyr yn defnyddio offer ei gilydd, gan gynnwys ei offer personol.

"Y gwirionedd yw nad oedd y cannoedd o bobl yno ar fai, ti oedd ar fai," meddai'r barnwr.

Cafodd deunydd anweddus eu canfod ar bedair dyfais o eiddo Dawes, gan gynnwys gyriant caled, gliniadur a dau iPad.

Clywodd y llys ei fod wedi chwilio am y term 'Jailbait' ar-lein sy'n "arwydd clir o beth oeddet yn gobeithio ei ganfod", dywedodd y barnwr.

Ychwanegodd nad oedd yn teimlo fel bod Dawes wedi dangos "unrhyw edifeirwch, sydd yn drueni".

Yn ôl yr amddiffyniad Andrew Taylor mae'r diffynnydd wedi bod yn gweithio gyda'r Lucy Faithful Foundation, elusen sy'n gwarchod plant rhag troseddau rhywiol.

Disgrifiodd Mr Dawes fel "gŵr 50 oed sydd wedi colli popeth" a'i fod yn "amhosib" iddo ganfod gwaith "yn y maes mae ganddo gymaint o brofiad ynddo" cyn nodi ei fod ar gredyd cynhwysol.

Cafodd ei ddedfrydu i 18 mis yn y carchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd ac mi fydd hefyd ar y rhestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig