Busnes golff y bachgen naw oed o Fôn

Hari
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ag yntau ond yn naw oed, mae diddordeb Hari o Ynys Môn mewn chwarae golff wedi troi yn fusnes.

Mae Hari, gyda chefnogaeth ei rieni, wedi datblygu cwrs golff mini sy'n cael ei ddefnyddio mewn gwyliau a phriodasau yn yr ardal.

O fod yn hitio pêl yn yr ardd mae Hari bellach yn mynd â'i gwrs o un lle i'r llall ac yn gwneud arian o'i syniad, digon iddo fod wedi gallu prynu beic cwad iddo'i hun.

Aled Hughes aeth draw aeth draw i weld Hari am gêm o golff ac i ddeall mwy am yr entrepreneur naw oed.

"'Nes i gael parti golff yn bump oed a 'nath Mam rhoi syniad i Dad i adeiladu cwrs golff. Roedd o yn y parti ac o'n i'n meddwl be' i neud efo fo.

"'Naethon ni feddwl am wneud cwrs golff symudol i fyd a fo i lefydd," meddai.

Mae'r cwrs naw twll i gyd yn ffitio ar gefn trelar Martin, tad Hari, cyn cael ei gludo i wahanol ddigwyddiadau.

Mae'r gwaith wedyn o ddadlwytho ac adeiladu'r cwrs, ac mae Hari wrth ei fodd yn gwneud hynny.

Aled Hughes ar BBC Radio Cymru

Hari yn sgwrsio gydag Aled am ei fusnes golff

Hari yn chwarae Golff

"Mewn chwe wythnos nes i wneud digon o bres i gael quadbike fy hun," meddai Hari.

Mae'r cwrs yn cynnwys sawl her i'r chwaraewyr ac mae modelau gwahanol ar ambell un, fel goleudai, cychod, pontydd ac adeiladau bychain eraill.

Yn ôl Hari: "Twll wyth ydi'r anoddaf o'r cwrs - ti'n gorfod trïo cael y bêl drwy'r ddau ddarn o bren a chael o fewn i'r twll mewn un."

Yn ogystal â chynllunio'r cwrs gyda'i dad, mae'r busnes hefyd wedi bod yn un addysgiadol iawn i Hari.

Dywedodd Lisa ei fam: "Mae Hari wedi dysgu nifer o sgiliau gwerthfawr ers gosod ei fusnes bach golff i fyny, mae ei sgiliau cyfathrebu, a mathemateg wedi dod yn eu blaen.

"Mae o'n dysgu sut i ddelio gyda phobl a phres, ac yn gwybod faint o newid i roi i'w gwsmeriaid.

"Mae o'n creu fideos bach a chynnwys ar y gwefannau cymdeithasol i hyrwyddo ei fusnes a'i gynnyrch, ac felly yn dysgu sgiliau newydd yn hynny o beth hefyd.

"Oll wrth dal i gael mwynhau gêm fach o golff ei hun! Mae o wedi bod yn llwyddiant mawr hyd yma, a Hari wrth ei fodd."

Pwy a ŵyr yn y dyfodol os gwelwn Hari yn cystadlu fel golffiwr yng nghystadleuaeth y Meistri? Neu os ddim, tybed os bydd yn feistr yn y byd busnes.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig