Darganfod chwilen brin 'anhygoel' am y tro cyntaf ers 60 mlynedd

Chwilen Meloe brevicollisFfynhonnell y llun, Suzanne Burgess
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r chwilen wedi cael ei darganfod ar safle hyfforddi Castell Martin yn Sir Benfro

GanNia Tudur
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae rhywogaeth brin o chwilen wedi cael ei darganfod ar safle yn Sir Benfro ar ôl blynyddoedd o chwilio amdani.

Mae'r chwilen 'Meloe brevicollis' yn rhywogaeth sy'n gwbl ddibynnol ar wenyn am ei chylch bywyd.

Mae angen cynefin penodol iawn arni i oroesi - un sy'n cynnwys pridd moel i ddodwy wyau, llystyfiant trwchus i lochesu a gorchudd trwchus o flodau i atgenhedlu.

Dim ond llond llaw o safleoedd yn y DU sy'n addas ar ei chyfer, ac mae maes hyfforddi Castell Martin yn un o'r rheiny.

Chwilen Meloe brevicollisFfynhonnell y llun, Getty Images

Doedd y chwilen ddim wedi cael ei chofnodi yn y DU am bron i 60 mlynedd ar ôl 1948 oherwydd bod colli cynefinoedd wedi arwain at i'r rhywogaeth ddiflannu bron yn llwyr.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae'r prosiect i ddod o hyd iddi yn rhan o raglen ehangach ar gyfer adfer rhywogaethau - Natur am Byth.

Dywedodd Anne Hobbs o'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith chwilio, bod dod o hyd i'r rhywogaeth yma yn "gyffrous iawn", a thystiolaeth ei bod yn bridio eto yng Nghymru.

"Mae'r chwilen hon yn greadur anhygoel", meddai, "ac nid yn unig mae hi'n dibynnu ar gynefin penodol iawn i oroesi, ond ar bresenoldeb gwenyn unigol hefyd.

Mewn arolygon yn 2022 a 2025, dim ond oedolion marw o'r chwilen yma gafodd eu darganfod yng Nghastell Martin, ac roedd yna bryderon am ei dyfodol.

Ond yn 2026, ar ôl tair blynedd o chwilio, cafodd larfâu'r chwilod eu darganfod mewn rhan fechan o'r safle.

Roedd nifer a dosbarthiad y larfâu, ynghyd â'r adeg o'r flwyddyn, yn awgrymu bod arolygwyr wedi llwyddo i ddod o hyd i rai o'r larfâu wedi deor o gasgliad mwy o chwilod anaeddfed.

Fe gafodd y chwilen ei hail-ddarganfod yn Nyfnaint yn 2006, ac Ynys Coll yn Yr Alban yn 2009.

Ers hynny mae wedi poblogaethau wedi cael darganfod ar ynysoedd Tiree, Islay, Barra ac Uist.

Ar hyn o bryd, Castell Martin ydy'r unig safle yng Nghymru lle gellir dod o hyd i'r rhywogaeth, ac mae'n cael ei arolygu'n gyson gan gadwriaethwyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.