Y BBC yn penodi Rhuanedd Richards yn Gyfarwyddwr y Cenhedloedd

Fe ddechreuodd Rhuanedd Richards yn y swydd dros dro cyn cael ei phenodi'n barhaol
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC wedi cyhoeddi bod Rhuanedd Richards wedi cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr y Cenhedloedd.
Roedd Ms Richards wedi bod yn gwasanaethu yn y swydd dros dro, ac mae hi bellach yn ymgymryd â'r rôl yn barhaol ar unwaith.
Bydd yn gyfrifol am weithrediadau'r BBC yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â gwasanaethau lleol y BBC yn Lloegr.
Bydd hi hefyd yn ymuno â Phwyllgor Gweithredol y BBC.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Matt Brittin, fod Ms Richards yn dod â phrofiad golygyddol sylweddol ac ymrwymiad cryf i sicrhau bod y BBC yn adlewyrchu bywydau, hunaniaethau a phrofiadau cynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd ei bod eisoes wedi goruchwylio cynnydd mewn buddsoddiad mewn cynnwys sy'n portreadu'r cenhedloedd a'r rhanbarthau, yn ogystal â thwf parhaus mewn cynulleidfaoedd ar-lein.
Dywedodd Rhuanedd Richards: "Rwy'n angerddol iawn am rôl y BBC wrth greu cynnwys gwych sy'n adlewyrchu ac yn gwasanaethu cynulleidfaoedd ar draws y cenhedloedd a'r rhanbarthau.
"Mae diwylliannau, ieithoedd a hunaniaethau'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ynghyd â'r cymunedau unigryw ledled Lloegr, yn rhan hanfodol o bwy ydym ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
"Mae ein newyddiaduraeth a'n hadrodd straeon wedi eu gwreiddio yn y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, ac rwy'n hynod falch o'r gwaith hwnnw ac o'r timau talentog sy'n ei gyflawni bob dydd."
Dros y blynyddoedd, mae Rhuanedd Richards wedi ymgymryd â nifer o swyddi golygyddol ac arweinyddiaeth uwch yn y BBC, gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod y gorfforaeth yn adlewyrchu ac yn gwasanaethu cymunedau ledled y Deyrnas Unedig.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.