Cymraes 'wedi ei syfrdanu' ar ôl ennill cyfres The Voice UK

Mae Cate McHugh, sy'n byw gyda chyflwr Stargardt, wedi cofrestru fel person dall
- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes a ddechreuodd ei gyrfa yn canu ar strydoedd Caerdydd wedi ennill cystadleuaeth The Voice UK eleni.
Cafodd rownd derfynol y gyfres ganu boblogaidd ei darlledu ar ITV nos Sadwrn.
Cate McHugh, 31 oed o Lanilltud Fawr, ddaeth i'r brig, gyda'r gantores yn dweud ei bod "wedi ei syfrdanu" ac nad oedd hi "wedi gallu prosesu'r peth eto".
Fe fydd Cate yn derbyn gwobr ariannol o £50,000 yn ogystal â chytundeb recordio gyda chwmni Universal Music Group.

Roedd Cate McHugh yn rhan o dîm Syr Tom Jones
Ers dros ddegawd mae Cate McHugh wedi bod yn byw gyda chyflwr Stargardt sy'n effeithio ar ei golwg ac mae hi bellach yn cael ei hystyried yn ddall.
Roedd Cate yn rhan o dîm Syr Tom Jones - sydd wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y rhaglen ar ddiwedd y gyfres hon.
Fe ganodd y ddau fersiwn o Take Me Home, Country Roads gan John Denver fel deuawd yn y rownd derfynol.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Cate: "O waelod calon, rydw i eisiau diolch i chi gyd am ddilyn fy siwrne ac am ddod yn rhan o'm myd.
"Mae'r hwyl go iawn yn dechrau nawr," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.