Toriadau i ysbytai cymunedol i achosi 'niwed parhaol' - Ed Davey

Mae Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi yn un o wyth ysbyty allai golli gwelyau ar gyfer cleifion mewnol fel rhan o gynlluniau Bwrdd Iechyd Powys
- Cyhoeddwyd
Byddai toriadau i ysbytai cymunedol yn achosi "niwed parhaol" i ardaloedd gwledig yng Nghymru, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd Syr Ed Davey fod Llywodraeth Cymru wedi "methu" wrth ddarparu gwasanaeth iechyd ac yn gwneud "toriadau" o ganlyniad.
Gwnaeth y sylwadau wrth i Fwrdd Iechyd Powys ystyried a ddylid lleihau nifer y gwelyau ysbytai cymunedol o tua 160 i 60.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys y byddan nhw'n trafod mewn cyfarfod ddydd Mercher a fyddan nhw'n "dechrau un o'r sgyrsiau cyhoeddus mwyaf arwyddocaol mewn cenhedlaeth ar ddyfodol gwasanaethau GIG lleol".
Os ydyn nhw'n dewis bwrw 'mlaen ag ymgynghoriad cyhoeddus, byddai ar agor am dri mis o ddechrau Hydref, ac maen nhw'n dweud nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud hyd yma.
Ansicrwydd am welyau yn y rhan fwyaf o ysbytai cymunedol Powys
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
Dros 150 yn galw am ddiogelu meddygfa sy'n 'llinell fywyd hanfodol'
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Roedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan yn ateb cwestiynau cyn cynhadledd hydref y blaid sydd i'w gynnal yn Brighton am bedwar diwrnod o ddydd Sadwrn.
Dywedodd mai un o themâu'r gynhadledd fyddai sut i "drwsio'r" gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd fod ysbytai cymunedol yn darparu gwasanaeth hollbwysig, ac yn le i drosglwyddo cleifion pan mae angen eu symud o ysbytai mawr.

Mae Syr Ed yn dweud bod angen "chwyldro mewn gofal cymdeithasol"
"Y broblem rydym yn ei gweld ym Mhowys, ac mewn rhannau eraill o Gymru wledig, yw oherwydd bod Llywodraeth Cymru - dan y blaid Lafur a nawr dan Blaid Cymru - wedi methu wrth ddarparu'r gwasanaeth iechyd, rydym yn gweld rhestrau aros llawer hirach yng Nghymru nag yn Lloegr," meddai.
"Nawr maen nhw'n gwneud y toriadau brawychus yma, ac nid yw hynny yn dderbyniol o gwbl.
"Bydd y toriadau yn achosi niwed parhaol i gymunedau gwledig a'u gwasanaethau iechyd os byddan nhw'n mynd yn eu blaen."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Trwy gymryd safbwynt hirdymor sy'n cael ei arwain gan glinigwyr, a £145m yn ychwanegol mewn gofal sydd wedi'i gynllunio, rydyn ni'n cynyddu capasiti'r GIG, yn lleihau'r rhestrau aros hiraf ac yn cefnogi byrddau iechyd yng Nghymru i gyflawni gwelliannau cynaliadwy i gleifion."
Ychwanegon nhw mai mater i'r bwrdd iechyd yw'r newidiadau ym Mhowys.
Etholiad y Senedd fis Mai yn 'siomedig'
Ychwanegodd Syr Ed fod angen "chwyldro mewn gofal cymdeithasol" a bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn dymuno gweithio ar sail drawsbleidiol i gyflawni hyn.
"Rhaid i ni fynd i'r afael â hyn," meddai.
"Mae wedi cymryd gormod o amser, mae'n costio swm enfawr o arian ac nid yw'n darparu'r gofal rydyn ni ei angen."
Fe wnaeth Syr Ed gyfaddef hefyd ei fod wedi siomi gyda pherfformiad ei blaid yn etholiad y Senedd ym mis Mai - pan enillon nhw un sedd yn unig.
Dywedodd fod y canlyniad yn un "siomedig", ond eglurodd bod y blaid wedi gwneud yn dda mewn mannau fel Caerdydd ac Abertawe, a'i fod yn obeithiol wrth edrych ymlaen at yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.