Pob dydd 'yn frwydr' i deuluoedd plant sydd â chyflwr sy'n byrhau bywyd

Llun AlawFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Alaw, 5, sawl cyflwr meddygol gan gynnwys parlys yr ymennydd

GanSion Tootill
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae teuluoedd plant sydd â chyflyrau sy'n byrhau bywyd yn cael eu "gwthio i'r eithaf" gan systemau iechyd a gofal cymdeithasol di-drefn sy'n eu gadael heb y cymorth sydd angen, yn ôl adroddiad newydd.

Dydy gweithwyr gofal iechyd ddim yn teimlo'n hyderus yn siarad â theuluoedd am ofal hosbis ac mae angen mwy o gefnogaeth arnyn nhw gyda'r "sgyrsiau anodd", yn ôl un o awduron yr adroddiad.

Yn ôl un teulu o Ynys Môn roedd bywyd yn "ofnadwy o anodd" am dair blynedd ar ôl genedigaeth eu merch sydd ag anghenion meddygol.

Roedd diffyg cymorth wedi gadael Ffion Evans a'i gŵr Barry yn teimlo fel eu bod nhw "ar eu pen eu hunain" wrth ofalu am Alaw, ac roedd pob diwrnod yn teimlo fel "brwydr i oroesi".

Ond wrth i Alaw droi'n dair oed cafodd y teulu'r cyfle i ymweld â hosbis Tŷ Gobaith, oedd wedi "newid popeth" yn ôl Ffion.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n "ymrwymo i weithio gyda byrddau iechyd, darparwyr gofal a rhanddeiliaid perthnasol eraill i ddatblygu model ariannu cynaliadwy a hir-dymor ac i sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt".

Disgrifiad,

"Teimlo ar ein pen ein hunain" yn gofalu am blentyn ag anghenion dwys

Cafodd Alaw, plentyn cyntaf Ffion a Barry, ei geni yn 2021.

Er bod beichiogrwydd Ffion yn un arferol, fe gafodd Alaw niwed i'w hymennydd yn ystod ei genedigaeth, gan arwain at nifer o gyflyrau yn cynnwys parlys yr ymennydd.

"Mi 'nath bywyd newid mewn mater o oriau. Roeddan ni'n edrych ymlaen i gyfnod hapus, ond yn reit sydyn roeddan ni'n teimlo'n gwbl ar goll," meddai Ffion.

Roedd anghenion Alaw yn golygu bod y teulu yn treulio sawl diwrnod yr wythnos mewn apwyntiadau meddygol, ond ni wnaeth hynny arwain at dderbyn y fath o gefnogaeth oedd ei angen.

"Roedd gofalu am Alaw, am blentyn efo anghenion meddygol, oedda' ni yn teimlo ar ein pen ein hunain," meddai Ffion.

"Roedd y gŵr yn gorfod mynd allan i weithio achos roedd costau byw o hyd, ac o'n i fyny trwy'r nos yn edrych ar ôl Alaw oherwydd doedd hi ddim yn cysgu oherwydd roedd hi mewn poen trwy'r amser. Byddwn ni byth yn gweld ein gilydd.

"Oeddan ni'n gofyn am help, yn mynd at bobl perthansol, ond doedd na byth dim byd yn digwydd.

"Roedd o'n gyfnod eithriadol o anodd."

Llun Ffion ac Alaw
Disgrifiad o’r llun,

Mae edrych ar ôl Alaw yn "swydd 24 awr" yn ôl Ffion, oedd wedi gorfod rhoi'r gorau i'w swydd yn gyfan gwbl cyn derbyn cymorth

Ar ôl tair blynedd o frwydro am gymorth cafodd y teulu eu cyfeirio at Dŷ Gobaith, un o ddwy hosbis i blant yng Nghymru.

Wedi'i lleoli yng Nghonwy, mae gan Dŷ Gobaith bedair ystafell wely ar gyfer plant a tair ystafell deulu, sy'n galluogi rhieni i aros dros nos gyda'u plant.

Mae'r safle hefyd yn cynnig ystafelloedd chwarae, therapi ac amlsynnwyr.

"Tŷ Gobaith yw'r peth gorau sydd erioed wedi digwydd i ni fel teulu," meddai Ffion.

"Maen nhw yn gofalu am yr elfen feddygol o Alaw ac maen nhw hefyd yn sicrhau bod hi'n cael profiadau anhygoel.

"Maen nhw'n cynnal digwyddiadau i'r teulu sy'n fendigedig i dd'eud y gwir oherwydd mae trefnu diwrnod allan i'r teulu yn gallu bod yn ofnadwy o anodd.

"Dwi just yn difaru ein bod ni wedi gorfod aros mor hir am yr help."

Llun Alaw yn nofio yn Nhŷ GobaithFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alaw yn gallu mwynhau gweithgareddau arbennig yn Nhŷ Gobaith sydd ddim ar gael iddi fel arall

Nid yw profiad Ffion a Barry yn unigryw, ac mae adroddiad newydd gan Dŷ Gobaith a Thŷ Hafan ym Mro Morgannwg yn amlinellu'r heriau sy'n wynebu teuluoedd plant sydd â chyflyrau sy'n byrhau bywyd.

Mae'r ddwy hosbis yn dweud bod angen newid ar frys, ar draws y system iechyd a gofal, er mwy galluogi teuluoedd i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn gynt, yn haws, a chyn iddyn nhw gyrraedd y dibyn.

Mae Tracy Jones, cyfarwyddwr llesiant teuluol a gwasanaethau allgymorth yn Nhŷ Hafan, yn un o awduron yr adroddiad.

Mae hi'n dweud ei bod hi'n gallu deall pam nad yw rhai gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal eisiau awgrymu gofal hosbis i deuluoedd.

"Nid sgyrsiau bob dydd yw'r rhain... Mae cael y sgwrs honno, i ddweud wrth deulu: 'mae'n bosib na fydd eich plentyn yn byw i fod yn oedolyn, ydych chi wedi meddwl am ddefnyddio gwasanaeth hosbis?' yn sgwrs anodd iawn i'w chael.

"Dyna un o'r pethau sy'n dod allan yn gryf iawn, beth allwn ni fod yn ei wneud fel sector i helpu'r gweithwyr proffesiynol sydd mewn cysylltiad dyddiol â'r teuluoedd hyn i deimlo'n fwy hyderus ynglŷn â chael y sgyrsiau hynny?"

Mae hi'n gobeithio y bydd cyhoeddi'r adroddiad yn arwain at bartneriaeth fwy ffurfiol rhwng gweithwyr iechyd a gofal a'r hosbisau.

Dywedodd y dylid annog y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd yn weithredol i ymweld â'r hosbisau i ddeall yr hyn maen nhw'n gallu cynnig.

Llun y teulu cyfanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu Evans yn mwynhau'r cyfle i dreulio diwrnod gyda'i gilydd mewn un o ddigwyddiadau Tŷ Gobaith

Erbyn hyn mae Alaw yn treulio sawl diwrnod ar ei phen ei hun yn Nhŷ Gobaith yn achlysurol, sy'n cynnig cyfleoedd arbennig iddi ac yn rhoi seibiant i Ffion, Barry a'u mab Caio, sy'n ddwy.

"Mae gofalu am Alaw yn swydd amser llawn ac mae'r seibiant yn caniatáu inni ymlacio, gorffwys a bod yn barod i fod yno iddi eto," meddai Ffion.

"Mae hefyd yn caniatáu inni wneud pethau gyda Caio na fydden ni'n gallu eu gwneud fel arall.

"Da ni'n edrych yn ôl ar y cyfnod cynnar o fywyd Alaw a da ni'n gofyn y cwestiwn sut wnaethon ni hynny? Sut wnaethon ni lwyddo i oroesi'r tair blynedd cynta'?

"Erbyn hyn da ni wedi dod o hyd i'r gefnogaeth yna ac mae hynny wedi newid ein bywydau ni er y gwell."

Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo'n gryf bod angen yr ymyrraeth gynnar yna mor fuan â phosib i deuluoedd fel ni."

Llun Caio ac AlawFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn mae gan Alaw gwmni ei brawd bach, Caio, ac mae'r ddau yn mwynhau digwyddiadau teulu Tŷ Gobaith gyda'i gilydd

Mewn ymateb i'r adroddiad a phrofiadau teuluoedd fel Ffion a Barry fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Gall gofal da ar ddiwedd oes wneud gwahaniaeth mawr i bobl sydd â salwch sy'n cyfyngu eu bywyd, a chefnogi pobl mewn galar.

"Fel llywodraeth newydd Cymru, rydyn ni'n ymrwymo i weithio gyda byrddau iechyd, darparwyr gofal a rhanddeiliaid perthnasol eraill i ddatblygu model ariannu cynaliadwy a hirdymor.

"Rydyn ni am sicrhau bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, gan gynnwys gofal hosbis ar gyfer plant.

"Mae'r dull newydd o gomisiynu hosbis yn mynd ati i hybu mynediad teg, cynaliadwyedd hirdymor a gofal o ansawdd uchel a thrugarog ledled Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig