Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Lloegr 62-24 Cymru

Fe sgoriodd capten Lloegr sydd o Gaerdydd yn wreiddiol, Megan Jones, dau gais yn erbyn Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae tîm rygbi merched Cymru wedi colli o 62 i 24 yn erbyn Lloegr wrth i bencampwyr y byd redeg i ffwrdd â hi yn y diwedd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Ond fe lwyddodd Cymru frwydro'n gryf ar adegau ac fe gafon nhw bwynt bonws am sgorio pedwar cais.
Arhosodd Cymru yn y gêm am lawer o'r hanner cyntaf gyda'r mewnwr, Keira Bevan, a'r bachwr, Kelsey Jones yn sgorio ceisiau da.
Ond dydy'r canlyniad ddydd Sadwrn ddim yn dod fel sioc i nifer gyda Lloegr yn profi dro ar ôl tro eu bod yn perfformio ar lefel tipyn yn uwch na gweddill y gystadleuaeth.
Er nad oedd Lloegr ar eu gorau ddydd Sadwrn fe sgorion nhw 5 o geisiau cyn yr hanner - gyda'r capten sydd o Gaerdydd yn wreiddiol, Megan Jones yn bachu dau.
29-12 oedd y sgôr ar y deugain ond ar y pryd roedd Cymru dal ynddi ac ambell i ystadegyn yn eu ffafrio hyd yn oed.
Yn yr ail hanner wedyn fe daniodd Lloegr ac fe sgorion nhw eu chweched cais o fewn 6 munud a brofodd yn ergyd drom.
Cafodd cefnwr Cymru, Kayleigh Powell gerdyn melyn am fwrw'r bêl ymlaen yn fwriadol ac fe aeth Lloegr yn syth i'r gornel cyn lledu'r bêl i sgorio eu seithfed - gyda chais hyfryd yn y gornel.
Yn y diwedd fe redodd Lloegr i ffwrdd â'r gêm ac er i Gymru sgorio dau gais yn hwyr fe sgoriodd Lloegr gyfanswm o 10.
Dydy Cymru ddim wedi ennill gêm yn y Bencampwriaeth ers 2024.
Nawr eu bod wedi colli eu tair gêm gyntaf mi fydd carfan hyfforddwr Cymru, Sean Lynn yn gobeithio adeiladau a thargedu'r ddwy gêm olaf er mwyn gorffen ar nodyn cadarnhaol.
Mi fyddan nhw'n wynebu'r Gwyddelod oddi cartref ar 9 Mai ac yna gêm gartref i orffen a hynny yn erbyn yr Eidal ar 17 Mai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd11 Ebrill
